– Senedd Cymru am 5:20 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan David Rowlands. David Rowlands.
Bydd rhaid i chi aros eiliad tra byddwn yn rhoi trefn ar eich meicroffon. Iawn, rhowch gynnig arni nawr.
O'r gorau. A ydych chi'n gallu fy nghlywed nawr?
Gallwn. Gallwch barhau.
Iawn, diolch yn fawr iawn. Diolch, Lywydd. A gaf fi roi rhagarweiniad i'r ddadl hon drwy ddweud nad yw wedi'i chynllunio i annog pobl i dorri amodau'r cyfyngiadau symud? I'r gwrthwyneb, rwy'n annog pobl i ufuddhau i'r cyfyngiadau, ar gyfer y cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau a fydd ar waith ar ôl dydd Llun nesaf. Amcan cyffredinol y ddadl hon yw cwestiynu a yw'r strategaethau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir gan Lywodraeth y DU, yn gymesur â'r bygythiad a achosir gan COVID-19. Dylwn nodi yma fod dwylo Llywodraeth Cymru, i raddau helaeth iawn, wedi'u clymu gan ymyriadau Llywodraeth y DU, er y gwahanol drefniadau a weithredwyd gan bob Llywodraeth dros y misoedd diwethaf. Byddai gofyn bod wedi cael Llywodraeth ddewr iawn yng Nghymru i fod wedi ymateb i argyfwng COVID fel y gwnaeth Llywodraeth Sweden.
Nod fy sylwadau agoriadol yn y ddadl hon yw tynnu sylw at y ffaith bod COVID-19 wedi'i ail-gategoreiddio bellach fel clefyd nad yw'n glefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol, neu HCID, gan grŵp HCID iechyd cyhoeddus y pedair gwlad. Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus hefyd o'r farn na ddylid dosbarthu COVID-19 mwyach fel clefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio droeon eu bod yn ymateb i gyngor a roddir iddynt gan arbenigwyr, a bod cyngor yr arbenigwyr yn seiliedig ar ystadegau a modelau rhagamcanol mewn perthynas â'r pandemig COVID. Efallai y dylem atgoffa ein hunain fod 'pandemig' yma yn gamddefnydd o'r gair, oherwydd mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach wedi ailddiffinio'r argyfwng COVID fel 'bygythiad difrifol i iechyd', ac mae wedi datgan yn glir nad yw'n bandemig, ac mae'r sefydliad hwnnw bellach yn dadlau na ddylid defnyddio cyfyngiadau symud i fynd i'r afael â COVID-19. Os yw'r Llywodraeth a'u cynghorwyr, felly, yn dibynnu ar ystadegau COVID, mae'n hanfodol fod yr ystadegau hyn yn adlewyrchiad teg a chywir o sut mae COVID-19 yn effeithio ar y boblogaeth, ac nid yw'n adleisio'r ffigurau hurt a roddwyd gan arbenigwyr fel y'u gelwir y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau.
Yn gyntaf ymhlith yr ystadegau hyn y mae'r cynnydd yn y nifer sydd wedi'u heintio a'r cynnydd a ragwelir yn y nifer a fydd yn cael eu heintio. Fodd bynnag, mae'r ystadegau hyn yn gwbl ddibynnol ar nifer y profion a gyflawnir. O ystyried bod nifer y profion a gyflawnir, hyd yn oed gan ganiatáu ar gyfer diffygion y trefniadau profi, wedi codi ac yn dal i godi'n ddramatig, mae'n anochel y bydd y gydberthynas rhwng y nifer a heintiwyd a'r nifer sy'n cael prawf yn dangos cynnydd sylweddol yn y niferoedd y canfuwyd eu bod wedi cael y coronafeirws yn ogystal â'r rhai sydd â'r coronafeirws, ac yn hyn o beth, mae gwall sylweddol yn y bygythiad tybiedig a achosir gan COVID-19. Nid yw'r rheini sydd wedi cael y feirws, heb fawr ddim symptomau os o gwbl, yn fygythiad i'r rheini y dônt i gysylltiad â hwy—dywedir eu bod yn asymptomatig—ac eto maent wedi'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer heintiau newydd. O gofio bod nifer y rhai a heintiwyd yn y ffordd hon yn sylweddol yn ôl y sôn, a ddylid eu cynnwys yn ystadegau'r profion o gwbl, gan y gellid dweud bod eu heintiau'n rhai hanesyddol ac nad ydynt yn fygythiad i eraill? Dylwn nodi yma hefyd fod llawer o astudiaethau wedi dangos bod y trefniadau profi'n ddiffygiol iawn, gyda nifer fawr o bersonél gwyddonol amlwg mewn sefydliadau'n dweud ei bod yn system brofi gwbl annigonol, gyda chyfradd go fawr o groeshalogi a chanlyniadau hollol anghywir, ac eto yr ystadegau a roddir gan y cyfundrefnau profi presennol yw'r union rai y mae Llywodraeth Cymru a'i chynghorwyr yn dibynnu arnynt.
