3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i gau'r gronfa cadernid economaidd yn gynnar i geisiadau sy'n ymwneud â'r cyfnod atal byr? TQ499
Gwnaf, wrth gwrs. Mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys dwy ran, yn gyntaf, y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud gwerth £200 miliwn, sydd wedi'i chynllunio i dargedu costau gweithredu i fusnesau drwy'r cyfnod atal byr, ac sy'n parhau i fod ar agor i geisiadau drwy Busnes Cymru a hefyd drwy wefannau awdurdodau lleol. Mae'r ail ran, y gronfa ar gyfer grantiau datblygu busnes fwy hirdymor sy'n werth £100 miliwn, wedi derbyn bron i 6,000 o geisiadau ac felly mae wedi'i rhewi i ymgeiswyr newydd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu arian i ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted ag y gallwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod, oherwydd bod gormod wedi gwneud cais am grant o'r gronfa hon, fod llawer o fusnesau'n siomedig a rhai perchnogion busnes yn eithaf gofidus am na allent wneud y ceisiadau roeddent yn disgwyl gallu eu gwneud. Ac rwy'n dweud hyn er fy mod yn llawn ddeall y pwysau ar gyllidebau'r Gweinidog a'r ffaith na fydd byth yn gallu helpu pob busnes unigol, a bod yna gyfrifoldebau i'r DU yma hefyd.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, mewn perthynas â gweinyddu'r cynllun, a yw'n hyderus bod digon o gapasiti yn Busnes Cymru i ymdrin â'r lefel hon o bwysau gwaith? O gofio'n arbennig nad yw hwn yn ddigwyddiad untro, fel y gallem fod wedi disgwyl iddo fod efallai, neu fel y gallem fod wedi gobeithio y gallai fod ar ddechrau'r argyfwng hwn, ond mae hwn yn bwysau a fydd ar Busnes Cymru am beth amser i ddod, yn anffodus.
Ac a gaf fi ofyn iddo hefyd, o gofio bod adnoddau'n gyfyngedig ac na all Llywodraeth Cymru wneud popeth, a yw'n bryd i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull sydd wedi'i dargedu'n well at y busnesau rydych yn parhau i'w cefnogi, gan flaenoriaethu'r busnesau sydd â'r angen mwyaf nawr, efallai, yn y tymor byr, ond hefyd y busnesau a oedd yn gwbl hyfyw cyn y cyfyngiadau symud na allant fasnachu o gwbl yn ystod y pandemig, ond a fydd yn hyfyw wedyn? A oes arnom angen cynllun 'gaeafgysgu' penodol ar gyfer busnesau fel y rheini, ac a ddylech fod yn targedu cymorth, Weinidog, at fusnesau fel busnesau lletygarwch penodol, rhai busnesau twristiaeth, busnesau diwylliannol nad ydynt yn gallu agor o gwbl o bosibl, nes inni gyrraedd pwynt lle mae gennym frechlyn? Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog, Ddirprwy Lywydd, os na all wneud popeth—ac rwy'n deall efallai na all wneud hynny—a yw'n bryd gwneud y pethau sydd fwyaf o angen eu gwneud nawr o safbwynt cymorth busnes?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau a diolch iddi hefyd am y rhan adeiladol iawn y mae wedi'i chwarae, ac yn wir y mae Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chwarae, yn ffurfio'r gronfa cadernid economaidd yn ystod gwahanol gamau'r gefnogaeth hon?
Hoffwn wneud nifer o bwyntiau i ddechrau. Yn gyntaf oll, fel y gŵyr yr Aelodau, Llywodraeth Cymru sy'n cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr i fusnesau yn y Deyrnas Unedig, ond fel y mae Helen Mary Jones wedi'i nodi'n gywir, ni fyddai'n bosibl i unrhyw Lywodraeth gefnogi pob busnes gydag arian brys ar gyfer costau gweithredu a chyda chymorth ar gyfer datblygu busnes, ac felly mae'n rhaid inni ymdrin â hyn mewn ffordd sydd wedi'i thargedu, fel y nododd Helen Mary Jones, a dof yn ôl at y pwynt hwnnw.
