– Senedd Cymru am 5:58 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Felly, rydyn ni'n symud ymlaen i'r grŵp nesaf ar gyfranogiad y cyhoedd. Gwelliant 111 yw'r gwelliant cyntaf yn y grŵp yma a'r prif welliant. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant yna a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.
Diolch. Mae gwelliant 111 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i'w cefnogi i gyflawni gwell cynnwys, neu 'cyfranogiad' fel y mae wedi'i ddrafftio yn y Bil ar hyn o bryd. Cynigiwyd y term 'cynnwys' i ni gan gyrff arbenigol allanol sy'n gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol, grymuso ac adfywio ar ddulliau sy'n seiliedig ar asedau a chryfder yn hytrach na dulliau sy'n seiliedig ar ddiffyg. Mae'n derm a ddefnyddir yn aml, a dderbynnir yn eang yn y DU a thu hwnt.
Yn ystod trafodion Cyfnod 1, dywedodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru y gallai'r Bil fel y'i drafftiwyd arwain at effeithiolrwydd ysbeidiol ar lefel awdurdodau lleol o ran gwella cyfranogiad neu gynnwys. Fe wnaethon nhw nodi hefyd nad yw'r ddarpariaeth fel y'i drafftiwyd yn dangos y math o ymgysylltu neu gynnwys y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei weld gan awdurdodau lleol.
Fe wnaethon nhw nodi hefyd nad oes swyddogaeth benodol i Lywodraeth Cymru o ran rhannu gwybodaeth a chanllawiau ag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i sicrhau gwell cyfranogiad neu gynnwys. Felly, mae gwelliant 112 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gynnwys awdurdodau cysylltiedig wrth annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y gwaith o wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth leol. Mae llawer o'n gwelliannau i'r Bil hwn yn ei gyfanrwydd yn ymwneud ag ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu a datblygu cymunedol sy'n seiliedig ar asedau yn y Bil ac felly wrth gyflawni strategaethau cynnwys y cyhoedd, yn ogystal â dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau ar draws y Siambr yn siarad o blaid yr egwyddorion hyn; dyma gyfle i chi eu rhoi ar waith yn eich cymunedau eich hun. Mae cyd-gynhyrchu yn ymwneud â meithrin hyder a chapasiti cymunedau cydnerth. Mae'n ymwneud ag ystyried pawb yn bartneriaid cyfartal mewn gwasanaethau lleol, chwalu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio, gwneud pawb yn eich neuadd sir yn bartner i chi, nid yr un sy'n penderfynu'r hyn y cewch neu na chewch ei gael.
Mae cyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus â defnyddwyr a chymunedau yn mynd y tu hwnt i'r modelau ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau er mwyn darparu'n well ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill i boblogaethau sy'n heneiddio, i bobl sy'n wynebu salwch ac anabledd, i'r bobl economaidd anweithgar ac i'r rhai hynny sy'n byw mewn ynysigrwydd cymdeithasol—sy'n berthnasol iawn ar hyn o bryd. Mae'n ymwneud ag atal ac ail-alluogi drwy gyfrifoldeb personol a chymunedol a lleoliaeth. Mae'n ymwneud ag adfywio economaidd cymdeithasol a chymunedol cynaliadwy, ac mae hefyd yn rhan o ddull polisi datganedig Llywodraeth Cymru. Fel y mae adroddiad newydd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau 'Building Stronger Welsh Communities' yn ei ddweud, mae datgysylltu rhwng Llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chymunedau yn rhwystr i weithredu cymunedol, er gwaethaf enghreifftiau o gydweithio ar draws sectorau.
Maen nhw'n dweud bod pobl yng Nghymru yn teimlo'n gynyddol lai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn croesawu uchelgais polisi Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn fwy, ond mae teimlad nad yw geiriau teilwng yn cael eu hategu gan weithredu. Wrth gyfeirio at ganfyddiadau dros 250 o sgyrsiau â phobl o sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad ledled Cymru, dywed eu hadroddiad fod grwpiau yn dal i ddisgrifio modelau diffyg tuag at gymunedau yn dominyddu meddylfryd y Llywodraeth a bod cyrff cyhoeddus yn gwneud i bobl a chymunedau, nid gyda nhw.