A gawn ni droi yn awr at yr ystadegyn arall sy'n arwain ymyriadau Llywodraeth Cymru, sef marwolaethau o haint COVID-19? Yma, rwy'n teimlo ei bod yn hanfodol gwahaniaethu rhwng y rhai y dywedir eu bod wedi marw o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19 a'r rhai y dywedir eu bod wedi marw gyda COVID-19. Gadewch imi ddyfynnu'n awr o'r cyngor meddygol a roddir i feddygon ynglŷn â chofnodi marwolaethau lle mae COVID yn bresennol neu'n wir, lle credir ei fod yn bresennol:
Gofynnir i ymarferwyr meddygol ardystio achosion marwolaeth 'hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred'. Heb brawf diagnostig, os yw'n briodol ac er mwyn osgoi oedi, gall ymarferwyr meddygol gylchu '2' ar y dystysgrif feddygol o achos marwolaeth,
('gall gwybodaeth o bost-mortem fod ar gael yn nes ymlaen') neu dicio Blwch B ar gefn y dystysgrif ar gyfer archwiliadau cyn marwolaeth. Er enghraifft, pe bai gan y claf symptomau cyn marwolaeth sy'n nodweddiadol o haint COVID-19, ond nad yw canlyniad y prawf wedi dod i law, byddai'n foddhaol rhoi 'Covid-19' fel achos marwolaeth.
Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y gellir cofnodi marwolaethau fel rhai sy'n gysylltiedig â COVID hyd yn oed os na wnaed prawf ar gyfer COVID. Bob dydd clywn am farwolaethau o COVID yn cael eu rhoi fel ystadegyn moel—dim sôn am ba mor hen oedd yr ymadawedig na ph'un a oedd ganddynt afiechydon isorweddol hirdymor, megis canser, problemau fasgwlaidd, diabetes, neu un o'r nifer o afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd y mae pobl yn marw ohonynt bob dydd. Dywed codau meddygol nad yw'n dderbyniol mwyach i ddatgan bod marwolaeth wedi digwydd o achosion naturiol, neu henaint mewn geiriau eraill. Fodd bynnag, mae ystadegau'n dangos bod y mwyafrif helaeth o farwolaethau'n digwydd mewn pobl dros 80 oed ac ychydig iawn, os o gwbl, mewn pobl o dan 50 oed.
Felly, beth yw'r canlyniadau trychinebus a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol? Wel, maent yn niferus ac yn amrywiol, ond mae pob un yn ei ffordd yn newid bywydau'r cannoedd o filoedd, miliynau yn wir, yr effeithir arnynt yn negyddol gan yr ymyriadau hyn. Yn gyntaf, wrth gwrs, ceir eu heffaith economaidd drychinebus ar gymdeithas yn ei chyfanrwydd ac ar unigolion yn gyffredinol. Mae miloedd lawer o fusnesau wedi chwalu neu ar fin chwalu, gan arwain at golli miloedd di-ben-draw o swyddi. Mae effaith ganlyniadol enfawr ar y rhai a ddiswyddwyd lle caiff arian ei dorri'n llym, gan arwain yn aml at gynnydd mawr mewn dyledion personol a chaledi ariannol cyffredinol. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng colli incwm a hunan-barch yn y ffordd hon sy'n aml yn arwain at broblemau iechyd meddwl a hyd yn oed at hunanladdiad. Yn wir, mae tystiolaeth ystadegol yn dangos cynnydd enfawr yn nifer yr hunanladdiadau ers dechrau'r cyfyngiadau symud.
