Grŵp 9: Cyd-bwyllgorau corfforedig — pan na fo cais wedi ei wneud (Gwelliannau 164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:24 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 7:24, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Roeddem ni'n awyddus i gyflwyno gwelliannau i ddileu pŵer y Gweinidog i orfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae rhai o'r gwelliannau hynny wedi eu cyflwyno gan Mark Isherwood, felly mae ein gwelliannau ni yn welliannau canlyniadol i'r rhai hynny, ond fe'u cyflwynwyd gyda'r un bwriad polisi ac, wrth gwrs, maen nhw wedi'u drafftio gan y gwasanaethau cyfreithiol yn y fan yma. Mae hyn yn adlewyrchu ein safbwynt fel plaid na ddylid gorfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Rydym ni o'r farn y byddai pŵer o'r fath yn mynd yn rhy bell i roi pŵer gweinidogol i ailysgrifennu ôl troed rhanbarthol llywodraeth yng Nghymru heb y lefel o graffu yr hoffem ni ei gweld. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog fod hwn yn bŵer cyfyngedig iawn sydd wedi ei gyfyngu i feysydd lle mae trefniadau gweithio rhanbarthol eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth neu mewn ymarfer. Fodd bynnag, er ein bod yn derbyn yr eglurhad hwnnw, rydym ni'n credu y dylai fod yn bosibl i awdurdod lleol dynnu ei hun allan o'r trefniadau hyn heb gael ei orfodi i mewn iddynt. Ac felly, byddwn ni'n cefnogi ein gwelliannau ni a gwelliannau Mark Isherwood yn yr adran hon. Diolch.