– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 6, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol. Gwelliant 6 yw'r prif welliant a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant ac i gyflwyno'r grŵp. Gweinidog.
Diolch, Llywydd. Cyn siarad am y gwelliannau unigol, hoffwn i ddarparu rhywfaint o gyd-destun, gan fy mod i'n ymwybodol iawn nad yw'n arferol cyflwyno gwelliannau o'r math hwn yng Nghyfnod 3. Llywydd, hoffwn i hefyd ymddiheuro am yr amser y bydd hyn yn ei gymryd ymlaen llaw.
Mae'r grŵp yn cynrychioli pecyn cynhwysfawr o ddarpariaethau, sy'n cynnwys pedwar bloc adeiladu, gyda'r bwriad o roi ffyrdd modern a chadarn o weithio i awdurdodau lleol. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor hen a chyfyngol y mae rhai o'r darpariaethau. Yn wir, nodir llawer o'r gofynion mewn deddfwriaeth sylfaenol sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1960, ac sy'n adlewyrchu byd a ffyrdd o wneud busnes cyn y rhyngrwyd a chyfathrebu electronig.
Mewn ymateb i'r pandemig, fe wnaethom ni reoliadau brys ym mis Ebrill er mwyn caniatáu i gyrff llywodraeth leol gyfarfod o bell a chyhoeddi dogfennau cyfarfodydd yn electronig. Ni fyddai'r cyrff hyn wedi gallu cyfarfod yn gyfreithlon ac yn ddiogel, na pharhau â'u busnes yn ystod y pandemig, heb yr ymyriad hwn. Cafodd y rheoliadau hyn eu croesawu'n wresog gan randdeiliaid, ac maen nhw wedi arwain at fuddion eraill. Mae cyrff llywodraeth leol wedi gallu gweithio'n fwy hyblyg ac effeithlon ac mae prosesau gwneud penderfyniadau wedi bod ar gael i gynulleidfa lawer ehangach. Hefyd, mae rhai cyrff wedi nodi mewn gwirionedd fod mwy o bresenoldeb mewn cyfarfodydd.
Fodd bynnag, mae'r rheoliadau brys hyn wedi'u cyfyngu o ran amser a dim ond tan 1 Mai 2021 y maen nhw'n berthnasol i gyfarfodydd. Heb ragor o newid deddfwriaethol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddychwelyd at y drefn cyn y pandemig, gan golli'r buddion y maen nhw wedi eu cael. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ychwanegu at y newidiadau a wnaed gan y rheoliadau hynny, gan ddod â gweithdrefnau cyfarfodydd i'r unfed ganrif ar hugain a rhoi mecanweithiau ar waith sy'n caniatáu i'r darpariaethau newydd gael eu hadolygu, eu harchwilio a'u diweddaru pan fo angen.
Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn darparu ar gyfer darlledu cyfarfodydd awdurdodau lleol yn electronig fel y gall unigolion ddilyn trafodion a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw.
Gan droi, felly, at y gwelliannau, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 15, sy'n cynrychioli'r bloc adeiladu cyntaf. Rhoddodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 drefniadau ar waith i aelodau fynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell. Fodd bynnag, un agwedd allweddol ar y trefniant oedd bod yn rhaid i 30 y cant o'r aelodau fod yn bresennol yn yr un lleoliad er mwyn i'r cyfarfod fod â chworwm.
Fel y'i cyflwynwyd, diwygiodd adran 48 o'r Bil rai agweddau ar Fesur 2011. Fodd bynnag, yng ngoleuni amgylchiadau diweddar, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig o gofio bod y rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal bellach yn gyfan gwbl o ystafelloedd byw, swyddfeydd cartref a lleoedd eraill o'r fath. Yn ogystal, byddai darpariaethau Mesur 2011 yn ymestyn i brif gynghorau yn unig ac nid i gyrff fel parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, sydd wedi canfod bod yr hyblygrwydd a roddwyd gan y rheoliadau yn amhrisiadwy.
Mae gwelliant 15 yn rhoi adran newydd yn y Bil sy'n ymwneud â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd awdurdodau lleol, gan ddarparu i bob pwrpas ar gyfer yr hyn y cyfeirir ato'n gyffredin fel presenoldeb o bell. Mae'r darpariaethau newydd hyn yn cwmpasu'r teulu llywodraeth leol ehangach, gan gynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, cynghorau cymuned, neu awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru.