Yr ail fater pwysig i'w godi gyda chanfyddiadau ynglŷn â thrydydd cam y gronfa cadernid economaidd yw bod dwy ran iddo, ac mae'r rhan fwyaf yn parhau i fod ar agor, a byddwn yn annog busnesau i wneud cais—os ydynt yn chwilio am arian brys ar gyfer eu busnesau—i'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud gwerth £200 miliwn. Roedd y grant datblygu busnes gwerth £100 miliwn ar gyfer prosiectau datblygu, a dof yn ôl at y rheswm pam eu bod yn wahanol. Ond y trydydd pwynt i'w wneud ynglŷn â'r pecyn cymorth cyffredinol yw y bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â dibenion y grantiau datblygu, ac mae'n ymddangos bod nifer o fusnesau wedi bod yn ceisio cael cymorth brys naill ai drwy system ar-lein y grant datblygu yn bennaf, neu drwy'r grantiau ardrethi annomestig a'r grantiau datblygu. O ganlyniad i hyn, rydym eisoes wedi gallu didoli nifer sylweddol o geisiadau ac rydym wedi canfod y bydd cyfradd y ceisiadau a wrthodir yn eithaf uchel oherwydd bod nifer sylweddol o fusnesau a gyflwynodd geisiadau ar y dydd Gwener hwnnw wedi gwneud hynny heb dystiolaeth ategol, neu wedi gwneud hynny heb gynllun cryf ar gyfer datblygu eu busnes, neu oherwydd nad oeddent wedi darparu unrhyw ddata llif arian, a'u bod eisiau cymorth ar gyfer llif arian, neu oherwydd bod eu prosiectau'n anghymwys, er enghraifft oherwydd bod nifer o ymgeiswyr yn gwneud cais am flaendaliadau ar dai gwyliau i'w gosod.
Gwnaethom sicrhau ei fod yn ddull wedi'i dargedu, ac roedd yr holl ganllawiau'n tynnu sylw busnesau at y ffaith ei fod wedi'i dargedu, ei fod at ddiben datblygu eu busnesau, gan greu swyddi neu ddiogelu swyddi. Roedd rhaid iddynt gydymffurfio â'n hegwyddorion gwerth am arian, roedd rhaid iddynt fod o ansawdd uchel, ac roedd rhaid iddynt wella'r rhagolygon busnes ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir. Nawr, gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod yna £300 miliwn arall y mae'r Gweinidog cyllid wedi'i glustnodi mewn egwyddor ar gyfer cymorth busnes yn chwarter cyntaf 2021. Yn ogystal, mae cyllideb heb ei defnyddio yn weddill o gylch gwreiddiol y grantiau COVID-19 sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn ar hyn o bryd gyda thrysoryddion awdurdodau lleol i gadarnhau faint o'r arian hwn sydd heb ei ddefnyddio o hyd ar draws y 22 awdurdod lleol a pha opsiynau a allai fod ar gael i'w addasu at ddibenion gwahanol o bosibl. Gallaf ddweud wrth Aelodau hefyd, o ran y gronfa gwerth £100 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, y byddwn yn blaenoriaethu'r gwaith o arfarnu'r holl geisiadau a ddaeth i law. Ar hyn o bryd rwy'n cael cyngor pellach ar y camau nesaf mewn perthynas â'r hyn a wnawn gyda'r gronfa ar gyfer grantiau datblygu busnes, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad pellach yn y dyfodol agos iawn.
Ond i ateb rhai o'r pwyntiau eraill a gododd Helen Mary Jones—capasiti yn Busnes Cymru. Rydym yn adolygu capasiti yn Busnes Cymru yn gyson. Rydym yn cynyddu ac yn lleihau capasiti yn ôl yr angen. Nid wyf yn poeni cymaint am gapasiti adnoddau dynol ag yr wyf am y ffordd y mae'r bobl sydd ar y llinell gymorth yn cael eu trin gan rai—lleiafrif bach iawn. Ond rwyf wedi clywed bod rhai o staff llinell gymorth Busnes Cymru wedi dioddef cam-drin geiriol, ac rwy'n siŵr na fyddai neb yn y Siambr hon yn esgusodi ymddygiad o'r fath. Gwn fod hwn yn gyfnod hynod o anodd a phryderus i berchnogion busnesau, ond mae'n bwysig ein bod hefyd yn parchu'r bobl sy'n ceisio ein helpu, ac felly byddwn yn annog pawb sy'n ffonio llinell gymorth Busnes Cymru i fod yn gwrtais ac i barchu staff Bus Cymru.
