Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Wel, roeddwn i wedi fy synnu o weld bod Llywodraeth Prydain, yng nghanol pandemig, yn stopio'r cyllid ar gyfer y cynllun pwysig yma—cynllun sy'n stopio stigma rhag codi o ran iechyd meddwl, ac mae'n dal i fod gwaith i'w wneud gyda ni yna. Mae'n drueni mawr achos dwi'n gwybod bod pobl sy'n gweithio ar y cynllun yma yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda'r rheini sydd dros y ffin ac, wrth gwrs, fydd hynny ddim yn bosibl yn y dyfodol. Ond dwi'n gobeithio, yn sicr, y byddwn ni yn gallu parhau gydag Amser i Newid yma yng Nghymru, achos dwi yn meddwl ei bod hi'n rhaglen bwysig ac mae'n dal i fod gwaith i’w wneud gyda ni yn y maes yma.