O dan y darpariaethau newydd, mae'n rhaid i awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau i hwyluso cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd cwbl rithwir, cyfarfodydd lled-rithwir neu hybrid ac, wrth gwrs, cyfarfodydd lle mae pawb yn yr un lle. Mae'n rhaid i awdurdodau sicrhau bod modd cynnal pob cyfarfod a gwmpesir gan y darpariaethau hyn yn rhithwir. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid cynnal pob cyfarfod yn rhithwir; mater i'w benderfynu'n lleol fydd hynny.
Bydd yn ofynnol i awdurdodau roi sylw i ganllawiau, a fydd yn cynnwys y disgwyliad y dylid ystyried amgylchiadau personol unigolion wrth benderfynu ar y math o gyfarfodydd i'w cynnal. Bydd hwn yn gam mawr ymlaen i gefnogi mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau etholedig.
Bydd cyfarfodydd yn ddarostyngedig i'r amod sylfaenol bod yn rhaid i'r cyfarpar neu gyfleuster arall alluogi pawb i siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd. Yr eithriad i'r safon hon yw pan fo'n ofynnol i ddarlledu cyfarfod o dan y Bil. Yn yr achosion hyn, mae'n rhaid i bawb allu gweld ei gilydd a chael eu gweld gan ei gilydd yn ogystal â gallu siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd.
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at, diwygio neu hepgor amodau neu roi cyd-fwrdd i'r ddarpariaeth. Mae'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol y Senedd drwy welliant 51.
Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 118, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau baratoi a chyhoeddi ar eu gwefannau y gweithdrefnau pleidleisio i'w mabwysiadu os bydd yr offer yn methu pan fydd aelodau'n mynychu cyfarfodydd o bell. Rwy'n cytuno y dylai trefniadau pleidleisio a sut y caiff effaith unrhyw darfu technegol ar y trefniadau hynny ei rheoli gael ei nodi'n glir cyn cynnal y cyfarfodydd. Fodd bynnag, mae profiad yn ystod y misoedd diwethaf wedi gweld awdurdodau lleol yn sefydlu'r mesurau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn, a dylai hyn fod yn fater i'w benderfynu'n lleol yn fy marn i. Byddaf i hefyd yn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried wrth ddatblygu'r canllawiau. Hefyd, mae'r gwelliant hwn yn newid adran 4 o Fesur 2011, a fydd yn cael ei hepgor o ganlyniad i'r adran newydd a fydd yn cael ei hychwanegu gan welliant 15. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliant 118.
Darperir ar gyfer yr ail floc adeiladu gan welliant 70, sy'n disodli Atodlen 4 newydd i'r Bil ac yn diwygio darpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Atodlen 12 iddi ac yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960. Mae Rhan 1 o Atodlen 4 wedi ei seilio ar yr egwyddorion cyffredinol bod yn rhaid i ddogfennau penodol sy'n ymwneud â chyfarfodydd gael eu cyhoeddi'n electronig ac yn amserol, fel y gall y cyhoedd ddilyn y broses o wneud penderfyniadau. Bydd cyhoeddi electronig yn ategu ac yn helaethu hawl unigolyn i fynychu cyfarfod, boed yn bersonol neu drwy ddulliau o bell.
Mae paragraff 17 o Atodlen 4 yn diwygio adran 232 o Ddeddf 1972 fel bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad cyhoeddus y mae'n ofynnol ei gyhoeddi gan awdurdod lleol yng Nghymru gael ei gyhoeddi'n electronig, oni wneir darpariaeth benodol mewn man arall mewn deddfwriaeth. Mae is-baragraff 4 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth ynghylch y dull o roi'r hysbysiadau cyhoeddus y mae'n ofynnol i awdurdod lleol eu rhoi. Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn darparu ar gyfer diwygiadau sy'n ganlyniadol i'r adran newydd a fewnosodwyd gan welliant 15.
Y trydydd bloc adeiladu yw'r pwerau gwneud rheoliadau y darperir ar eu cyfer yng ngwelliannau 17 a 18. Mae gwelliant 17 yn cefnogi'r prif newidiadau a wneir gan Atodlen 4. Bydd y pŵer newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau cyfarfodydd ac ynghylch cyhoeddi gwybodaeth. Bydd y pŵer yn rhoi'r hyblygrwydd i'r trefniadau newydd gael eu hadolygu a'u diweddaru'n amserol. Mae angen y pŵer hwn i sicrhau bod y trefniadau hyn yn parhau i fod yn ymarferol wrth i dechnoleg a materion eraill esblygu.
