Grŵp 6: Cyfarfodydd awdurdodau lleol (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 77, 12, 13, 14, 15, 118, 16, 17, 18, 70, 4, 5, 50, 51, 52, 72, 53)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:25, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, os yw Aelodau'r Senedd yn credu y dylai aelodau cynghorau sy'n mynychu cyfarfodydd o bell allu pleidleisio os bydd cyfleusterau sy'n galluogi presenoldeb o bell yn methu, yna mae'n rhaid iddyn nhw bleidleisio dros welliant 118, sy'n gosod dyletswydd ar brif gynghorau i baratoi a chyhoeddi gweithdrefn ar gyfer hyn. Mae'r gwelliant hefyd yn dirymu unrhyw gyfarfod lle mae problemau technegol yn atal pleidleisio oni bai bod gweithdrefn bleidleisio amgen wedi'i chytuno. Mae'n bwysig, wrth gwrs, y gall aelodau etholedig gyflawni eu dyletswyddau'n llawn fel eu bod yn cael cyfle cyfartal i ddylanwadu ar y broses benderfynu. Mae'r gwelliant hwn, felly, yn ceisio sicrhau y caiff gweithdrefnau pleidleisio brys amgen eu rhoi ar waith i sicrhau y gall pob aelod gyflawni ei ddyletswyddau, p'un a ydyn nhw'n mynychu cyfarfod yn gorfforol neu o bell, yn union fel ni. Mae'r gwelliant hwn yn ategu gwelliannau Llywodraeth Cymru drwy ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi gweithdrefn fel y gall aelodau sy'n bresennol o bell bleidleisio os bydd unrhyw rai o'r cyfleusterau sy'n galluogi presenoldeb o bell yn methu yn ystod y cyfnod pleidleisio. Mae'n synnwyr cyffredin amlwg. Diolch.