Grŵp 9: Cyd-bwyllgorau corfforedig — pan na fo cais wedi ei wneud (Gwelliannau 164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:27 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 7:27, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae arnaf i ofn fy mod yn gwrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn—hynny yw, gwelliannau 120 i 131, 133, 135, 164, 167, 173 ac 175. Nid wyf yn bwriadu siarad am bob gwelliant yn ei dro, ond fe wnaf sôn am yr egwyddor sydd, yn fy marn i, yn sail i'r gwelliannau hyn, sef yr egwyddor honno o bwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud gan lywodraeth leol.

Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed i'n sôn am sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig droeon ac mae'r model hwn yn un yr wyf i wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i'w ddatblygu ers imi ddechrau yn y swydd hon. Nid wyf yn cytuno â'r cynnig y dylid dileu adrannau 73 a 74; rwy'n credu bod hynny yn elfen allweddol o'r darpariaethau hyn. Fy uchelgais wrth greu cyd-bwyllgorau corfforedig oedd darparu gwell cyfrwng ar gyfer cydweithredu mewn llywodraeth leol, gyda manteision gallu cyflogi staff a dal cyllidebau, ond hefyd i alluogi defnyddio un cyfrwng cyson ar gyfer y cydweithio hwn, yn hytrach na threfniadau ar wahân ar gyfer gwahanol swyddogaethau. Rwy'n credu bod llywodraeth leol yn rhannu'r uchelgais hwn.

Fy nod yw symleiddio darpariaeth a oedd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth yn gysylltiedig â chydweithrediad un diben, megis cyd-awdurdodau trafnidiaeth a phaneli cynllunio strategol, a'i wneud yn un trefniant rhanbarthol sy'n gallu edrych ar y swyddogaethau cysylltiedig hyn yn gyfannol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n bwysig bod gan Weinidogion Cymru y gallu i greu cyd-bwyllgorau corfforedig i ddisodli'r strwythurau deddfwriaethol presennol hyn. Rwyf wedi bod yn eglur mai pŵer cyfyngedig iawn yw hwn, wedi'i gyfyngu i feysydd lle mae trefniadau gweithio rhanbarthol eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth neu mewn ymarfer. Mae'r rhain yn feysydd lle ceir consensws bod gweithio ar y raddfa hon yn gwneud synnwyr, gan gyfochri dulliau datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir i ddatblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf lleol. Ar y sail hon, felly, rwy'n annog yr Aelodau'n gryf i wrthod pob gwelliant yn y grŵp hwn. Diolch.