Yna, yn olaf, mewn perthynas â'r pwynt a wnaeth Helen Mary Jones—unwaith eto, pwynt hynod werthfawr—am bwysigrwydd ystyried sut rydym yn helpu busnesau nad ydynt o bosibl yn gallu gweithredu drwy'r gaeaf, ond y gwyddom eu bod yn fusnesau hyfyw, i 'aeafgysgu' tan y flwyddyn nesaf. Gellir gwneud hynny, wrth gwrs, drwy ymestyn y cynllun cadw swyddi ac wrth gwrs, gydag unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n ceisio llenwi unrhyw fylchau neu ddarparu rhwyd ddiogelwch ychwanegol i ategu'r cynllun cadw swyddi. Ond wrth gwrs, mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gytuno i ymestyn y cynllun cadw swyddi ymhellach, ac o ran hynny, ymestyn y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig ymhellach hyd nes y gall rhannau o'r economi ailagor yn wirioneddol ddiogel, boed hynny gydag amrywiaeth o frechlynnau neu addasiadau pellach a thrwy atal y feirws i lefel lle gallwn wneud hynny. Ond mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried estyniad pellach i'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb nawr? Roedd yn gynhwysfawr iawn ac rwy'n credu mai dyna rwyf fi a llawer o'r Aelodau eraill ei angen er mwyn gallu ateb ymholiadau gan etholwyr. Ac a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cwestiwn? Rwy'n credu hefyd ei bod yn siomedig iawn fod pobl yn cam-drin staff Busnes Cymru yn eiriol. Rwy'n deall rhwystredigaethau pobl, ond ni ddylid rhoi'r bai, wrth gwrs, ar y bobl sy'n ceisio eu helpu.
O'm rhan i, mae cryn dipyn o ddryswch wedi bod, Weinidog, ymhlith busnesau ac awdurdodau lleol. Ac rwy'n ymwybodol, mewn rhai achosion, fod awdurdodau lleol wedi cael canllawiau amrywiol—weithiau ar yr un diwrnod, ar yr un mater—felly credaf fod rhai gwersi i'w dysgu ar gyfer y camau nesaf. Ac rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol wedi gweithredu gwahanol brosesau ymgeisio mewn ffyrdd gwahanol iawn, felly rwy'n credu bod gwersi go iawn i'w dysgu yn hynny o beth wrth symud ymlaen.
Weinidog, sylwais fod Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod gan Lywodraeth Cymru £1 biliwn ar ôl i'w ddyrannu o gronfeydd i ymladd COVID-19, ac maent wedi edrych ar y £4.4 biliwn gan Lywodraeth y DU, a'r swm a ail-ddyrannwyd o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir hyd y gwyddoch, neu a ydych yn credu bod Prifysgol Caerdydd yn anghywir ynglŷn â hyn? Ac os ydyw, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n ymrwymo'r arian hwn i gefnogi busnesau nawr, efallai, yn hytrach na'i gadw at rywbryd eto? Mae Llywodraeth y DU hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi sicrwydd drwy warantu o leiaf £1.1 biliwn drwy symiau canlyniadol cyn diwedd eleni. Os nad yw hynny'n ddigon, a gwn fod y gyllideb atodol ar y ffordd, beth arall y gellir ei ailddyrannu o gyllidebau presennol i sicrhau bod busnesau'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr, cyn y gaeaf, yn hytrach na'i roi iddynt pan fydd yn rhy hwyr? Ac yn fyr ac yn olaf, o gofio bod cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, mae pryderon yn codi, os yw busnes yn cael y grant ardrethi annomestig, eu bod wedi'u hatal rhag gwneud cais am y grant dewisol. Felly, os na wnaethoch roi sylw i hynny yn y cwestiwn cynharach—roeddwn yn brysur yn gwneud nodiadau—a wnewch chi roi sylw i'r pwynt hwnnw hefyd o bosibl?
A gaf fi ddiolch i Russell George—
Weinidog.
Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a dweud ei bod yn ddrwg gennyf am unrhyw gamddealltwriaeth ynglŷn â diben cronfa'r grant datblygu? Ymdrechwyd i'w gwneud mor glir ag y gallem ar wefan Busnes Cymru beth yw diben y gronfa honno a'r meini prawf cymhwysedd a'r hyn oedd ei angen er mwyn gwneud cais. Er hynny, yn anffodus mae'n ymddangos bod nifer sylweddol o fusnesau, oherwydd eu bod mewn sefyllfa ddybryd efallai, wedi gwneud ceisiadau nad oeddent yn bodloni'r meini prawf, a heb unrhyw dystiolaeth ddogfennol foddhaol o'r angen am ddatblygiadau i fynd gyda'u cais. Ac felly, o ganlyniad, gwnaed mwy o geisiadau i'r gronfa nag y gallai ddarparu ar eu cyfer a chafodd ei rhewi. Ond byddwn yn craffu ar bob cais ac yn ceisio sicrhau ein bod, drwy ddull ansoddol, yn cefnogi'r busnesau hynny sydd â'r syniadau gorau a'r argymhellion gorau. Ac fel rwyf eisoes wedi dweud wrth Helen Mary Jones, rwy'n gobeithio gwneud datganiad pellach yn y dyfodol agos iawn ynghylch arfarniadau o'r ceisiadau presennol a'r camau nesaf.
Rwy'n credu bod y £1 biliwn y cyfeiriodd Russell George ato yn fater at sylw'r Gweinidog cyllid. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelodau yw bod y Gweinidog cyllid wedi cytuno'n garedig i neilltuo £300 miliwn ychwanegol er mwyn paratoi ar gyfer chwarter cyntaf 2021. Ac wrth gwrs rydym yn aros am eglurhad ar unrhyw symiau canlyniadol pellach gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar. Ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud droeon, bydd unrhyw symiau canlyniadol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chymorth busnes yn cael eu darparu fel cymorth busnes pan ddônt drwodd i Gymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig eto i'r Aelodau gofio ein bod yn gweithredu mewn argyfwng, ac eto, yn ystod yr argyfwng hwn, drwy gydol yr argyfwng hwn, rydym wedi gallu cefnogi busnesau gyda'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unman yn y DU, gan ddefnyddio'r gronfa cadernid economaidd fel cronfa a system i lenwi tyllau a darparu rhwydi diogelwch na fyddent yn bodoli fel arall.
Ac ar y pwynt pwysig a godwyd gan Russell George ar y diwedd, mae'r busnesau na lwyddodd i gael grantiau dewisol am eu bod wedi cael grantiau'n ymwneud ag ardrethi annomestig, wel, mae'r grantiau dewisol a ddarparwyd gennym drwy lywodraeth leol wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau nad ydynt yn meddiannu eiddo—busnesau sy'n gweithredu o eiddo a rennir ac yn y blaen. A diben hynny yw sicrhau ein bod yn cynnwys cynifer o fusnesau ag y gallwn, yn enwedig microfusnesau.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Helen Mary Jones am roi cyfle arall i'r Senedd hon, yn sgil yr hyn a gafwyd ddoe, i fynegi wrth y Llywodraeth pa mor bwysig yw ailagor cam 3 y gronfa cadernid economaidd—ochr y grant datblygu busnes ohoni, fel rydych wedi disgrifio, sy'n wahanol i'r llall—a'i hailagor yn gyflym, Weinidog. Oherwydd roedd busnesau ar draws de-ddwyrain Cymru a'n gwlad yn dibynnu ar y gronfa hon. Treuliodd busnesau o bob maint wythnosau'n paratoi ar gyfer y gronfa hon, fel y dywedasom ddoe, ac roeddent yn dibynnu arni, er iddynt gael canllawiau newydd ar gyfer y gronfa ar y bore y cafodd ei hagor, felly mae'n amlwg fod hynny wedi cymryd amser. Ac yna, o fewn 24 awr, roedd y gronfa wedi cau. Mae hyn yn dangos i mi fod diffyg goruchwyliaeth difrifol o ran yr angen am y gronfa hon a'r galw a oedd yn mynd i ddigwydd. A chan dynnu allan yr hyn rydych newydd ei ddweud am y bobl a wnaeth gais iddi am y rhesymau anghywir, nid yn unig y dywedwyd wrthynt ei bod wedi'i chau o fewn 24 awr, ond yn hytrach na'r £150,000 roeddent yn ceisio gwneud cais amdano, dywedwyd wrthynt y byddent yn cael eu cyfeirio wedyn i geisio gwneud cais am £2,000, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon da. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr ddoe ar ôl i mi godi'r mater ar gyfer y datganiad brys hwn—hyd yn oed yn eich plaid eich hun, mae pobl yn cydnabod ei bod yn bwysig ailagor y gronfa hon yn enwedig. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth ymateb, gan ddweud y byddai'r Llywodraeth yn ystyried ei hailagor ac fel rydych wedi dweud, mae arian ar gael pe baech yn penderfynu gwneud hynny. Felly, rwy'n croesawu hynny hefyd, Weinidog.
