– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â phwer cymhwysedd cyffredinol. Gwelliant 107 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r prif welliant ac i siarad ar y grŵp yma o welliannau. Mark Isherwood. Mark Isherwood.
Diolch. Mewn llythyr at y pwyllgor, fe wnaeth Parciau Cenedlaethol Cymru ddadlau fod cyfle wedi'i golli trwy beidio â chynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn yr adran sy'n ymwneud â'r pŵer cymhwysedd cyffredinol sydd wedi'i gynnig ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 107 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn dweud y byddai cael y pŵer hwn yn galluogi awdurdodau'r parciau cenedlaethol
'i fanteisio ar gyfleoedd masnachol pan fydd cyfleoedd yn codi' a fyddai'n caniatáu i awdurdodau parciau cenedlaethol wireddu'r potensial masnachol llawn sydd gan barc cenedlaethol er budd yr awdurdod ac wrth gwrs y parc cenedlaethol ei hun.
Mae gwelliannau 108, 109 a 110 wedi'u drafftio i adlewyrchu pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ystod trafodion Cyfnod 1, tynnodd cynrychiolwyr Archwilydd Cyffredinol Cymru sylw at bryderon ynghylch defnyddio meini prawf cyfrifon diamod fel rhan o'r meini prawf ar gyfer cyngor tref neu gymuned cymwys i arfer pŵer cymhwysedd cyffredinol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru na chafodd y broses archwilio ei chynllunio i ystyried
'addasrwydd cyngor i wneud penderfyniadau o ran arfer ei bwerau.'
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dadlau yn lle hynny y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cyffredinol baratoi eu hunain i sicrhau y gallant arfer y pŵer yn gywir. Felly, mae gwelliant 109 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i gynghorau tref a chymuned cymwys baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol.
Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog
Bydd ysbryd y gwelliant...yn sail i'r canllawiau statudol ar fod yn gymwys i gynghorau cymuned. Fodd bynnag, mae llythyr Archwilio Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 30 Medi yn nodi:
'Bydd y cyfyngiad ychwanegol ar yr amserlenni ar gyfer arfer swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol sy'n angenrheidiol i gynnwys Gweinidogion Cymru yn effeithio ar y modd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer. Mae'n anochel y bydd y cyfyngiad ychwanegol ar amserlenni yn lleihau ehangder a/neu ddyfnder archwiliadau ac astudiaethau archwilio.'
Cofiwch, rydym yn gwrando ar yr arbenigwyr yma—y corff arweiniol yng Nghymru. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yr adran yn lleihau'r beichiau gweinyddol o ran archwilio. Fodd bynnag, mae'r gwrthwyneb yn debycach o lawer o fod yn wir. Bydd yr adran yn cynyddu beichiau gweinyddol. Felly, dywedwn ni, mae ein gwelliant yn ceisio sicrhau bod y meini prawf ar gyfer bod yn awdurdod cymwys, o ran pŵer cymhwysedd cyffredinol, yn fwy cadarn. Diben y gwelliant hwn, felly, yw ailddatgan cred a dealltwriaeth yr archwilydd cyffredinol nad yw'r darpariaethau presennol yn y Bil yn ddigonol. Diolch.
Yn anffodus, rwy'n gwrthod gwelliant 107. Yn 2018, cadarnhaodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd y byddai awdurdodau parciau cenedlaethol yn cael eu cadw ac na fyddai eu diben o warchod a gwella harddwch naturiol yn cael ei wanhau. Y penderfyniad oedd cadw pwerau presennol y parciau cenedlaethol. Ac er fy mod i o'r farn y bydd y pŵer cyffredinol yn arf gwerthfawr i brif gynghorau cymuned a chynghorau cymuned cymwys, nid wyf wedi gweld digon o dystiolaeth bod pwerau a dibenion presennol awdurdod parc cenedlaethol yn rhwystr o ran cyflawni'n ymarferol.
Er fy mod i'n cydnabod y bu rhai galwadau i'r awdurdodau hyn gael defnyddio pŵer cyffredinol, nid wyf wedi fy argyhoeddi o hyd pa wahaniaeth cadarnhaol y byddai pŵer cyffredinol yn ei wneud yn realistig i awdurdod un pwrpas. Nid yw hyn yn golygu na ddylai awdurdodau parciau cenedlaethol ddilyn gweithgarwch arloesol sy'n cefnogi cadernid cymdeithasol ac economaidd cymunedau yn eu hardaloedd gan ganolbwyntio rhywfaint ar incwm masnachol. Fe ddylent wneud hynny, ac nid wyf i o'r farn bod unrhyw rwystr iddynt wneud hynny o fewn eu pwerau presennol.
O ran y gwelliant hwn, rwy'n nodi hefyd mai bwriad y darpariaethau yw eu cymhwyso i brif gynghorau cymuned a chynghorau cymuned cymwys. Pe bai'n fwriad rhoi pŵer cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol, ni fyddai modd ei gyflawni drwy eu cynnwys yn y darpariaethau hyn yn unig gan fod amrywiaeth o ddeddfwriaeth y byddai angen ei hystyried.
Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliannau 108 a 109, a fyddai'n dileu'r gofyniad bod yn rhaid i ddwy farn archwilio ddiweddaraf cyngor cymuned gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn ddiamod cyn y gall osod ei hun yn gymwys i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol. Bu pryderon ei fod yn rhoi Archwiliad Cymru mewn sefyllfa o fesur cymhwysedd cyngor, ond nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer hynny ac nid wyf i erioed wedi dweud ei fod yn gwneud hynny. Dyma un o dri maen prawf y mae'n rhaid i gyngor eu bodloni cyn gosod ei hun yn gymwys i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol ac mae'n darparu dangosydd mesuradwy, gwrthrychol bod cyngor yn cynnal gweithdrefnau llywodraethu'n briodol. Nid yw paratoi strategaeth ynddo'i hun yn amod priodol ar gyfer cymhwysedd, gan nad yw'n rhoi unrhyw arwydd gwiriadwy bod y cyngor cymuned yn barod i arfer y pŵer cyffredinol, dim ond y gall baratoi strategaeth. Yn ogystal â hyn, un o ganlyniadau dileu'r meini prawf hyn yw y gallai cyngor cymuned ag archwiliadau cymwysedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn theori, arfer y pŵer cyffredinol. Rwy'n synnu y byddai Aelod yn fodlon cynnig y cam hwn.
Mae rhinwedd i'r egwyddor y dylai cynghorau cymuned baratoi ar gyfer arfer y pŵer cyffredinol, a chaiff hyn ei nodi mewn canllawiau statudol i gynghorau cymuned. Ar ôl ystyried y dadleuon a gyflwynwyd yn ystod trafodion Cyfnod 2 ac eto heddiw, rwyf i'n dal o'r farn bod y meini prawf er mwyn i gynghorau cymuned fod yn gymwys i gael y pŵer cyffredinol i gyd yn briodol ac yn ofynnol. Ar y cyd, maen nhw'n darparu amodau cymhwysedd gwrthrychol, cymesur a mesuradwy, gan gynnwys agweddau democrataidd, llywodraethu a phroffesiynol cyngor cymuned. Rwy'n galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 108 a 109, a hefyd welliant 110, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hynny.
Gan droi at y gwelliannau yr wyf i wedi'u cyflwyno, mae gwelliant 3 yn fân welliant technegol sy'n newid y drafftio yn adran 29 er mwyn sicrhau cysondeb â darpariaethau eraill yn y Bil. Nid yw hyn yn newid effaith y ddarpariaeth. Mae gwelliannau 68, 69 a 74 yn dechnegol eu natur ac yn hepgor diwygiadau canlyniadol a fyddai wedi dileu prif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys o adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 95 o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Gorchymyn yn eu hawdurdodi i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y gallant ei wneud at ddibenion cyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau arferol. Mae'n angenrheidiol bod prif gynghorau a chynghorau chymunedau yn cael eu cadw o fewn diffiniad awdurdod perthnasol yn adran 95 o Ddeddf 2003, gan mai dim ond i awdurdodau sy'n gwneud rhywbeth at ddiben masnachol y mae'r Bil yn darparu pan fo'n cael ei wneud o dan bŵer cymhwysedd cyffredinol. Diolch.
Mark Isherwood i ymateb.
Diolch, Llywydd. A allwch chi fy nghlywed i? Gallwch. Unwaith eto, ymateb siomedig ond nid annisgwyl. Mae'n ymddangos bod y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn credu bod llawer o bethau sydd wedi'u gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y cyrff arbenigol perthnasol yn yr achos hwn, yn gyson â'r ymwrthodiad blaenorol o bryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Solace ac eraill. Ac yn awr maen nhw nid yn unig yn gwybod yn well nag awdurdodau'r parciau cenedlaethol, ond maen nhw hefyd yn gwybod yn well nag Archwilydd Cyffredinol Cymru. Byddai'n well gennyf fi gael cyngor gan y cyrff arbenigol ar hyn, ac nid yw ein gwelliannau yn bleidiol, maen nhw'n rhoi llais i'r pryderon hynny a godwyd gan gyrff anwleidyddol sydd ag arbenigedd yn y meysydd hyn. Nid yw doethineb yn dod gydag etholiad, daw doethineb o wybod nad oes gennych fonopoli ar wybodaeth na dealltwriaeth, a bod person doeth felly'n ymgysylltu â'r arbenigwyr hynny sy'n gweithio yn y maes, ac yn cymryd arweiniad ganddynt. Mae'n siomedig nad yw hyn, unwaith eto, yn ymddangos fel pe byddai'n digwydd yn yr achos hwn.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 107? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 107. Agor y bleidlais.
Cau'r bleidlais.
O blaid 18, pump yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 107 wedi'i wrthod.
Gwelliant 3, Julie James.
Mae'n cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 3? [Gwrthwynebiad.] Oes, Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, 3 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 108, Mark Isherwood.
Cynnig.
Oes gwrthwynebiad i 108? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 108. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, pump yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 109, Mark Isherwood.
Oes gwrthwynebiad i 109? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 109. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, pump yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae gwelliant 109 wedi'i wrthod.
Mae gwelliant 110 wedi cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwelliant 110. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae 110 wedi'i wrthod.
Gwelliant 68, Gweinidog.
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 68? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 68. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, mae yna bedwar yn ymatal, ac mae tri yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 148, Mark Isherwood.
A oes gwrthwynebiad i welliant 148? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 148. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, chwech yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae gwelliant 148 wedi'i wrthod.
Gwelliant 74, Gweinidog.
A oes gwrthwynebiad i welliant 74? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 69, Gweinidog.
Mae'n cael ei gyflwyno, felly a oes gwrthwynebiad i welliant 69? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 69. Agor y bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, a thri yn erbyn ar welliant 69.
Cyn y grŵp nesaf o bleidleisiau, bydd ein technegwyr yn cysylltu gyda'r ddau Aelod sydd wedi methu pleidleisio'n electronig y tro yna. Felly all y ddau Aelod sicrhau eu bod nhw ar gael i siarad gyda'r technegwyr?