Maen nhw hefyd yn disgrifio ffyrdd sefydledig o weithio yn y sector cyhoeddus, wedi eu nodweddu gan gyfathrebu gwael, diffyg ymddiriedaeth, osgoi risg, gweithio mewn adrannau unigol, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliant staff fel rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol.
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu darpariaethau tebyg o'r Bil mewn ymateb i bryderon gan Un Llais Cymru y byddai'r ddarpariaeth ar y pryd i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau gan awdurdodau sy'n gysylltiedig â'r cyngor yn arwain at brif gynghorau yn cyfarwyddo cynghorau cymuned ac yn annog mwy o gyfranogiad yn y broses o wneud penderfyniadau lleol. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio ymateb i'r pryderon hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gynnwys awdurdodau cysylltiedig wrth annog mwy o ymwneud â phrosesau gwneud penderfyniadau lleol. Byddai hyn yn sicrhau cyd-gynhyrchu gwirioneddol rhwng gwahanol gyrff wrth annog mwy o ymwneud â llywodraeth leol. Byddai gwell cydweithredu rhwng prif gynghorau ac awdurdodau cysylltiedig hefyd yn sicrhau bod strategaethau lleol i annog y cyhoedd i ymwneud â llywodraeth leol yn gyson, gan ystyried pryderon Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.
Mae gwelliant 113 yn diwygio adran 41(2)(f) er mwyn helpu i annog Aelodau etholedig i ddefnyddio ystod ehangach o lwyfannau cyfryngau i gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau. Ar hyn o bryd, mae isadran (f) dim ond yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau etholedig fod yn ymwybodol o fuddion defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydnabod nad oes gan lawer o bobl fynediad at gyfryngau cymdeithasol ac felly mae'n bwysig bod Aelodau etholedig yn ymwybodol o ystod ehangach o ddulliau sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau er mwyn cynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ymgorffori ond nid yw wedi ei gyfyngu i gyfryngau cymdeithasol er mwyn annog Aelodau etholedig i gynnwys pawb yn y broses o wneud penderfyniadau.
Mae gwelliannau 114 a 116 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor bennu trothwy ar gyfer nifer y llofnodion sydd eu hangen ar ddeiseb i gael ei thrafod naill ai gan un o bwyllgorau'r cyngor neu gyfarfod y cyngor llawn. Er ein bod yn croesawu'r darpariaethau yn y Bil i lunio cynllun deisebu, rydym ni o'r farn bod yn rhaid i'r cynllun alluogi pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol i gymryd rhan yn y broses ehangach o wneud penderfyniadau. Mewn arolwg a gafodd ei gynnal gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd 56 y cant o'r ymatebwyr mai'r prif rwystr i ymgysylltu â'r cyngor oedd nad oedden nhw'n credu y byddai eu barn yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Felly, trwy alluogi deisebau i gael eu hystyried a'u trafod gan gynghorau, gall aelodau etholedig ystyried barn y gymuned yn uniongyrchol, a fydd yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Yn ystod Cyfnod 2, cefnogodd y Gweinidog y bwriad y tu ôl i'n gwelliant blaenorol yng Nghyfnod 2, ond dywedodd fod angen meddwl yn ofalus wrth osod unrhyw derfynau rhifyddol mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Mae'r gwelliant hwn, felly, yn ceisio ymateb i sylwadau'r Gweinidog, a rhoi'r hyblygrwydd i brif gynghorau benderfynu ar eu trothwy lleol, a dylid cynllunio hyn drwy gynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol.
Mae gwelliant 115 yn cryfhau yn fwy adran 43—dyletswydd i greu cynllun deisebau—trwy sicrhau bod prif gynghorau yn mynd ati i hyrwyddo eu cynllun deisebau, a'i gwneud mor rhwydd â phosibl i gael gafael arno. Nododd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn ei thystiolaeth Cyfnod 1 i'r pwyllgor fod deisebau hefyd yn ffordd dda o ymgysylltu â'r cyhoedd, ond mae'n hanfodol bod mecanweithiau tryloyw yn cael eu rhoi ar waith o fewn y broses. Fe wnaethon nhw dynnu sylw hefyd at bryder nad yw'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo'r cynllun deisebau ar ôl ei sefydlu, gan ofyn pwy sy'n mynd i roi gwybod i'r pleidleiswyr bod y cynllun ar waith, pwy sy'n mynd i fesur ei lwyddiant a dwyn yr awdurdod lleol i gyfrif. Mae ein gwelliant, felly, yn mynd i'r afael â hyn.
