Grŵp 11: Perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu (Gwelliannau 136, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 81, 82)

Part of the debate – Senedd Cymru am 8:05 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 8:05, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Os caf i ddechrau drwy ymateb i welliant 136, mae adran 93 eisoes yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud o ran penodi paneli, a gall y rheoliadau hyn gynnwys darpariaethau ynghylch penodi aelodau panel. Bydd unrhyw reoliadau o'r fath, wrth gwrs, yn amodol ar ymgynghoriad yn unol ag arfer safonol Llywodraeth Cymru ac yn amodol ar graffu ar weithdrefn gadarnhaol y Senedd. Dim ond un categori penodol o aelodau y mae'r gwelliant hwn yn darparu ar eu cyfer. Cyn pennu aelodaeth benodol o baneli mewn deddfwriaeth, byddai'n bwysig ystyried pwrpas rhan yr holl aelodau penodedig. Mae'n bwysig nodi, er y bydd y darpariaethau yn y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o ran penodi aelodau'r panel, ein bwriad yw ymdrin â hyn drwy ganllawiau i ddechrau. Ar y sail hon, rwy'n gwrthod gwelliant 136 ac rwy'n gofyn i'r Aelodau ei wrthod hefyd.

Gan droi at y gwelliannau sy'n weddill, mae gwelliannau 33 a 34 yn disodli adrannau 97 a 98 o'r Bil yn eu cyfanrwydd. Rydym ni wedi defnyddio'r dull hwn o weithredu yn hytrach na gwneud cyfres o ddiwygiadau unigol i'r darpariaethau. Nid yw'r diwygiadau'n addasu sylwedd pwerau mynediad ac arolygu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn sylweddol. Yn hytrach, mae gwelliant 33 yn nodi pwerau'r Archwilydd mewn ffordd ddarllenadwy, sy'n gyson â drafftio'r adran a gafodd ei mewnosod gan welliant 34. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn rhoi pŵer ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gadw dogfennau a archwiliwyd ganddo neu sydd wedi cael eu darparu iddo o dan yr adran hon. Fodd bynnag, dim ond am gyhyd ag sy'n angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad arbennig y mae modd cadw'r dogfennau hyn. Mae gwelliant 34 yn mewnosod darpariaeth fanylach ynghylch yr amodau a'r cyfyngiadau sy'n gymwys i arfer pwerau mynediad ac arolygu Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn pennu gofynion gwahanol ar gyfer y gwahanol bwerau a'r bobl y ceir arfer y pwerau yn eu herbyn. Mae gwelliannau 35 a 36 yn welliannau technegol sy'n ganlyniadol i welliant 33.

Gan droi yna at welliant 37, mae hwn yn welliant technegol tebyg i welliannau yn y grŵp blaenorol sy'n newid y gwaith o ddrafftio diffiniad 'dogfen' ynghylch pennod 1 o Ran 6. Mae hyn yn sicrhau cysondeb â darpariaethau eraill yn y Bil ac nid yw'n newid effaith y diffiniad. Mae gwelliant 38 yn gysylltiedig â gwelliant 37 ac mae'n dileu'r diffiniad o 'wybodaeth' ynghylch pennod 1 o Ran 6 o'r Bil. Nid oes angen hyn, gan fod 'gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf' eisoes wedi'i chynnwys yn niffiniad 'dogfen'.

Mân ddiwygiadau technegol yw gwelliannau 81 ac 82 sy'n mireinio'r cyfarwyddiadau sy'n nodi lle o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio y dylai gwelliannau sydd wedi'u darparu ar eu cyfer gan y darpariaethau hyn gael eu mewnosod. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn sydd wedi'u cyflawni yn fy enw i. Diolch.