Grŵp 6: Cyfarfodydd awdurdodau lleol (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 77, 12, 13, 14, 15, 118, 16, 17, 18, 70, 4, 5, 50, 51, 52, 72, 53)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:20, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Darperir ar gyfer yr ail floc adeiladu gan welliant 70, sy'n disodli Atodlen 4 newydd i'r Bil ac yn diwygio darpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Atodlen 12 iddi ac yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960. Mae Rhan 1 o Atodlen 4 wedi ei seilio ar yr egwyddorion cyffredinol bod yn rhaid i ddogfennau penodol sy'n ymwneud â chyfarfodydd gael eu cyhoeddi'n electronig ac yn amserol, fel y gall y cyhoedd ddilyn y broses o wneud penderfyniadau. Bydd cyhoeddi electronig yn ategu ac yn helaethu hawl unigolyn i fynychu cyfarfod, boed yn bersonol neu drwy ddulliau o bell.

Mae paragraff 17 o Atodlen 4 yn diwygio adran 232 o Ddeddf 1972 fel bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad cyhoeddus y mae'n ofynnol ei gyhoeddi gan awdurdod lleol yng Nghymru gael ei gyhoeddi'n electronig, oni wneir darpariaeth benodol mewn man arall mewn deddfwriaeth. Mae is-baragraff 4 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth ynghylch y dull o roi'r hysbysiadau cyhoeddus y mae'n ofynnol i awdurdod lleol eu rhoi. Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn darparu ar gyfer diwygiadau sy'n ganlyniadol i'r adran newydd a fewnosodwyd gan welliant 15.

Y trydydd bloc adeiladu yw'r pwerau gwneud rheoliadau y darperir ar eu cyfer yng ngwelliannau 17 a 18. Mae gwelliant 17 yn cefnogi'r prif newidiadau a wneir gan Atodlen 4. Bydd y pŵer newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau cyfarfodydd ac ynghylch cyhoeddi gwybodaeth. Bydd y pŵer yn rhoi'r hyblygrwydd i'r trefniadau newydd gael eu hadolygu a'u diweddaru'n amserol. Mae angen y pŵer hwn i sicrhau bod y trefniadau hyn yn parhau i fod yn ymarferol wrth i dechnoleg a materion eraill esblygu.

Mae gwelliant 18 hefyd yn bŵer i wneud rheoliadau a fydd yn caniatáu i Weinidogion wneud rheoliadau ynghylch cyfarfodydd cymunedol. Nodir y darpariaethau presennol hefyd yn Neddf 1972. Bydd hyblygrwydd y pŵer i wneud rheoliadau hefyd yn caniatáu i ni gynnal adolygiad a moderneiddio'r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd o'r fath y mae mawr ei angen. Mae'r darpariaethau presennol yn hen iawn ac nid oes rheswm dros eu rhagnodi mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y math o fanylder y darperir ar ei gyfer yn well o lawer mewn rheoliadau. Er enghraifft, yr unig ddewis ar gyfer cyfarfodydd cymunedol ar hyn o bryd yw presenoldeb corfforol gan etholwr.

Gall y pwerau gwneud rheoliadau yng ngwelliannau 17 a 18 fod yn effeithiol a chyflawni'r diben o ddarparu system lywodraethu effeithiol, dryloyw a hyblyg i lywodraeth leol ar yr un sail â gwasanaethau cyhoeddus eraill dim ond os ydyn nhw'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol berthnasol. Felly, mae'r holl bwerau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol drwy welliannau 50, 51 a 52, tra bod gwelliant 53 yn darparu ar gyfer y darpariaethau dod i rym angenrheidiol.

Mae gwelliannau 4, 5 ac 16 yn welliannau technegol sy'n ganlyniadol i welliannau eraill yn y grŵp. Mae gwelliannau 4 a 5 yn newid yr adran drosolwg ar gyfer Rhan 3 i adlewyrchu'r adran sydd wedi ei mewnosod gan welliannau 17 a 18, tra bod gwelliant 16 yn newid adran 50 o'r Bil i adlewyrchu bod Atodlen 4 yn cynnwys dwy ran.

Mae'r bloc adeiladu terfynol yn ymwneud â darlledu cyfarfodydd yn electronig a darperir ar ei gyfer yng ngwelliannau 6 i 10, 12 i 14 a 77. Bydd darlledu cyfarfodydd yn electronig yn galluogi unigolion nad ydyn nhw'n gallu mynychu cyfarfodydd i weld a chlywed y trafodion sy'n effeithio ar eu bywydau a bod yn dyst i'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a'r safbwyntiau sy'n cael eu mynegi gan eu cynrychiolwyr. Yn ganolog iddo, mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â thryloywder democratiaeth leol. Mae'r gwelliannau hyn i gyd yn mireinio adran 47 o'r Bil ac maen nhw wedi eu llywio gan y pryderon a gafodd eu codi yn ystod Cyfnod 1 ynghylch cwmpas eang y darpariaethau darlledu. Yn unol â hynny, mae'r diwygiadau yn dileu'r gofyniad i holl gyfarfodydd prif gyngor gael eu darlledu'n fyw. Yn hytrach, bydd y diwygiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau wneud a chyhoeddi trefniadau i sicrhau mai dim ond cyfarfodydd cyngor llawn o brif gynghorau y mae'n rhaid eu darlledu. Y sefyllfa rhagosodedig yw bod yn rhaid darlledu cyfarfodydd llawn y cyngor yn fyw, yn amodol ar unrhyw eithriadau mewn rheoliadau. Bydd hyn yn galluogi pob aelod o'r gymuned i weld a chlywed y cyfraniadau sy'n cael eu gwneud gan eu cynghorwyr lleol yng nghyfarfodydd llawn y cyngor. Os bydd trefniadau yn cael eu diwygio neu eu disodli, mae'n rhaid i brif gynghorau gyhoeddi'r trefniadau newydd.

Bydd y gwelliannau yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ychwanegu ystod o gyfarfodydd at y rhestr ac, yn bwysig, bydd gwelliant 77 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau eraill o ran darlledu trafodion mewn rheoliadau. Er enghraifft, bydd rheoliadau yn gallu nodi pa gyfarfodydd y mae'n rhaid eu darlledu'n fyw a pha rai y gellir eu recordio'n fyw a'u darlledu'n ddiweddarach. Byddan nhw hefyd yn gallu pennu'r cyfnod y mae'n rhaid cadw'r darllediadau electronig.

Fel y'i drafftiwyd i'w gyflwyno, roedd y darpariaethau hyn yn galluogi Gweinidog Cymru i nodi mewn rheoliadau y byddai'r trafodion yng nghyfarfodydd awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol, gan gynnwys eu pwyllgorau neu eu his-bwyllgorau, yn cael eu darlledu. Mae'r pŵer hwn wedi ei gadw a'i ehangu i gynnwys trafodion yng nghyfarfodydd cyd-bwyllgorau un neu fwy o brif gynghorau, un neu fwy o Awdurdodau Tân ac Achub neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a hefyd cyd-fyrddau.

Ac yn olaf, mân welliant technegol yw gwelliant 72 sy'n dileu cyfeiriad at ddarpariaeth sy'n ddibwrpas o ganlyniad i'r newidiadau i Atodlen 4, fel y'i mewnosodwyd gan welliant 70. Diolch.