Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, llongyfarchiadau ar eich penodiad i'r Cabinet yn y rôl bwysig hon. Mae gennym oddeutu pum/chwe mis nawr cyn yr etholiadau seneddol nesaf ar gyfer Senedd Cymru. Rwy'n derbyn bod yr amserlen yn dynn iawn, ond yn eich asesiad cychwynnol o'r hyn y gallwch ei gyflawni yn y pump i chwe mis hwnnw, pa nodau rydych chi wedi'u gosod i chi'ch hun, fel y byddwch, pan fyddwch yn edrych yn ôl ym mis Mawrth, a phan fyddwn ni, fel deddfwyr, yn craffu ar yr hyn rydych wedi'i gyflawni yn y cyfnod hwnnw, yn teimlo eu bod yn nodau cyraeddadwy o fewn yr adran?