Mae gwelliant 117 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i brif gynghorau ar sut y bydd y cynllun deisebau yn gweithredu. Diben y gwelliant hwn yw sicrhau bod rhywfaint o gysondeb yng ngweithrediad arferol cynlluniau deisebau cynghorau ledled Cymru, sy'n golygu bod y system ddeisebau ar gael yn i gynifer o bobl â phosibl. Diolch.
Rwyf i'n credu'n gryf y dylai fod mor syml â phosibl i bobl gymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol, a dyna beth y bydd y darpariaethau yn Rhan 3 o'r Bil yn ei gyflawni. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu'r canllawiau a fydd yn cefnogi gweithrediad y darpariaethau hyn. Ar ôl gwrando ar y ddadl yng Nghyfnod 2, rwyf yn awyddus i geisio sylwadau gan gyrff perthnasol i sicrhau bod y canllawiau yn gyflawn ac wedi eu datblygu yn llawn. Er enghraifft, rwyf yn ddiolchgar i'r Aelodau am godi barn a sylwadau yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, ac yn gallu cadarnhau bod fy swyddogion yn cyfarfod yn rhithwir â chynrychiolwyr yr ymddiriedolaeth honno yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Rwy'n gwrthod gwelliannau 111 a 117, sy'n cynnig rhagor o ddarpariaethau canllaw. Mae adran 45 o'r Bil eisoes yn gwneud darpariaeth o ran canllawiau ac, felly, nid oes angen rhagor o ddarpariaethau canllaw.
Galwaf ar yr Aelodau i wrthod gwelliant 112, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gynnwys cynghorau cymuned ac awdurdodau parciau cenedlaethol pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan yn ei benderfyniadau ei hun. Ar adeg ei gyflwyno, roedd adran 46 yn cynnwys dyletswydd ar brif gynghorau i annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yr awdurdodau cysylltiedig hyn. Fodd bynnag, ar ôl gwrando ar bryderon a gafodd eu mynegi yn ystod sesiynau tystiolaeth i'r pwyllgor yng Nghyfnod 1 ynghylch priodoldeb dyletswydd o'r fath, cynigiodd y Llywodraeth welliant yng Nghyfnod 2 i'w dileu. Cafodd y gwelliant hwn ei dderbyn. Felly, rwyf i o'r farn bod y gwelliant hwn yn mynd yn groes i'r pryderon a godwyd yn flaenorol ac yr ymatebwyd iddyn nhw.
Nid wyf i'n gallu cefnogi gwelliant 113, sy'n ceisio disodli'r term 'cyfryngau cymdeithasol' â 'llwyfannau digidol a chyfryngau cyfredol a rhai sy'n datblygu'. Fel y nodwyd yng Nghyfnod 2, caiff y term 'cyfryngau cymdeithasol' ei gydnabod yn gyffredinol, ac nid wyf i o'r farn y byddai newid y geiriad yn y ffordd a awgrymwyd yn ddefnyddiol. Yn wir, rwyf i o'r farn y gallai'r gwelliant fod yn ddi-fudd hyd yn oed a gwneud y ddarpariaeth yn llai clir.
Mae gwelliant 114 yn ychwanegu at welliant Cyfnod 2 yr Aelod, pan geisiodd bennu'r camau i'w cymryd pan fo nifer y llofnodion a gafwyd ar gyfer deiseb yn cyrraedd trothwyon penodol. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod yr Aelod wedi derbyn fy mhryderon ynghylch gosod terfynau rhifyddol mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac nid yw'r gwelliant hwn yn cynnwys trothwyon penodol. Yn hytrach, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau bennu a chyhoeddi'r trothwy sydd ei angen ar ddeiseb i gael ei thrafod naill ai gan un o bwyllgorau'r cyngor neu mewn cyfarfod llawn o'r cyngor. Rwyf i yn deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn. Fel yr wyf i wedi sôn, mae gwaith yn mynd rhagddo gyda llywodraeth leol i ddatblygu canllawiau, a fydd yn cynnwys manylion i gefnogi gweithrediad cynlluniau deisebau. Bydd hyn yn cynnwys materion fel trothwyon a phroses. Fy nod yw ceisio cydbwysedd rhwng dull gweithredu cyson ledled Cymru a disgresiwn lleol.