Mae gwelliant 18 hefyd yn bŵer i wneud rheoliadau a fydd yn caniatáu i Weinidogion wneud rheoliadau ynghylch cyfarfodydd cymunedol. Nodir y darpariaethau presennol hefyd yn Neddf 1972. Bydd hyblygrwydd y pŵer i wneud rheoliadau hefyd yn caniatáu i ni gynnal adolygiad a moderneiddio'r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd o'r fath y mae mawr ei angen. Mae'r darpariaethau presennol yn hen iawn ac nid oes rheswm dros eu rhagnodi mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y math o fanylder y darperir ar ei gyfer yn well o lawer mewn rheoliadau. Er enghraifft, yr unig ddewis ar gyfer cyfarfodydd cymunedol ar hyn o bryd yw presenoldeb corfforol gan etholwr.
Gall y pwerau gwneud rheoliadau yng ngwelliannau 17 a 18 fod yn effeithiol a chyflawni'r diben o ddarparu system lywodraethu effeithiol, dryloyw a hyblyg i lywodraeth leol ar yr un sail â gwasanaethau cyhoeddus eraill dim ond os ydyn nhw'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol berthnasol. Felly, mae'r holl bwerau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol drwy welliannau 50, 51 a 52, tra bod gwelliant 53 yn darparu ar gyfer y darpariaethau dod i rym angenrheidiol.
Mae gwelliannau 4, 5 ac 16 yn welliannau technegol sy'n ganlyniadol i welliannau eraill yn y grŵp. Mae gwelliannau 4 a 5 yn newid yr adran drosolwg ar gyfer Rhan 3 i adlewyrchu'r adran sydd wedi ei mewnosod gan welliannau 17 a 18, tra bod gwelliant 16 yn newid adran 50 o'r Bil i adlewyrchu bod Atodlen 4 yn cynnwys dwy ran.
Mae'r bloc adeiladu terfynol yn ymwneud â darlledu cyfarfodydd yn electronig a darperir ar ei gyfer yng ngwelliannau 6 i 10, 12 i 14 a 77. Bydd darlledu cyfarfodydd yn electronig yn galluogi unigolion nad ydyn nhw'n gallu mynychu cyfarfodydd i weld a chlywed y trafodion sy'n effeithio ar eu bywydau a bod yn dyst i'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a'r safbwyntiau sy'n cael eu mynegi gan eu cynrychiolwyr. Yn ganolog iddo, mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â thryloywder democratiaeth leol. Mae'r gwelliannau hyn i gyd yn mireinio adran 47 o'r Bil ac maen nhw wedi eu llywio gan y pryderon a gafodd eu codi yn ystod Cyfnod 1 ynghylch cwmpas eang y darpariaethau darlledu. Yn unol â hynny, mae'r diwygiadau yn dileu'r gofyniad i holl gyfarfodydd prif gyngor gael eu darlledu'n fyw. Yn hytrach, bydd y diwygiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau wneud a chyhoeddi trefniadau i sicrhau mai dim ond cyfarfodydd cyngor llawn o brif gynghorau y mae'n rhaid eu darlledu. Y sefyllfa rhagosodedig yw bod yn rhaid darlledu cyfarfodydd llawn y cyngor yn fyw, yn amodol ar unrhyw eithriadau mewn rheoliadau. Bydd hyn yn galluogi pob aelod o'r gymuned i weld a chlywed y cyfraniadau sy'n cael eu gwneud gan eu cynghorwyr lleol yng nghyfarfodydd llawn y cyngor. Os bydd trefniadau yn cael eu diwygio neu eu disodli, mae'n rhaid i brif gynghorau gyhoeddi'r trefniadau newydd.
Bydd y gwelliannau yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ychwanegu ystod o gyfarfodydd at y rhestr ac, yn bwysig, bydd gwelliant 77 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau eraill o ran darlledu trafodion mewn rheoliadau. Er enghraifft, bydd rheoliadau yn gallu nodi pa gyfarfodydd y mae'n rhaid eu darlledu'n fyw a pha rai y gellir eu recordio'n fyw a'u darlledu'n ddiweddarach. Byddan nhw hefyd yn gallu pennu'r cyfnod y mae'n rhaid cadw'r darllediadau electronig.
