Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:16, 4 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr iawn. Mae'r bwrdd ar hyn o bryd, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, yn apelio yn erbyn dyfarniad y Comisiynydd Gwybodaeth y dylid rhyddhau ar unwaith adroddiad Holden i broblemau yn ward Hergest yn Ysbyty Gwynedd. Dwi'n meddwl bod hynny yn adlewyrchu'n wael iawn ar y bwrdd, ac nid mater hanesyddol ydy hyn. Mae adroddiadau eraill wedi awgrymu bod problemau yn parhau—adolygiad o therapïau seicolegol y llynedd, er enghraifft, yn nodi problemau strwythurol systemig a diwylliannol dwfn, a, lle mae bywydau wedi cael eu colli, mae methiant i fod yn agored yn gwbl, gwbl annerbyniol.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth ryw bedair blynedd yn ôl, mi ddywedodd y bwrdd nad oedd yr un farwolaeth wedi digwydd yn Hergest rhwng 2011 a 2016, ond mae adroddiadau'r crwner yn awgrymu fel arall, efo sawl marwolaeth naill ai ar yr uned neu o ganlyniad i bobl yn methu â chael triniaeth. Rwy'n gwybod am, beth bynnag, dri yn Ynys Môn.

Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yna Weinidog iechyd meddwl erbyn hyn, ond cwestiwn am dryloywder ydy hyn; mae'n mynd y tu hwnt i iechyd meddwl. Dwi wedi codi consern tebyg am y ffordd y mae ymchwiliad allanol i therapi iaith a lleferydd wedi cael ei handlo gan y bwrdd—adroddiad yn 2017, a hwnnw'n adroddiad sy'n cael ei gelu hefyd. A wnaiff y Gweinidog rŵan fynnu bod yr adroddiadau yna yn cael eu cyhoeddi a mynnu tryloywder llawn yn Betsi Cadwaladr, oherwydd mae cleifion a staff y gorffennol a'r presennol yn haeddu hynny?