Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi eisoes wedi cael cyfle yn y pwyllgor iechyd y bore yma i longyfarch y Gweinidog ar ei phenodiad. Mae'r rôl yna o fewn y Cabinet rŵan yn sicr yn gyfle i gynyddu proffil iechyd meddwl o fewn y Llywodraeth.
Os caf i ddechrau efo stigma iechyd meddwl, mi ddylai taclo hynny fod yn flaenoriaeth ym mhob man. Yn Lloegr, serch hynny, rydym ni'n clywed bod yr ymgyrch Amser i Newid, neu Time to Change, yn colli ei chyllid o'r flwyddyn nesaf. Mae'r ymgyrch yma yng Nghymru yn dweud eu bod nhw'n mynd ar ôl ffynonellau cyllid eu hunain. Ydy'r Gweinidog mewn sefyllfa i ddweud a ydy hi'n bwriadu parhau i gyllido Amser i Newid neu ymgyrch debyg yng Nghymru?