Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Yn gynharach heddiw cyfarfûm â Sefydliad Iechyd y Byd—cyfarfûm â chyfarwyddwr y rhanbarth Ewropeaidd, Dr Hans Kluge. Ac roedd yn amlwg mai'r dewis olaf yw cyfyngiadau symud, ond y sefyllfa roeddem ynddi oedd nad oedd mesurau eraill wedi bod yn llwyddiannus. Byddai'r llanw cynyddol roeddem yn ei weld—y llif cynyddol o niwed—wedi arwain at lawer mwy o niwed, nid yn unig niwed COVID, ond mae'r effaith y mae coronafeirws yn ei chael yn ein hysbytai heddiw yn effeithio'n uniongyrchol ar ofal nad yw'n ofal COVID a marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID, a pheth ffôl iawn yw gwadu'r realiti hwnnw. Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod y cyfnod atal byr rydym wedi'i gyflwyno yng Nghymru yn amhriodol, nid ydynt yn dweud mai dyna'r peth anghywir i'w wneud, maent yn dweud y dylem ystyried pob mesur arall yn gyntaf, fel rydym wedi'i wneud. Dyna pam ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, oherwydd nid oedd mesurau llwyddiannus eraill inni eu gweithredu. Aeth y gyfradd achosion dros saith diwrnod yng Nghymru o 130 o achosion ym mhob 100,000 i fyny i 260 o achosion erbyn hyn—mae wedi dyblu, er gwaethaf y cyfnod atal byr. Gwyddom fod ein GIG yn wynebu risg wirioneddol o gael ei orlethu. Mae nifer y bobl a gludir i'r ysbyty gyda'r coronafeirws yn parhau i dyfu bob dydd—mae wedi cynyddu 20 y cant ers yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Erbyn hyn mae traean ein gwelyau gofal critigol yn trin cleifion COVID. Nid clefyd ysgafn yw coronafeirws, mae'n heintus iawn, mae'n gwneud pobl yn ddifrifol wael, ac mae'n lladd. Mae'n glefyd angheuol.
Rwy'n falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i weithredu'n gynharach yng Nghymru nag y gwnaeth ein cymheiriaid dros y ffin. Rwy'n dweud hynny er fy mod yn cydnabod pa mor anodd yw'r dewis hwnnw. Nid yw'n ddewis rwyf fi nac unrhyw Weinidog arall wedi mwynhau ei wneud, oherwydd gwyddom fod gosod cyfyngiadau symud yn achosi niwed gwirioneddol. Ond rydym yn gwneud hyn er mwyn osgoi llawer mwy o niwed yn sgil gorlethu'r GIG a mwy o bobl yn marw o'r coronafeirws a chyflyrau eraill. Ac felly rwy'n croesawu'r cyfyngiadau y mae Lloegr bellach wedi dewis eu gosod; maent yn pwysleisio difrifoldeb y bygythiad a wynebwn ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig, a sylwaf fod Senedd y DU heddiw wedi cymeradwyo'r cyfyngiadau am bedair wythnos yn Lloegr.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae o hyd yn yr ymdrech genedlaethol rydym yn dal i fynd drwyddi yma yng Nghymru i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus. Mae'n parhau'n hanfodol ein bod yn dal i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo masg wyneb pan fo gofyn gwneud hynny, oherwydd po fwyaf o bobl rydym yn cyfarfod â hwy, y mwyaf o berygl sydd yna o ddal coronafeirws. A gofynnwn i bobl feddwl nid yn unig am yr hyn a ganiateir ac sydd o fewn y rheolau, ond yr hyn y dylem ei wneud, ac arfer cyfrifoldeb personol ac ymwybyddiaeth o sut y gallwn leihau'r risg i ni ein hunain, i'n ffrindiau, ein teulu a'n hanwyliaid. Felly, mae'n dal i fod yn ofynnol i bawb yng Nghymru aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd, oherwydd gwyddom fod y feirws hwn yn ffynnu ar gyswllt dynol. Er mwyn lleihau faint o ryngweithio sy'n digwydd, rhaid i bobl beidio â chyfarfod ag eraill nad ydynt yn byw gyda hwy, naill ai dan do neu yn yr awyr agored, tan ddiwedd y cyfnod atal byr, ac eithrio'n unig oedolion sy'n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl, sy'n dal i allu cyfarfod ag un aelwyd arall.
