Parhad Gofal i Bobl Ifanc

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:17, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, byddwn yn dweud bod hwn yn faes allweddol, nid yn unig ar gyfer y broses bontio ei hun, sydd yn aml wedi achosi anawsterau a bylchau, ond ceir nifer o gyflyrau iechyd meddwl difrifol sy'n tueddu i ymddangos am y tro cyntaf yn y glasoed hwyr ac mewn oedolion ifanc, ac felly mae rheoli'r cyflyrau hyn, yn enwedig pan fyddant yn ymddangos am y tro cyntaf, yn allweddol iawn i adferiad hirdymor claf. Credaf fod angen rhoi llawer o sylw i'r ffaith bod y cyfnod hyd at 25 yn llawer tebycach i'r cyfnod ychydig cyn 18 oed, ac nid yw hyn wedi bod yn wir bob amser. Gwn fod gwasanaethau ar gael sydd wedi'u cynllunio'n dda, ond mae angen inni eu hymgorffori'n llawer mwy cyffredinol.