Gadewch inni droi yn awr at farwolaethau yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Wrth gwrs, diogelu bywydau pobl sydd wedi rhoi'r prif reswm inni dros ymyriadau Llywodraethau mewn perthynas â COVID, ond gwyddom bellach, o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau COVID, fod nifer fawr iawn o farwolaethau'n digwydd oherwydd nad yw pobl yn troi at glinigwyr neu am na allant wneud hynny. Bu cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau o ganser, clefyd y galon, strôc a diabetes, a llu o glefydau o ganlyniad i'r ffaith nad yw ymyriadau clinigol arferol yn digwydd. Arwydd o'r marwolaethau hyn yw'r cynnydd sydyn yn nifer y marwolaethau sy'n digwydd yn y cartref yn hytrach na'r ysbyty. Mae llawer o'r farn fod yna gronfa gynyddol o bobl nad ydynt yn cael cymorth meddygol amserol ar gyfer y clefydau hyn sy'n lladd, ac ni fydd effaith hynny i'w deimlo am beth amser i ddod.
Ar hyn o bryd, rydym dan gyfyngiadau symud am 14 diwrnod, ac ar ôl hynny, beth nesaf? Gall unrhyw un ragweld, cyn gynted ag y daw'r cyfyngiadau i ben, y bydd nifer yr achosion o COVID yn cynyddu eto. Felly, a ydym yn wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau, wedi'i ddilyn gan un arall ac un arall yn ddiddiwedd? Neu a ydym yn aros am frechlyn i roi diwedd ar y malltod ofnadwy hwn ar economi a lles y wlad? Gwyddom i gyd y bydd pwy bynnag sy'n cynhyrchu brechlyn o'r fath yn gwneud biliynau o bunnoedd am amser hir i ddod, gan y bydd yn rhaid ailadrodd y brechiadau ar gyfnodau addas, oherwydd dywedir bod y feirws hwn yn mwtadu. Nawr, fel mae'n digwydd, ni chredir ei fod yn mwtadu ar yr un gyfradd â'r feirws ffliw cyffredin. Rwyf am gloi drwy ofyn y cwestiwn hwn: a allwn gyfiawnhau chwalu'r economi, gyda'r holl ganlyniadau a amlinellir uchod, i achub cyn lleied o fywydau, yn enwedig os ystyriwn y gellid gwneud hyn gydag ymyriadau wedi'u targedu'n llawer gwell? Mae'n amhosibl gorbwysleisio canlyniadau trychinebus cyfyngiadau cenedlaethol, yn enwedig i'r tlawd yn ein cymdeithas. Gadewch i mi ddyfynnu Dr David Nabarro o Sefydliad Iechyd y Byd:
Mae i gyfyngiadau symud un canlyniad na ddylech byth ei fychanu, sef eu bod yn gwneud pobl dlawd gymaint yn dlotach.
Ac mae pobl dlawd yn debygol o farw 10 mlynedd yn gynt na'r rhai sydd dros 80 oed a'r rhai sy'n marw o COVID heddiw. Felly, i orffen, daw adeg pan fo'r gwellhad yn dod yn waeth na'r salwch, ac rwyf fi a llawer o rai eraill yn credu ein bod wedi cyrraedd yr amser hwnnw.
Diolch. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwrandewais ar y cyfraniad a wnaeth yr Aelod, a rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno nid yn unig â byrdwn ei ddadl, ond â llawer iawn o'r manylion a gynhwysai, a chredaf ei bod yn enghraifft o hyrwyddo barn ymylol mewn ffordd sy'n beryglus, ac a all arwain mewn gwirionedd at gamarwain y cyhoedd ar adeg pan fo arnom angen mwy o wybodaeth, mwy o eglurder a mwy o ymddiriedaeth.
