Part of the debate – Senedd Cymru am 7:25 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Mae gwelliannau 120, 121, 122, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 133 a 135 yn dileu darpariaethau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud, fel yr ydym newydd ei glywed gan ein cyd-Aelod ym Mhlaid Cymru.
Yn ystod trafodion Cyfnod 1, codwyd pryderon gan nifer o randdeiliaid ynglŷn â'r mater hwn. Er enghraifft, penderfynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nodi bod ganddi bryderon sylfaenol ynghylch yr egwyddor o orfodi, yr ystyrir ei bod yn tanseilio democratiaeth leol. Hefyd, awgrymodd cymdeithas prif swyddogion awdurdodau lleol y byddai mandadu cyd-bwyllgorau corfforedig yn 'wrthgynhyrchiol', gan gwestiynu a oedd angen ôl troed gorfodol i sicrhau arbedion effeithlonrwydd.
Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrwng i lywodraeth leol i raddau helaeth ac mai mater i lywodraeth leol yw penderfynu sut y maen nhw'n rheoli ac yn trefnu eu trefniadau a'u cydweithrediadau rhanbarthol. Fodd bynnag, mae'r gallu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn tanseilio'r ddadl hon, ac nid yw pryderon rhanddeiliaid a godwyd drwy gydol y gwaith craffu ar y Bil wedi cael sylw. O ystyried eu swyddogaeth o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—fel y gwyddoch, clymblaid sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd, busnes a'r byd academaidd.
Mae ein gwelliannau ni, felly, yn dileu darpariaethau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud. Diolch.