Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am rannu copi ymlaen llaw gyda ni. A gaf i yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, dalu teyrnged ar goedd i staff y GIG yn y gogledd, sydd wedi bod yn gwneud gwaith clodwiw iawn, rwy'n credu, i allu ymdopi dan rai amgylchiadau anodd iawn o ganlyniad i'r pandemig COVID? Nid yw bob amser yn hawdd, yn enwedig ar adegau fel y rhain, ond maen nhw wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb ac yn cyflawni mewn gwirionedd ar ran fy etholwyr ac etholwyr cynrychiolwyr eraill yn y Senedd hon, ac fe hoffwn i eu cymeradwyo am eu gwaith.
Mae hi wedi bod dros bum mlynedd bellach—rydym ni yn chweched flwyddyn y gyfundrefn mesurau arbennig yma yn y gogledd—ac mae llawer o bobl yn anhapus iawn ei bod hi wedi cymryd cyhyd i geisio datrys y problemau. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, pan roddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, y byddai cyfres o gynlluniau 100 diwrnod i geisio newid perfformiad. Wel, mae'n teimlo ychydig yn fwy tebyg i'r rhyfel 100 mlynedd o ran gwneud cynnydd yn hynny o beth. Cyfeiriodd y Gweinidog at y ffaith nad yw'r gyfundrefn mesurau arbennig yn berthnasol bellach i'r gwasanaethau mamolaeth na'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, a chroesawaf y ffaith nad yw'n berthnasol mwyach, ond rhaid inni beidio ag anghofio mai o ganlyniad i'r cyhoedd yn gorymdeithio ar y strydoedd y gwelsom y gwelliannau yn y gwasanaethau mamolaeth hynny a diogelwch y gwasanaethau mamolaeth, yn enwedig yn Ysbyty Glan Clwyd, yr ysbyty sy'n gwasanaethu fy etholaeth fy hun ac, yn wir, etholwyr eich etholaeth chi, Dirprwy Lywydd.
O ran arweinyddiaeth hefyd yn y bwrdd iechyd, bu cryn newid dwylo. Rydym ni wedi gweld prif weithredwyr yn mynd a dod, rydym ni wedi gweld cyfarwyddwyr cyllid yn mynd a dod, rydym ni wedi gweld arweinwyr iechyd meddwl yn mynd a dod, a bu hi'n dipyn o draed moch mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y prif weithredwr newydd, pan fydd yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd, yn rhywun a fydd yn medru aros yn ei swydd, mynd i'r afael â'r problemau hyn a dod â nhw i fwcwl unwaith ac am byth.
Nawr, os gallaf hefyd fanteisio ar y cyfle heddiw i groesawu'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn y gogledd gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wastad wedi dweud fy mod yn credu y bu diffyg strwythurol, a etifeddwyd gan y sefydliad yn y gogledd pan unodd â'r sefydliadau iechyd eraill yn y rhanbarth, pan gafodd ei sefydlu. Rwy'n credu y bydd y £40 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf yn ei helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny nad yw wedi gallu mynd i'r afael â nhw oherwydd diffyg adnoddau a chyllid. A gaf i ofyn i'r Gweinidog a yw'r cyllid hwn o £40 miliwn yn gydnabyddiaeth bod diffyg strwythurol, ac os ydyw, a yw hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau y tu hwnt i'r tair blynedd hyn? Gwyddom y canfuwyd diffygion strwythurol mewn byrddau iechyd eraill o gryn faint—Hywel Dda yn arbennig—ac y bu cyllid ar gael yn barhaol yn y fan yna, a chredaf fod achos dros sicrhau bod y £40 miliwn ychwanegol hwn ar gael yn barhaol yn hytrach na dim ond am gyfnod o dair blynedd.
Unwaith eto, rwy'n croesawu'r £30 miliwn sy'n cael ei ddarparu i geisio helpu perfformiad o ran gwasanaethau brys, ac yn wir i fynd i'r afael â'r rhestrau aros amser atgyfeirio i driniaeth hefyd, ond eto, nid wyf yn siŵr a fydd £30 miliwn mewn gwirionedd yn ymdrin yn llwyr â'r broblem honno nac yn ei dileu. Rwy'n gwybod bod gan y bwrdd iechyd gynigion y mae'n eu cyflwyno a fydd yn gofyn am rywfaint o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, yn enwedig gydag amseroedd aros am driniaeth, y collwyd pob rheolaeth arnyn nhw dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig, ond a oedd eisoes yn sylweddol iawn hyd yn oed cyn hynny, gyda phobl yn aros dwy flynedd fel arfer am lawdriniaeth orthopedig. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Gweinidog, yn ogystal â'r adnodd hwn o £30 miliwn i gefnogi llawdriniaethau heb eu cynllunio a dewisol, a fyddwch yn gallu gwneud peth buddsoddiad cyfalaf ychwanegol hefyd mewn pethau fel llawdriniaeth robotig, nad oes gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer cleifion wroleg yn y gogledd, ac yn wir o ran helpu i glirio'r rhestr aros honno, efallai gyda chanolfannau diagnostig a thriniaeth sydd ar wahân i'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar ein safleoedd ysbytai presennol?
Ac yn olaf, os gallaf droi at ran iechyd meddwl y datganiad heddiw, mae'n amlwg ein bod yn gwybod y bu pryderon difrifol am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd ers peth amser. Rydym ni wedi gweld y diffyg crebwyll ar ran y bwrdd iechyd gyda 1,600 o gleifion yn cael eu rhyddhau o wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy'n gwybod y bydd rhywfaint o newid—ac y bu rhywfaint o newid—yn arweinyddiaeth y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl o fewn y bwrdd, ond mae'n amlwg yn hanfodol ein bod ni'n cael rhywfaint o ffydd, wrth symud ymlaen bod y gwasanaethau hyn yn flaenoriaeth bendant. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu buddsoddi mewn uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, ac rwy'n falch iawn o'i gweld ac mae bellach ar waith, ond rwy'n pryderu nad arian i'w wario ar adeiladau yn unig sydd ei angen yma yn amlwg; mae angen inni newid y diwylliant o fewn y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen. Pa mor ffyddiog ydych chi y byddwch yn gallu sicrhau'r math o arweinyddiaeth a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd y mae angen dybryd inni ei gweld? Diolch, Llywydd.