Fel y'i drafftiwyd i'w gyflwyno, roedd y darpariaethau hyn yn galluogi Gweinidog Cymru i nodi mewn rheoliadau y byddai'r trafodion yng nghyfarfodydd awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol, gan gynnwys eu pwyllgorau neu eu his-bwyllgorau, yn cael eu darlledu. Mae'r pŵer hwn wedi ei gadw a'i ehangu i gynnwys trafodion yng nghyfarfodydd cyd-bwyllgorau un neu fwy o brif gynghorau, un neu fwy o Awdurdodau Tân ac Achub neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a hefyd cyd-fyrddau.
Ac yn olaf, mân welliant technegol yw gwelliant 72 sy'n dileu cyfeiriad at ddarpariaeth sy'n ddibwrpas o ganlyniad i'r newidiadau i Atodlen 4, fel y'i mewnosodwyd gan welliant 70. Diolch.
Wel, os yw Aelodau'r Senedd yn credu y dylai aelodau cynghorau sy'n mynychu cyfarfodydd o bell allu pleidleisio os bydd cyfleusterau sy'n galluogi presenoldeb o bell yn methu, yna mae'n rhaid iddyn nhw bleidleisio dros welliant 118, sy'n gosod dyletswydd ar brif gynghorau i baratoi a chyhoeddi gweithdrefn ar gyfer hyn. Mae'r gwelliant hefyd yn dirymu unrhyw gyfarfod lle mae problemau technegol yn atal pleidleisio oni bai bod gweithdrefn bleidleisio amgen wedi'i chytuno. Mae'n bwysig, wrth gwrs, y gall aelodau etholedig gyflawni eu dyletswyddau'n llawn fel eu bod yn cael cyfle cyfartal i ddylanwadu ar y broses benderfynu. Mae'r gwelliant hwn, felly, yn ceisio sicrhau y caiff gweithdrefnau pleidleisio brys amgen eu rhoi ar waith i sicrhau y gall pob aelod gyflawni ei ddyletswyddau, p'un a ydyn nhw'n mynychu cyfarfod yn gorfforol neu o bell, yn union fel ni. Mae'r gwelliant hwn yn ategu gwelliannau Llywodraeth Cymru drwy ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi gweithdrefn fel y gall aelodau sy'n bresennol o bell bleidleisio os bydd unrhyw rai o'r cyfleusterau sy'n galluogi presenoldeb o bell yn methu yn ystod y cyfnod pleidleisio. Mae'n synnwyr cyffredin amlwg. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb. Na.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? Oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Dwi'n gweld Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 6 wedi ei basio.
Gwelliant 7, Gweinidog.
Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 7? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 7 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 8, ydy e'n cael ei symud, Gweinidog?
Ydy. Oes unrhyw un yn erbyn gwelliant 8? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 8 yn cael ei gymeradwyo.
Gwelliant 9, Gweinidog.
Yn cael ei symud. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 9? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 9 wedi ei gymeradwyo.
A yw gwelliant 10 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 10? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 10 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 77, Gweinidog.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 77? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 77. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 77 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 12, Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes gwrthwynebiad i welliant 12? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 12. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 13, Gweinidog.
Wedi symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 13? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 13. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 13 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 14, Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 14? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 14. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pump yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 14 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 15, Gweinidog.
Yn cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 15? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac, os derbynnir gwelliant 15, bydd gwelliant 118 yn methu. Agor y bleidlais ar welliant 15. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae gwelliant 15 wedi'i gymeradwyo. Mae gwelliant 118 yn cwympo.
Felly, gwelliant 16, Gweinidog.
Cynigiwyd.
Y gwelliant wedi'i symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 16? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 16. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 16 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 17, Gweinidog.
Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 17? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 17. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn. Mae gwelliant 17 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 18, Gweinidog.
Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 18? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 18. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 18 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 70, Gweinidog.
Cynigiwyd.
Ydy, mae'n cael ei gyflwyno. Oes unrhyw wrthwynebiad i 70? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 70. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae gwelliant 70 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf.
Ydy, yn cael ei gyflwyno gan y Gweinidog. Oes gwrthwynebiad i welliant 4? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 4. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 5.
Cynigiwyd.
Yn cael ei symud gan y Gweinidog. Oes gwrthwynebiad i welliant 5? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae gwelliant 5 wedi ei gymeradwyo.