Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at argymhelliad tebyg a wnaed gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fel rhan o'i ymchwiliad i addysgu hanes Cymru. Nododd y pwyllgor hwnnw y byddai mabwysiadu'r dull hwn o weithredu'n caniatáu i bob disgybl ddeall sut y mae digwyddiadau lleol a chenedlaethol wedi ffurfio eu gwlad yng nghyd-destun hanesion Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwnnw gan Lywodraeth Cymru ar y sail bod y cwricwlwm newydd wedi'i arwain gan ddibenion a'i fod yn symud yn fwriadol oddi wrth nodi rhestrau o bynciau a chynnwys i'w haddysgu. Yn hytrach, fel y mae'r Gweinidog wedi amlinellu ar adegau eraill, mae'r cwricwlwm newydd yn ceisio rhoi rhyddid i athrawon ac ysgolion wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â'r hyn a addysgir o fewn fframwaith cenedlaethol eang.
Nawr, os caf grwydro ychydig, mae'r tensiwn rhwng y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd a galwadau am addysgu pynciau a materion penodol fel rhan ohono wedi bod yn nodwedd reolaidd o gyfarfodydd y Pwyllgor Deisebau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n densiwn gwirioneddol, ac mae'n amlygu pwysigrwydd hanfodol cael y canllawiau a'r adnoddau a fydd yn cyd-fynd â'r cwricwlwm yn iawn. Dyna sydd wrth wraidd y ddwy ddeiseb.
I amlinellu'r ddadl a wnaed gan y ddeiseb hon ymhellach, mae'r deisebydd yn gofyn sut y gallwn ddeall y gymdeithas rydym yn byw ynddi os na allwn ddeall beth sydd wedi digwydd yn ein gorffennol. Mae'n dadlau bod y graddau y caiff disgyblion eu haddysgu am adegau allweddol yn yr hanes hwn yn amrywio ac mae am i'r cwricwlwm newydd fynd i'r afael â hyn. Yn ganolog i'r ddeiseb ceir galw am sefydlu cynnwys hanesyddol craidd ac i adnoddau gael eu datblygu i gynorthwyo ysgolion ac athrawon i ddarparu addysg gyson, pwynt y byddaf yn dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Gadawaf i'r Gweinidog amlinellu'r ffordd y mae wedi ymateb i'r dadleuon hyn. Fodd bynnag, rwyf am grybwyll bod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried tystiolaeth ysgrifenedig gan Estyn, sydd ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o addysgu hanes Cymru mewn ysgolion. Mae'n chwilio am enghreifftiau o arferion gorau ac efallai y bydd yn gwneud ei awgrymiadau ei hun yn y pen draw. Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddrwg ar y gwaith, wrth gwrs, ac erbyn hyn nid yw'n debygol o adrodd tan haf 2021.
Fe symudaf ymlaen yn awr at y ddeiseb arall yn y ddadl hon, sef y milfed deiseb i'w hystyried gan y Pwyllgor Deisebau, sy'n sicr yn garreg filltir bwysig i'n prosesau. Mae hefyd yn un o'r deisebau mwyaf a gawsom, ar ôl casglu—ac fe ddywedais un o'r deisebau mwyaf a gawsom—34,736 o lofnodion ar ôl iddi gael ei chyflwyno gan Angharad Owen ym mis Mehefin eleni. Cyflwynwyd y ddeiseb yn dilyn lladd George Floyd gan un o swyddogion yr heddlu yn UDA a'r protestiadau a ddilynodd ledled y byd, gyda llawer ohonynt, wrth gwrs, yn gysylltiedig â mudiad Black Lives Matter. Hon yw un o'r deisebau a dyfodd gyflymaf i'r Senedd, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y materion y mae'n eu codi a'r angen dybryd inni wneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymdeithas.
Ym Mhrydain, canolbwyntiodd llawer o'r protestiadau a ddilynodd farwolaeth George Floyd ar etifeddiaeth trefedigaethedd a chaethwasiaeth. Mae'r ddeiseb hon yn galw am i'r hanes hwnnw, ac yn benodol y rhan a chwaraeodd Cymru ynddo, gael ei gynrychioli yn y cwricwlwm. Mae'r ddeiseb yn dadlau bod yr ymerodraeth Brydeinig weithiau wedi cael ei glamoreiddio, tra bod effaith fyd-eang trefedigaethedd wedi'i bychanu, gydag effaith uniongyrchol ar fywydau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru heddiw.
Mae'r ddeiseb hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod digon o sylw'n cael ei roi i addysgu am etifeddiaeth yr agweddau hyn ar ein hanes yn ein hysgolion, gan gynnwys y rôl a chwaraeodd Cymru a'r effaith ar bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae'r deisebydd wedi cydnabod y gall addysgu'r materion hyn fod yn anodd i athrawon. Gall fod yn bwnc emosiynol gyda pherthnasedd personol uniongyrchol i brofiadau a safbwyntiau unigolion yn ogystal â digwyddiadau yn y byd heddiw. Felly, mae'r ddeiseb yn dadlau bod angen adnoddau a chymorth ychwanegol i roi gwybodaeth a hyder i athrawon allu mynd i'r afael â'r pynciau hyn yn briodol gyda'u myfyrwyr.
Wrth ymateb i'r ddeiseb, mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at weithgor a sefydlwyd i ystyried hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel rhan o stori Cymru dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams. Gadawaf i'r Gweinidog egluro mwy am y gwaith hwn, sydd â photensial i arwain at rywfaint o'r newid y mae'r ddeiseb hon yn gofyn amdano, ond hoffwn nodi ein cefnogaeth iddo ar y dechrau.
Wrth gloi fy sylwadau agoriadol, mae'n bwysig cydnabod bod yr hanesion a nodwyd gan y ddwy ddeiseb yn chwarae rhan gyfartal yn stori Cymru a'i phobl. Rhaid i addysgu ein hanes yn llawn, y da a'r drwg, a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru heddiw, ymdrechu i siarad â phawb, a datblygu cipolwg cyflawn a manwl i'n pobl ifanc ar yr hyn a fu. Nid her fach yw honno. Ond mae'n adeg amserol i gynnal y drafodaeth hon, oherwydd digwyddiadau'r byd a datblygu'r cwricwlwm newydd a'r adnoddau i'w gefnogi. Mae'r Pwyllgor Deisebau'n cydnabod y dull hyblyg sydd wrth wraidd y broses o gynllunio'r cwricwlwm hwnnw. Yr her, wrth gwrs, i'r Gweinidog a phawb sy'n ymwneud â'i ddatblygiad, yw sicrhau y gall pobl fod yn hyderus y bydd disgyblion yn cael gwybodaeth allweddol am y grymoedd sydd wedi llunio Cymru heddiw, ac y bydd ein hathrawon a'n myfyrwyr yn cael adnoddau a hyfforddiant i'w cefnogi yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill dros weddill y ddadl hon. Diolch yn fawr.