Parhad Gofal i Bobl Ifanc

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:18, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hynny'n iawn, David, a chredaf fod rhai sefydliadau eisoes yn cynnig y gwasanaeth hwnnw, y gall pobl aros yn y system nes eu bod yn 25 oed, a chredaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gweithio tuag at system lle mae hynny'n cael ei gynnig yn gyffredinol efallai, ond y dylem roi'r dewis i bobl o ran pryd y maent eisiau pontio o'r naill i'r llall. Dyna lle hoffwn gyrraedd, ond rwy'n credu bod gennym waith i'w wneud yn y maes hwnnw. Mae rhai byrddau iechyd yn well nag eraill yn hynny o beth ac mae angen i ni roi'r pwysau ar yr ardaloedd nad oes ganddynt system gystal ag eraill o bosibl.