Gofal Iechyd Meddwl yn y Gogledd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:12, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Credaf fod unigrwydd yn rhan o bortffolio Julie Morgan, ond yn sicr, credaf fod cydnabyddiaeth mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau bod cyfleoedd i bobl allu goresgyn y sefyllfaoedd hyn. Un o'r pethau sydd wedi bod yn eithaf diddorol am y pandemig yw bod rhai datblygiadau arloesol wedi digwydd. Felly, edrychwch arnom i gyd—rydym yn defnyddio technoleg nawr na fyddem wedi'i defnyddio o'r blaen o bosibl yn y ffordd rydym yn ei defnyddio nawr. Mae hynny wedi bod o gymorth mawr i rai pobl a oedd yn ymdopi ag unigrwydd. Ond rwy'n credu bod rhaid i ni gydnabod bod grŵp cyfan o bobl na fyddant yn gallu defnyddio technoleg yn yr un ffordd â ni. Felly, yn sicr, bydd rhywfaint o'r cyllid rydym wedi'i gyhoeddi heddiw yn mynd tuag at sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio gwasanaethau digidol er mwyn eu helpu gyda'u hiechyd meddwl.