1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dryloywder o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ55791
Rwy’n disgwyl i bob bwrdd iechyd yng Nghymru ymddwyn mewn ffordd agored a thryloyw gan gydbwyso eu rhwymedigaethau mewn perthynas â diogelu hawliau unigolion i breifatrwydd.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r bwrdd ar hyn o bryd, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, yn apelio yn erbyn dyfarniad y Comisiynydd Gwybodaeth y dylid rhyddhau ar unwaith adroddiad Holden i broblemau yn ward Hergest yn Ysbyty Gwynedd. Dwi'n meddwl bod hynny yn adlewyrchu'n wael iawn ar y bwrdd, ac nid mater hanesyddol ydy hyn. Mae adroddiadau eraill wedi awgrymu bod problemau yn parhau—adolygiad o therapïau seicolegol y llynedd, er enghraifft, yn nodi problemau strwythurol systemig a diwylliannol dwfn, a, lle mae bywydau wedi cael eu colli, mae methiant i fod yn agored yn gwbl, gwbl annerbyniol.
Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth ryw bedair blynedd yn ôl, mi ddywedodd y bwrdd nad oedd yr un farwolaeth wedi digwydd yn Hergest rhwng 2011 a 2016, ond mae adroddiadau'r crwner yn awgrymu fel arall, efo sawl marwolaeth naill ai ar yr uned neu o ganlyniad i bobl yn methu â chael triniaeth. Rwy'n gwybod am, beth bynnag, dri yn Ynys Môn.
Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yna Weinidog iechyd meddwl erbyn hyn, ond cwestiwn am dryloywder ydy hyn; mae'n mynd y tu hwnt i iechyd meddwl. Dwi wedi codi consern tebyg am y ffordd y mae ymchwiliad allanol i therapi iaith a lleferydd wedi cael ei handlo gan y bwrdd—adroddiad yn 2017, a hwnnw'n adroddiad sy'n cael ei gelu hefyd. A wnaiff y Gweinidog rŵan fynnu bod yr adroddiadau yna yn cael eu cyhoeddi a mynnu tryloywder llawn yn Betsi Cadwaladr, oherwydd mae cleifion a staff y gorffennol a'r presennol yn haeddu hynny?
Credaf ei bod yn bwysig deall bod proses barhaus yn mynd rhagddi. Mae'r bwrdd iechyd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i ryddhau'r adroddiad yn llawn, yn hytrach na'r crynodeb sydd eisoes wedi'i ddarparu ganddynt, gan gynnwys yr argymhellion sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae hynny ar y sail fod y bwrdd iechyd yn dymuno diogelu staff sydd wedi mynegi pryderon ac wedi cyfrannu at yr adroddiad.
Os caf gymryd cam yn ôl oddi wrth yr unigolion a meddwl yn fwy cyffredinol am fy mywyd blaenorol, pan oeddwn, fel cyfreithiwr cyflogaeth, yn edrych ar amrywiaeth o faterion ac yn meddwl am fuddiannau ein hundebau llafur a'r staff y maent yn eu cynrychioli, mae pob un ohonom yn dymuno cael proses lle mae pobl yn gwrando ar chwythwyr chwiban, lle caiff eu safbwyntiau eu parchu a lle caiff camau eu cymryd o ddifrif i ymchwilio i bryderon a godir ganddynt. Er mwyn rhoi hyder i bobl y gallent ac y dylent godi pryderon, mae diwylliant unrhyw sefydliad, gan gynnwys y gweithle neu'r gweithleoedd penodol y mae pobl yn gweithio ynddynt, yn rhan hynod bwysig o hynny.
Gwyddom fod rhai pobl yn ofni y bydd eu cwynion yn arwain at gymryd camau yn eu herbyn, ond mae'n ymwneud â’r ffordd y caiff enwau pobl eu datgelu ar sail ehangach hefyd. Mae'n bwysig fod chwythwyr chwiban sy’n dymuno codi cwynion neu bryderon yn anhysbys—y rheini sydd am gyfrannu at adroddiadau ond nad ydynt yn disgwyl i'w henwau ddod yn gyhoeddus—yn cael cyfle i wneud hynny fel ein bod yn dysgu oddi wrthynt go iawn ac yn deall beth mae pobl yn ei wneud yn eu gweithleoedd a'r pryderon sydd ganddynt.
Mater o daro cydbwysedd yw hyn. Ni chredaf fod yna ateb syml a chyflym—mai dim ond un ateb cywir neu anghywir sydd i’w gael, oherwydd ni fyddwn am fynnu cael llwybr gweithredu a allai atal pobl rhag chwythu'r chwiban yn y dyfodol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Hefin David.