Ddoe, cytunodd y Senedd, ar ôl dadl, ar y rheoliadau sy'n darparu bod y cyfyngiadau presennol yn parhau nes i'r cyfnod atal byr ddod i ben fel y bwriadwyd ar 9 Tachwedd. Rydym yn dal i wynebu bygythiad cyhoeddus gwirioneddol a chynyddol y coronafeirws yma yng Nghymru, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau o rywfaint o'r hyn a ddywedais ddoe: yn yr wythnosau'n arwain at y cyfnod atal byr, roedd y feirws yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Rydym newydd fynd drwy'r wythnos fwyaf marwol yn y pandemig er pan oedd ar ei anterth ym mis Ebrill. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd meddwl a lles, fod 44 o bobl eraill wedi colli eu bywydau i'r clefyd ofnadwy hwn gwaetha'r modd. Ac roeddwn yn bryderus iawn pan gyfeiriodd yr Aelod yn ei sylwadau tua'r diwedd at gyn lleied o farwolaethau a fu o'r clefyd hwn. Nid wyf yn credu bod hynny'n briodol o gwbl. Rwy'n cydymdeimlo â holl deuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi colli eu bywydau. Ar ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,939 o bobl—a gwyddom fod y ffigur gwirioneddol yn fwy—wedi colli eu bywydau'n drasig ers dechrau'r pandemig hwn.
Rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi gwrando ar gyngor clir y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a'n harbenigwyr gwyddonol ein hunain yn y gell cyngor technegol ac wedi pwyso a mesur y cyngor hwnnw'n ofalus cyn penderfynu gweithredu'r cyfyngiadau eithriadol hyn. Ac mae dewisiadau i bob un ohonom: cyfeiriodd yr Aelod at yr arbenigwyr 'fel y'u gelwir' yn SAGE. Maent yn arbenigwyr go iawn yn eu meysydd, a chredaf fod ceisio cyfeirio atynt i fychanu'r arbenigedd a'r wybodaeth y maent yn eu darparu i bob un ohonom allu gwneud dewisiadau anodd yn eu cylch yn gwbl anghywir.
Wrth gwrs, gall aelodau'r cyhoedd benderfynu pwy i'w gredu. Gallant gredu arbenigwyr gwyddonol SAGE, nad oes gwahaniaeth ganddynt pwy yw Llywodraeth y dydd, ond sy'n herio ac yn darparu gwybodaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau; gallant gredu pob un o brif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig sy'n dweud bod hwn yn fygythiad clir a phresennol i ddyfodol y wlad, i fywydau a bywoliaeth pobl; neu gallant gredu'r Aelod. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddarllen eto y dystiolaeth wyddonol a wnaeth yr achos dros y cyfnod atal byr ac a gyhoeddwyd gennym o'n cell cyngor technegol ein hunain. Ac mae hyn yn ychwanegol at fesurau eraill a gymerwyd, oherwydd, ers mis Medi, roeddem wedi gweithredu cyfres o ardaloedd diogelu iechyd lleol. Gwnaethant wahaniaeth i helpu i leihau trosglwyddiad, a hoffwn ddiolch i bobl am yr ymdrechion a wnaethant i gefnogi'r holl gyfyngiadau hynny, ond ar eu pen eu hunain, nid oeddent yn ddigon.
Yn gynharach heddiw cyfarfûm â Sefydliad Iechyd y Byd—cyfarfûm â chyfarwyddwr y rhanbarth Ewropeaidd, Dr Hans Kluge. Ac roedd yn amlwg mai'r dewis olaf yw cyfyngiadau symud, ond y sefyllfa roeddem ynddi oedd nad oedd mesurau eraill wedi bod yn llwyddiannus. Byddai'r llanw cynyddol roeddem yn ei weld—y llif cynyddol o niwed—wedi arwain at lawer mwy o niwed, nid yn unig niwed COVID, ond mae'r effaith y mae coronafeirws yn ei chael yn ein hysbytai heddiw yn effeithio'n uniongyrchol ar ofal nad yw'n ofal COVID a marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID, a pheth ffôl iawn yw gwadu'r realiti hwnnw. Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod y cyfnod atal byr rydym wedi'i gyflwyno yng Nghymru yn amhriodol, nid ydynt yn dweud mai dyna'r peth anghywir i'w wneud, maent yn dweud y dylem ystyried pob mesur arall yn gyntaf, fel rydym wedi'i wneud. Dyna pam ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, oherwydd nid oedd mesurau llwyddiannus eraill inni eu gweithredu. Aeth y gyfradd achosion dros saith diwrnod yng Nghymru o 130 o achosion ym mhob 100,000 i fyny i 260 o achosion erbyn hyn—mae wedi dyblu, er gwaethaf y cyfnod atal byr. Gwyddom fod ein GIG yn wynebu risg wirioneddol o gael ei orlethu. Mae nifer y bobl a gludir i'r ysbyty gyda'r coronafeirws yn parhau i dyfu bob dydd—mae wedi cynyddu 20 y cant ers yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Erbyn hyn mae traean ein gwelyau gofal critigol yn trin cleifion COVID. Nid clefyd ysgafn yw coronafeirws, mae'n heintus iawn, mae'n gwneud pobl yn ddifrifol wael, ac mae'n lladd. Mae'n glefyd angheuol.
