Grŵp 6: Cyfarfodydd awdurdodau lleol (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 77, 12, 13, 14, 15, 118, 16, 17, 18, 70, 4, 5, 50, 51, 52, 72, 53)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:16, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cyn siarad am y gwelliannau unigol, hoffwn i ddarparu rhywfaint o gyd-destun, gan fy mod i'n ymwybodol iawn nad yw'n arferol cyflwyno gwelliannau o'r math hwn yng Nghyfnod 3. Llywydd, hoffwn i hefyd ymddiheuro am yr amser y bydd hyn yn ei gymryd ymlaen llaw.

Mae'r grŵp yn cynrychioli pecyn cynhwysfawr o ddarpariaethau, sy'n cynnwys pedwar bloc adeiladu, gyda'r bwriad o roi ffyrdd modern a chadarn o weithio i awdurdodau lleol. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor hen a chyfyngol y mae rhai o'r darpariaethau. Yn wir, nodir llawer o'r gofynion mewn deddfwriaeth sylfaenol sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1960, ac sy'n adlewyrchu byd a ffyrdd o wneud busnes cyn y rhyngrwyd a chyfathrebu electronig.

Mewn ymateb i'r pandemig, fe wnaethom ni reoliadau brys ym mis Ebrill er mwyn caniatáu i gyrff llywodraeth leol gyfarfod o bell a chyhoeddi dogfennau cyfarfodydd yn electronig. Ni fyddai'r cyrff hyn wedi gallu cyfarfod yn gyfreithlon ac yn ddiogel, na pharhau â'u busnes yn ystod y pandemig, heb yr ymyriad hwn. Cafodd y rheoliadau hyn eu croesawu'n wresog gan randdeiliaid, ac maen nhw wedi arwain at fuddion eraill. Mae cyrff llywodraeth leol wedi gallu gweithio'n fwy hyblyg ac effeithlon ac mae prosesau gwneud penderfyniadau wedi bod ar gael i gynulleidfa lawer ehangach. Hefyd, mae rhai cyrff wedi nodi mewn gwirionedd fod mwy o bresenoldeb mewn cyfarfodydd.

Fodd bynnag, mae'r rheoliadau brys hyn wedi'u cyfyngu o ran amser a dim ond tan 1 Mai 2021 y maen nhw'n berthnasol i gyfarfodydd. Heb ragor o newid deddfwriaethol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddychwelyd at y drefn cyn y pandemig, gan golli'r buddion y maen nhw wedi eu cael. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ychwanegu at y newidiadau a wnaed gan y rheoliadau hynny, gan ddod â gweithdrefnau cyfarfodydd i'r unfed ganrif ar hugain a rhoi mecanweithiau ar waith sy'n caniatáu i'r darpariaethau newydd gael eu hadolygu, eu harchwilio a'u diweddaru pan fo angen.

Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn darparu ar gyfer darlledu cyfarfodydd awdurdodau lleol yn electronig fel y gall unigolion ddilyn trafodion a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw.

Gan droi, felly, at y gwelliannau, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 15, sy'n cynrychioli'r bloc adeiladu cyntaf. Rhoddodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 drefniadau ar waith i aelodau fynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell. Fodd bynnag, un agwedd allweddol ar y trefniant oedd bod yn rhaid i 30 y cant o'r aelodau fod yn bresennol yn yr un lleoliad er mwyn i'r cyfarfod fod â chworwm.

Fel y'i cyflwynwyd, diwygiodd adran 48 o'r Bil rai agweddau ar Fesur 2011. Fodd bynnag, yng ngoleuni amgylchiadau diweddar, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig o gofio bod y rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal bellach yn gyfan gwbl o ystafelloedd byw, swyddfeydd cartref a lleoedd eraill o'r fath. Yn ogystal, byddai darpariaethau Mesur 2011 yn ymestyn i brif gynghorau yn unig ac nid i gyrff fel parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, sydd wedi canfod bod yr hyblygrwydd a roddwyd gan y rheoliadau yn amhrisiadwy.

Mae gwelliant 15 yn rhoi adran newydd yn y Bil sy'n ymwneud â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd awdurdodau lleol, gan ddarparu i bob pwrpas ar gyfer yr hyn y cyfeirir ato'n gyffredin fel presenoldeb o bell. Mae'r darpariaethau newydd hyn yn cwmpasu'r teulu llywodraeth leol ehangach, gan gynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, cynghorau cymuned, neu awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru.

O dan y darpariaethau newydd, mae'n rhaid i awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau i hwyluso cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd cwbl rithwir, cyfarfodydd lled-rithwir neu hybrid ac, wrth gwrs, cyfarfodydd lle mae pawb yn yr un lle. Mae'n rhaid i awdurdodau sicrhau bod modd cynnal pob cyfarfod a gwmpesir gan y darpariaethau hyn yn rhithwir. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid cynnal pob cyfarfod yn rhithwir; mater i'w benderfynu'n lleol fydd hynny.

Bydd yn ofynnol i awdurdodau roi sylw i ganllawiau, a fydd yn cynnwys y disgwyliad y dylid ystyried amgylchiadau personol unigolion wrth benderfynu ar y math o gyfarfodydd i'w cynnal. Bydd hwn yn gam mawr ymlaen i gefnogi mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau etholedig.

Bydd cyfarfodydd yn ddarostyngedig i'r amod sylfaenol bod yn rhaid i'r cyfarpar neu gyfleuster arall alluogi pawb i siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd. Yr eithriad i'r safon hon yw pan fo'n ofynnol i ddarlledu cyfarfod o dan y Bil. Yn yr achosion hyn, mae'n rhaid i bawb allu gweld ei gilydd a chael eu gweld gan ei gilydd yn ogystal â gallu siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd.

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at, diwygio neu hepgor amodau neu roi cyd-fwrdd i'r ddarpariaeth. Mae'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol y Senedd drwy welliant 51.

Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 118, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau baratoi a chyhoeddi ar eu gwefannau y gweithdrefnau pleidleisio i'w mabwysiadu os bydd yr offer yn methu pan fydd aelodau'n mynychu cyfarfodydd o bell. Rwy'n cytuno y dylai trefniadau pleidleisio a sut y caiff effaith unrhyw darfu technegol ar y trefniadau hynny ei rheoli gael ei nodi'n glir cyn cynnal y cyfarfodydd. Fodd bynnag, mae profiad yn ystod y misoedd diwethaf wedi gweld awdurdodau lleol yn sefydlu'r mesurau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn, a dylai hyn fod yn fater i'w benderfynu'n lleol yn fy marn i. Byddaf i hefyd yn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried wrth ddatblygu'r canllawiau. Hefyd, mae'r gwelliant hwn yn newid adran 4 o Fesur 2011, a fydd yn cael ei hepgor o ganlyniad i'r adran newydd a fydd yn cael ei hychwanegu gan welliant 15. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliant 118.