Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch. Mewn llythyr at y pwyllgor, fe wnaeth Parciau Cenedlaethol Cymru ddadlau fod cyfle wedi'i golli trwy beidio â chynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn yr adran sy'n ymwneud â'r pŵer cymhwysedd cyffredinol sydd wedi'i gynnig ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 107 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn dweud y byddai cael y pŵer hwn yn galluogi awdurdodau'r parciau cenedlaethol
'i fanteisio ar gyfleoedd masnachol pan fydd cyfleoedd yn codi' a fyddai'n caniatáu i awdurdodau parciau cenedlaethol wireddu'r potensial masnachol llawn sydd gan barc cenedlaethol er budd yr awdurdod ac wrth gwrs y parc cenedlaethol ei hun.
Mae gwelliannau 108, 109 a 110 wedi'u drafftio i adlewyrchu pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ystod trafodion Cyfnod 1, tynnodd cynrychiolwyr Archwilydd Cyffredinol Cymru sylw at bryderon ynghylch defnyddio meini prawf cyfrifon diamod fel rhan o'r meini prawf ar gyfer cyngor tref neu gymuned cymwys i arfer pŵer cymhwysedd cyffredinol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru na chafodd y broses archwilio ei chynllunio i ystyried
'addasrwydd cyngor i wneud penderfyniadau o ran arfer ei bwerau.'
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dadlau yn lle hynny y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cyffredinol baratoi eu hunain i sicrhau y gallant arfer y pŵer yn gywir. Felly, mae gwelliant 109 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i gynghorau tref a chymuned cymwys baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol.
Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog
Bydd ysbryd y gwelliant...yn sail i'r canllawiau statudol ar fod yn gymwys i gynghorau cymuned. Fodd bynnag, mae llythyr Archwilio Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 30 Medi yn nodi:
'Bydd y cyfyngiad ychwanegol ar yr amserlenni ar gyfer arfer swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol sy'n angenrheidiol i gynnwys Gweinidogion Cymru yn effeithio ar y modd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer. Mae'n anochel y bydd y cyfyngiad ychwanegol ar amserlenni yn lleihau ehangder a/neu ddyfnder archwiliadau ac astudiaethau archwilio.'
Cofiwch, rydym yn gwrando ar yr arbenigwyr yma—y corff arweiniol yng Nghymru. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yr adran yn lleihau'r beichiau gweinyddol o ran archwilio. Fodd bynnag, mae'r gwrthwyneb yn debycach o lawer o fod yn wir. Bydd yr adran yn cynyddu beichiau gweinyddol. Felly, dywedwn ni, mae ein gwelliant yn ceisio sicrhau bod y meini prawf ar gyfer bod yn awdurdod cymwys, o ran pŵer cymhwysedd cyffredinol, yn fwy cadarn. Diben y gwelliant hwn, felly, yw ailddatgan cred a dealltwriaeth yr archwilydd cyffredinol nad yw'r darpariaethau presennol yn y Bil yn ddigonol. Diolch.