Ac oherwydd y cymorth, a ydw i'n iawn yn awr i dybio nad mater o 'os' bydd y gronfa'n cael ei hailagor ydyw bellach, ond yn hytrach, 'pryd'? A phryd y byddwch yn gwneud y datganiad am y grant datblygu busnes? Oherwydd mae cymaint o bobl ddryslyd allan yno sydd dan bwysau a heb gael ateb i'w negeseuon e-bost gan Busnes Cymru hyd yn oed. Felly, hoffwn i chi edrych ar hynny, a rhoi gwell cyngor yn y dyfodol i'r busnesau a gafodd eu gwrthod. Ond diolch i chi am eich eglurhad ychwanegol y prynhawn yma, Weinidog. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau? Ac fel y dywedais eisoes, daeth nifer enfawr o geisiadau i law. Yn anffodus, gwnaeth llawer o fusnesau gais am gymorth nid am eu bod yn ceisio cymorth ar gyfer datblygiad, fel y cyfryw, a fyddai'n sicrhau swyddi, a fyddai'n gwella rhagolygon busnes, ond yn hytrach am eu bod yn chwilio am arian brys. Nawr, nid dyna ddiben y gronfa hon, ac nid wyf yn credu ei bod yn deg cymharu'r uchafswm o £150,000 o grant sydd ar gael ar gyfer datblygu busnes â'r cymorth brys, er bod hwnnw'n llai, oherwydd mae'r ddwy gronfa, neu ddwy ran y gronfa, yn gweithredu am wahanol resymau. Nod un rhan—y rhan arian brys—yw cefnogi busnesau drwy'r cyfnod atal byr; nod y llall—y grantiau datblygu busnes—yw cefnogi datblygiad busnes ar gyfer y tymor hwy, ac mae hynny'n hanfodol bwysig. Mae'n hanfodol bwysig gwahaniaethu rhwng diben y ddwy ran o'r gronfa.
Nawr, o ran y camau nesaf, rwyf eisoes wedi dweud wrth yr Aelodau y byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn, ar ôl i ni arfarnu cronfa'r grant datblygu busnes. Rwy'n ceisio cyngor pellach gan swyddogion ynglŷn â'r camau nesaf, ond rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir a phriodol ein bod yn craffu ar y ceisiadau a ddaeth i mewn hyd yma, ein bod yn dysgu oddi wrthynt, a'n bod yn teilwra cymorth at y diben y'i cynlluniwyd ar ei gyfer. A nod cynllun grant datblygu busnes y gronfa cadernid economaidd yw sicrhau bod gan fusnesau ddyfodol mwy hirdymor, eu bod yn gallu ffynnu yn y dyfodol yn ogystal â goroesi'r cyfnod atal byr. A gallaf dynnu sylw at nifer o geisiadau rhagorol a ddaeth i law sy'n dangos sut y gwnaeth rhai busnesau fynd ati yn y ffordd fwyaf cyfrifol gyda cheisiadau rhagorol, a'r busnesau na chafodd arian, byddwn yn dweud 'Daliwch eich gafael ar eich dogfennau; mae £300 miliwn yn mynd i fod ar gael.'
Mae Laura Anne Jones yn holi pryd y byddwn yn agor cronfa yn y dyfodol. Wel, bwriadwn allu cefnogi busnesau yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf. Ond rydym am sicrhau bod busnesau'n gallu datblygu'r cynigion gorau posibl i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ac mae un cynnig o'r fath—ni allaf enwi'r busnes, mae arnaf ofn; mae wedi'i leoli yn Ninbych—sydd wedi bod yn llwyddiannus eisoes drwy gronfa'r grant datblygu wedi cyflwyno cais rhagorol a oedd yn ymdrin â thir eu heiddo a fyddai'n eu galluogi i gynnal mwy o briodasau ac roeddem yn gallu eu cefnogi gyda chynnig grant ar gyfradd ymyrraeth o 72 y cant. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod yn sôn am y gyfradd ymyrraeth, oherwydd yn anffodus, ceir cred hefyd fod busnesau'n gallu sicrhau uchafswm y grant bob tro, ond yn lle hynny rydym yn edrych ar gyfraddau ymyrraeth sy'n gysylltiedig â gwerth am arian i'r trethdalwr.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.