11. Dadl Fer: Cymesuredd cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:31, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwrandewais ar y cyfraniad a wnaeth yr Aelod, a rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno nid yn unig â byrdwn ei ddadl, ond â llawer iawn o'r manylion a gynhwysai, a chredaf ei bod yn enghraifft o hyrwyddo barn ymylol mewn ffordd sy'n beryglus, ac a all arwain mewn gwirionedd at gamarwain y cyhoedd ar adeg pan fo arnom angen mwy o wybodaeth, mwy o eglurder a mwy o ymddiriedaeth.

Ddoe, cytunodd y Senedd, ar ôl dadl, ar y rheoliadau sy'n darparu bod y cyfyngiadau presennol yn parhau nes i'r cyfnod atal byr ddod i ben fel y bwriadwyd ar 9 Tachwedd. Rydym yn dal i wynebu bygythiad cyhoeddus gwirioneddol a chynyddol y coronafeirws yma yng Nghymru, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau o rywfaint o'r hyn a ddywedais ddoe: yn yr wythnosau'n arwain at y cyfnod atal byr, roedd y feirws yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Rydym newydd fynd drwy'r wythnos fwyaf marwol yn y pandemig er pan oedd ar ei anterth ym mis Ebrill. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd meddwl a lles, fod 44 o bobl eraill wedi colli eu bywydau i'r clefyd ofnadwy hwn gwaetha'r modd. Ac roeddwn yn bryderus iawn pan gyfeiriodd yr Aelod yn ei sylwadau tua'r diwedd at gyn lleied o farwolaethau a fu o'r clefyd hwn. Nid wyf yn credu bod hynny'n briodol o gwbl. Rwy'n cydymdeimlo â holl deuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi colli eu bywydau. Ar ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,939 o bobl—a gwyddom fod y ffigur gwirioneddol yn fwy—wedi colli eu bywydau'n drasig ers dechrau'r pandemig hwn.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi gwrando ar gyngor clir y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a'n harbenigwyr gwyddonol ein hunain yn y gell cyngor technegol ac wedi pwyso a mesur y cyngor hwnnw'n ofalus cyn penderfynu gweithredu'r cyfyngiadau eithriadol hyn. Ac mae dewisiadau i bob un ohonom: cyfeiriodd yr Aelod at yr arbenigwyr 'fel y'u gelwir' yn SAGE. Maent yn arbenigwyr go iawn yn eu meysydd, a chredaf fod ceisio cyfeirio atynt i fychanu'r arbenigedd a'r wybodaeth y maent yn eu darparu i bob un ohonom allu gwneud dewisiadau anodd yn eu cylch yn gwbl anghywir.

Wrth gwrs, gall aelodau'r cyhoedd benderfynu pwy i'w gredu. Gallant gredu arbenigwyr gwyddonol SAGE, nad oes gwahaniaeth ganddynt pwy yw Llywodraeth y dydd, ond sy'n herio ac yn darparu gwybodaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau; gallant gredu pob un o brif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig sy'n dweud bod hwn yn fygythiad clir a phresennol i ddyfodol y wlad, i fywydau a bywoliaeth pobl; neu gallant gredu'r Aelod. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddarllen eto y dystiolaeth wyddonol a wnaeth yr achos dros y cyfnod atal byr ac a gyhoeddwyd gennym o'n cell cyngor technegol ein hunain. Ac mae hyn yn ychwanegol at fesurau eraill a gymerwyd, oherwydd, ers mis Medi, roeddem wedi gweithredu cyfres o ardaloedd diogelu iechyd lleol. Gwnaethant wahaniaeth i helpu i leihau trosglwyddiad, a hoffwn ddiolch i bobl am yr ymdrechion a wnaethant i gefnogi'r holl gyfyngiadau hynny, ond ar eu pen eu hunain, nid oeddent yn ddigon.