Rwy'n falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i weithredu'n gynharach yng Nghymru nag y gwnaeth ein cymheiriaid dros y ffin. Rwy'n dweud hynny er fy mod yn cydnabod pa mor anodd yw'r dewis hwnnw. Nid yw'n ddewis rwyf fi nac unrhyw Weinidog arall wedi mwynhau ei wneud, oherwydd gwyddom fod gosod cyfyngiadau symud yn achosi niwed gwirioneddol. Ond rydym yn gwneud hyn er mwyn osgoi llawer mwy o niwed yn sgil gorlethu'r GIG a mwy o bobl yn marw o'r coronafeirws a chyflyrau eraill. Ac felly rwy'n croesawu'r cyfyngiadau y mae Lloegr bellach wedi dewis eu gosod; maent yn pwysleisio difrifoldeb y bygythiad a wynebwn ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig, a sylwaf fod Senedd y DU heddiw wedi cymeradwyo'r cyfyngiadau am bedair wythnos yn Lloegr.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae o hyd yn yr ymdrech genedlaethol rydym yn dal i fynd drwyddi yma yng Nghymru i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus. Mae'n parhau'n hanfodol ein bod yn dal i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo masg wyneb pan fo gofyn gwneud hynny, oherwydd po fwyaf o bobl rydym yn cyfarfod â hwy, y mwyaf o berygl sydd yna o ddal coronafeirws. A gofynnwn i bobl feddwl nid yn unig am yr hyn a ganiateir ac sydd o fewn y rheolau, ond yr hyn y dylem ei wneud, ac arfer cyfrifoldeb personol ac ymwybyddiaeth o sut y gallwn leihau'r risg i ni ein hunain, i'n ffrindiau, ein teulu a'n hanwyliaid. Felly, mae'n dal i fod yn ofynnol i bawb yng Nghymru aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd, oherwydd gwyddom fod y feirws hwn yn ffynnu ar gyswllt dynol. Er mwyn lleihau faint o ryngweithio sy'n digwydd, rhaid i bobl beidio â chyfarfod ag eraill nad ydynt yn byw gyda hwy, naill ai dan do neu yn yr awyr agored, tan ddiwedd y cyfnod atal byr, ac eithrio'n unig oedolion sy'n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl, sy'n dal i allu cyfarfod ag un aelwyd arall.
Rwy'n atgoffa pobl hefyd ein bod wedi dewis blaenoriaethu lles plant a phobl ifanc. Gwyddom am y niwed a fyddai wedi'i achosi i'w hiechyd meddwl a'u lles, fel y gwelsom drwy'r haf pan oedd yr ysgolion ar gau. Golygai hynny fod yn rhaid inni wneud dewisiadau eraill, gan gynnwys y dewisiadau ar gau'n ehangach. Dyna pam fod pob busnes manwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth wedi cau. Nodaf fod yna adroddiadau bellach y bydd manwerthu nad yw'n hanfodol yn Lloegr yn cael ei gyfyngu mewn archfarchnadoedd yn debyg i'r ffordd y'i gwnaethom yma yng Nghymru. Mae cau hefyd wedi effeithio ar ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu, a hyd yn oed mannau addoli. Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd a phellgyrhaeddol y bu'n rhaid inni eu gwneud er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Ond hefyd, rydym wedi darparu cymorth i fusnesau—pwynt y soniodd yr Aelod amdano yn ei gyfraniad—oherwydd rwy'n cydnabod bod hon yn risg economaidd yn ogystal ag un iechyd cyhoeddus. Dyna pam fod gennym £300 miliwn o gymorth ariannol drwy'r cyfnod heriol hwn, a hefyd taliad untro o £5,000 i fusnesau bach y bu'n rhaid iddynt gau. Mae hynny'n ychwanegol at y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys wrth gwrs, yn dilyn y dirywiad yn ne Lloegr, ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo llawer mwy hael a chymorth i'r hunangyflogedig ledled y DU. Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru, rydym yn croesawu'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin mewn ymateb i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, y byddai'r cynllun ffyrlo hwnnw ar gael pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen yn y DU. Disgwyliwn i'r Prif Weinidog gadw ei air, a roddwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, a byddem yn disgwyl iddo gyfarwyddo unrhyw Ganghellor mewn Llywodraeth o dan arweiniad ef i wneud yr un peth.