Mae gen i bryder hefyd ynglŷn â'r gwelliant hwn gan ei fod yn cyfeirio at 'gynnwys', heb eglurder ynghylch yr hyn sy'n cael ei geisio. Fel y cafodd ei nodi yng Nghyfnod 2, os yw hwn yn ofyniad ymgynghori mewn gwirionedd, mae'r term 'ymgynghori' yn cynnwys ystyr penodol yn y gyfraith sy'n cael ei ddeall a'i ddefnyddio'n gyson drwy'r Bil a deddfwriaeth arall Cymru. Pe byddai'r gwelliant hwn yn cael ei fabwysiadu, byddai'n cwestiynu statws y gofynion ymgynghori hyn ac, o bosib, gofynion ymgynghori eraill yn y Bil hwn a thu hwnt. Er bod cymryd rhan yn ganlyniad yr ydym yn ceisio'i gyflawni, ac mae'r Bil yn cynnwys llawer o ddarpariaethau sy'n cyfrannu at hyn, os ydym am gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod wneud rhywbeth, mae'n rhaid iddi fod yn glir. Nid wyf i o'r farn bod defnyddio'r term 'cynnwys' yn y cyd-destun hwn yn glir. Rwyf yn galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliant 114, a hefyd gwelliant 116, sy'n gysylltiedig ag ef.
Er fy mod i'n cytuno â'r bwriad y tu ôl i welliant 115, ni allaf ei gefnogi. Mae adran 43 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd fynd i'r afael â ffyrdd o hyrwyddo a hwyluso prosesau y gall pobl leol eu defnyddio i gyflwyno sylwadau i'r prif gyngor ynghylch penderfyniad cyn ac ar ôl iddo gael ei wneud. Rwyf i'n credu y byddai'r ddarpariaeth hon yn cynnwys hyrwyddo bodolaeth a gweithrediad ei chynllun deisebu, ac felly nid wyf i o'r farn bod y gwelliant arfaethedig yn angenrheidiol nac yn ddefnyddiol. Diolch.
Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Wel, mae'n amlwg fy mod i'n falch o glywed y Gweinidog yn dweud bod ei swyddogion yn mynd i gwrdd â'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n eu cyfarwyddo neu'n eu gwahodd i ofyn iddyn nhw beth mae'r term 'cynnwys' yn ei olygu. Fel y dywedais o'r blaen, mae hwn yn derm a gaiff ei ddefnyddio yn eang nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol, ac mae'n ysgogi egin rhaglenni credadwy mewn llawer o gymunedau ymhob cwr o Gymru, ond ceir pryder gwirioneddol ynghylch camddefnydd, gorddefnydd a chamddealltwriaeth o'r term 'ymgynghori' sy'n cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro fel dewis amgen yn lle cyd-gynhyrchu a geiriau cyd-gynhyrchiol, yn ymarferol i wella bywydau a chryfhau cymunedau, pan mai ymgynghori yw'r rhwystr, gan ei fod yn anochel bod ymgynghori'n ymwneud â chadarnhau penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud yn hytrach na chynllunio a darparu gwasanaethau a gweithgareddau eraill o fewn cymunedau lleol eu hunain a gyda nhw. Rwyf i'n edrych ymlaen at y diwrnod—rwy'n gobeithio y byddaf i'n byw i'w weld—pan fydd gennym ni Lywodraeth Cymru sydd o'r diwedd yn defnyddio gwir ystyr yr iaith hon ac yn deall nad yw'n fygythiad. Mae'n gyfle i wella bywydau, gwella ffyniant, cysylltu pobl, a mynd i'r afael â llawer o'r pethau yr ydym ni i gyd yn eu codi yn y Siambr bob wythnos fel problemau gwirioneddol sy'n wynebu'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 111? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 111. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 112 yn enw Mark Isherwood, yn cael ei symud. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 112. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 113, yn cael ei symud. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar 113. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 114, yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 114. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 114 wedi'i wrthod.
Gwelliant 115, yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly pleidlais ar welliant 115. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 116, yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 116. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 117.
Mae gwelliant 117 yn cael ei symud yn enw Mark Isherwood. [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad—oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 117. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.