Grŵp 4: Pŵer cymhwysedd cyffredinol (Gwelliannau 107, 3, 108, 109, 110, 68, 74, 69)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:45, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, rwy'n gwrthod gwelliant 107. Yn 2018, cadarnhaodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd y byddai awdurdodau parciau cenedlaethol yn cael eu cadw ac na fyddai eu diben o warchod a gwella harddwch naturiol yn cael ei wanhau. Y penderfyniad oedd cadw pwerau presennol y parciau cenedlaethol. Ac er fy mod i o'r farn y bydd y pŵer cyffredinol yn arf gwerthfawr i brif gynghorau cymuned a chynghorau cymuned cymwys, nid wyf wedi gweld digon o dystiolaeth bod pwerau a dibenion presennol awdurdod parc cenedlaethol yn rhwystr o ran cyflawni'n ymarferol.

Er fy mod i'n cydnabod y bu rhai galwadau i'r awdurdodau hyn gael defnyddio pŵer cyffredinol, nid wyf wedi fy argyhoeddi o hyd pa wahaniaeth cadarnhaol y byddai pŵer cyffredinol yn ei wneud yn realistig i awdurdod un pwrpas. Nid yw hyn yn golygu na ddylai awdurdodau parciau cenedlaethol ddilyn gweithgarwch arloesol sy'n cefnogi cadernid cymdeithasol ac economaidd cymunedau yn eu hardaloedd gan ganolbwyntio rhywfaint ar incwm masnachol. Fe ddylent wneud hynny, ac nid wyf i o'r farn bod unrhyw rwystr iddynt wneud hynny o fewn eu pwerau presennol.

O ran y gwelliant hwn, rwy'n nodi hefyd mai bwriad y darpariaethau yw eu cymhwyso i brif gynghorau cymuned a chynghorau cymuned cymwys. Pe bai'n fwriad rhoi pŵer cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol, ni fyddai modd ei gyflawni drwy eu cynnwys yn y darpariaethau hyn yn unig gan fod amrywiaeth o ddeddfwriaeth y byddai angen ei hystyried.

Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliannau 108 a 109, a fyddai'n dileu'r gofyniad bod yn rhaid i ddwy farn archwilio ddiweddaraf cyngor cymuned gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn ddiamod cyn y gall osod ei hun yn gymwys i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol. Bu pryderon ei fod yn rhoi Archwiliad Cymru mewn sefyllfa o fesur cymhwysedd cyngor, ond nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer hynny ac nid wyf i erioed wedi dweud ei fod yn gwneud hynny. Dyma un o dri maen prawf y mae'n rhaid i gyngor eu bodloni cyn gosod ei hun yn gymwys i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol ac mae'n darparu dangosydd mesuradwy, gwrthrychol bod cyngor yn cynnal gweithdrefnau llywodraethu'n briodol. Nid yw paratoi strategaeth ynddo'i hun yn amod priodol ar gyfer cymhwysedd, gan nad yw'n rhoi unrhyw arwydd gwiriadwy bod y cyngor cymuned yn barod i arfer y pŵer cyffredinol, dim ond y gall baratoi strategaeth. Yn ogystal â hyn, un o ganlyniadau dileu'r meini prawf hyn yw y gallai cyngor cymuned ag archwiliadau cymwysedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn theori, arfer y pŵer cyffredinol. Rwy'n synnu y byddai Aelod yn fodlon cynnig y cam hwn.

Mae rhinwedd i'r egwyddor y dylai cynghorau cymuned baratoi ar gyfer arfer y pŵer cyffredinol, a chaiff hyn ei nodi mewn canllawiau statudol i gynghorau cymuned. Ar ôl ystyried y dadleuon a gyflwynwyd yn ystod trafodion Cyfnod 2 ac eto heddiw, rwyf i'n dal o'r farn bod y meini prawf er mwyn i gynghorau cymuned fod yn gymwys i gael y pŵer cyffredinol i gyd yn briodol ac yn ofynnol. Ar y cyd, maen nhw'n darparu amodau cymhwysedd gwrthrychol, cymesur a mesuradwy, gan gynnwys agweddau democrataidd, llywodraethu a phroffesiynol cyngor cymuned. Rwy'n galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 108 a 109, a hefyd welliant 110, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hynny.

Gan droi at y gwelliannau yr wyf i wedi'u cyflwyno, mae gwelliant 3 yn fân welliant technegol sy'n newid y drafftio yn adran 29 er mwyn sicrhau cysondeb â darpariaethau eraill yn y Bil. Nid yw hyn yn newid effaith y ddarpariaeth. Mae gwelliannau 68, 69 a 74 yn dechnegol eu natur ac yn hepgor diwygiadau canlyniadol a fyddai wedi dileu prif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys o adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 95 o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Gorchymyn yn eu hawdurdodi i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y gallant ei wneud at ddibenion cyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau arferol. Mae'n angenrheidiol bod prif gynghorau a chynghorau chymunedau yn cael eu cadw o fewn diffiniad awdurdod perthnasol yn adran 95 o Ddeddf 2003, gan mai dim ond i awdurdodau sy'n gwneud rhywbeth at ddiben masnachol y mae'r Bil yn darparu pan fo'n cael ei wneud o dan bŵer cymhwysedd cyffredinol. Diolch.