Mae'r cyfnod atal byr yn sioc fer a sydyn er mwyn troi'r cloc yn ôl, arafu'r feirws a phrynu mwy o amser i'n helpu i achub bywydau. Rydym yn cryfhau paratoadau'r gaeaf, gan gynnwys adeiladu ar ein system brofi, olrhain, diogelu lwyddiannus. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae pobl wedi ymddwyn ledled Cymru drwy gefnogi'r cyfnod atal byr. Ond dywedasom na fyddai llwyddiant y cyfnod atal byr i'w weld, o ran ei effaith ar gyfraddau heintio, am o leiaf bythefnos i dair wythnos ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben. Mae hynny'n golygu, o ran heintiau newydd heddiw, ein bod yn gweld effaith yr hyn oedd yn digwydd ddwy i dair wythnos yn ôl yn y gorffennol. Ond bydd yr aberth rydym i gyd yn ei gwneud yn ystod y pythefnos hwn yn diogelu'r GIG ac yn achub bywydau wrth symud ymlaen, wrth inni gyflwyno cyfres o reolau cenedlaethol symlach i ddod i rym ar 9 Tachwedd, rheolau a amlinellwyd gan y Prif Weinidog ddoe.
Dylai pawb ystyried yn ofalus sut rydym yn dilyn y rheolau a hefyd sut rydym yn ystyried yr angen i feddwl am yr hyn y dylem ei wneud. Mae hyn i gyd yn ymwneud â rhoi'r cyfle gorau inni adfer rheolaeth a chyda diwedd y flwyddyn yn agosáu, er mwyn osgoi cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hirach a mwy niweidiol yr ydym yn awyddus i'w osgoi.
Nid wyf yn dilyn nac yn cytuno â dadl yr Aelod fod coronafeirws rywsut yn yn llai pwysig nac yn llai niweidiol. Mae'n glefyd heintus iawn. Mae'n glefyd angheuol. Mae'n fwyaf tebygol o achosi niwed i'n cymunedau tlotaf. Nid yw coronafeirws yn taro pawb yr un fath. Y bobl sydd â'r lleiaf o fanteision mewn bywyd yw'r rhai mwyaf tebygol o ddioddef niwed a marwolaeth o'r coronafeirws. Mae'n atgyfnerthu'r angen i weithredu er mwyn adfer rhywfaint o reolaeth, er mwyn achub bywydau ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Fe roddaf syniad o'r hyn y mae hynny wedi'i olygu yng Nghymru, gyda'r clefyd angheuol hwn. Rhwng 29 Chwefror a 23 Hydref, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu cynnydd o 12 y cant yn nifer y marwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Mae hyd yn oed yn fwy sylweddol yn Lloegr, gyda chynnydd o 19 y cant yn nifer y marwolaethau ychwanegol. Yng Nghymru, mae'r 12 y cant y cyfeiriodd yr Aelod ato fel cyn lleied o farwolaethau yn golygu bod 2,418 o fywydau ychwanegol wedi'u colli—2,418 o deuluoedd ychwanegol yn galaru. Dyna pam ein bod wedi gweithredu: er mwyn atal rhag colli rhagor o fywydau a bywoliaeth pobl. A dyna pam mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan, gweithredu i gadw ffrindiau, teulu ac anwyliaid yn ddiogel, gweithredu i gadw pobl na fyddwn byth yn cyfarfod â hwy'n ddiogel.
Nid yw'r dewisiadau'n hawdd i'r un ohonom, ond gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Gall pob un ohonom helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion rhithwir heddiw i ben. Diolch.