Rwy'n atgoffa pobl hefyd ein bod wedi dewis blaenoriaethu lles plant a phobl ifanc. Gwyddom am y niwed a fyddai wedi'i achosi i'w hiechyd meddwl a'u lles, fel y gwelsom drwy'r haf pan oedd yr ysgolion ar gau. Golygai hynny fod yn rhaid inni wneud dewisiadau eraill, gan gynnwys y dewisiadau ar gau'n ehangach. Dyna pam fod pob busnes manwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth wedi cau. Nodaf fod yna adroddiadau bellach y bydd manwerthu nad yw'n hanfodol yn Lloegr yn cael ei gyfyngu mewn archfarchnadoedd yn debyg i'r ffordd y'i gwnaethom yma yng Nghymru. Mae cau hefyd wedi effeithio ar ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu, a hyd yn oed mannau addoli. Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd a phellgyrhaeddol y bu'n rhaid inni eu gwneud er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Ond hefyd, rydym wedi darparu cymorth i fusnesau—pwynt y soniodd yr Aelod amdano yn ei gyfraniad—oherwydd rwy'n cydnabod bod hon yn risg economaidd yn ogystal ag un iechyd cyhoeddus. Dyna pam fod gennym £300 miliwn o gymorth ariannol drwy'r cyfnod heriol hwn, a hefyd taliad untro o £5,000 i fusnesau bach y bu'n rhaid iddynt gau. Mae hynny'n ychwanegol at y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys wrth gwrs, yn dilyn y dirywiad yn ne Lloegr, ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo llawer mwy hael a chymorth i'r hunangyflogedig ledled y DU. Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru, rydym yn croesawu'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin mewn ymateb i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, y byddai'r cynllun ffyrlo hwnnw ar gael pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen yn y DU. Disgwyliwn i'r Prif Weinidog gadw ei air, a roddwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, a byddem yn disgwyl iddo gyfarwyddo unrhyw Ganghellor mewn Llywodraeth o dan arweiniad ef i wneud yr un peth.
Mae'r cyfnod atal byr yn sioc fer a sydyn er mwyn troi'r cloc yn ôl, arafu'r feirws a phrynu mwy o amser i'n helpu i achub bywydau. Rydym yn cryfhau paratoadau'r gaeaf, gan gynnwys adeiladu ar ein system brofi, olrhain, diogelu lwyddiannus. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae pobl wedi ymddwyn ledled Cymru drwy gefnogi'r cyfnod atal byr. Ond dywedasom na fyddai llwyddiant y cyfnod atal byr i'w weld, o ran ei effaith ar gyfraddau heintio, am o leiaf bythefnos i dair wythnos ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben. Mae hynny'n golygu, o ran heintiau newydd heddiw, ein bod yn gweld effaith yr hyn oedd yn digwydd ddwy i dair wythnos yn ôl yn y gorffennol. Ond bydd yr aberth rydym i gyd yn ei gwneud yn ystod y pythefnos hwn yn diogelu'r GIG ac yn achub bywydau wrth symud ymlaen, wrth inni gyflwyno cyfres o reolau cenedlaethol symlach i ddod i rym ar 9 Tachwedd, rheolau a amlinellwyd gan y Prif Weinidog ddoe.
Dylai pawb ystyried yn ofalus sut rydym yn dilyn y rheolau a hefyd sut rydym yn ystyried yr angen i feddwl am yr hyn y dylem ei wneud. Mae hyn i gyd yn ymwneud â rhoi'r cyfle gorau inni adfer rheolaeth a chyda diwedd y flwyddyn yn agosáu, er mwyn osgoi cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hirach a mwy niweidiol yr ydym yn awyddus i'w osgoi.
Nid wyf yn dilyn nac yn cytuno â dadl yr Aelod fod coronafeirws rywsut yn yn llai pwysig nac yn llai niweidiol. Mae'n glefyd heintus iawn. Mae'n glefyd angheuol. Mae'n fwyaf tebygol o achosi niwed i'n cymunedau tlotaf. Nid yw coronafeirws yn taro pawb yr un fath. Y bobl sydd â'r lleiaf o fanteision mewn bywyd yw'r rhai mwyaf tebygol o ddioddef niwed a marwolaeth o'r coronafeirws. Mae'n atgyfnerthu'r angen i weithredu er mwyn adfer rhywfaint o reolaeth, er mwyn achub bywydau ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Fe roddaf syniad o'r hyn y mae hynny wedi'i olygu yng Nghymru, gyda'r clefyd angheuol hwn. Rhwng 29 Chwefror a 23 Hydref, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu cynnydd o 12 y cant yn nifer y marwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Mae hyd yn oed yn fwy sylweddol yn Lloegr, gyda chynnydd o 19 y cant yn nifer y marwolaethau ychwanegol. Yng Nghymru, mae'r 12 y cant y cyfeiriodd yr Aelod ato fel cyn lleied o farwolaethau yn golygu bod 2,418 o fywydau ychwanegol wedi'u colli—2,418 o deuluoedd ychwanegol yn galaru. Dyna pam ein bod wedi gweithredu: er mwyn atal rhag colli rhagor o fywydau a bywoliaeth pobl. A dyna pam mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan, gweithredu i gadw ffrindiau, teulu ac anwyliaid yn ddiogel, gweithredu i gadw pobl na fyddwn byth yn cyfarfod â hwy'n ddiogel.
Nid yw'r dewisiadau'n hawdd i'r un ohonom, ond gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Gall pob un ohonom helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Ddirprwy Lywydd.