Part of the debate – Senedd Cymru am 8:03 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch. Diolch. Mae gwelliant 136 yn cyflwyno darpariaeth newydd i ganiatáu gwahodd cynghorau tref a chynghorau cymuned lleol i fod yn rhan o asesiad perfformiad panel. Mae'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor benodi panel o leiaf unwaith yn ystod pob cylch etholiadol i asesu ei berfformiad. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd Un Llais Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau tref a chynghorau cymuned, y bydden nhw'n croesawu rhagor o drafodaethau ar y swyddogaeth y gallai cynghorau cymuned a chynghorau tref fod yn ei chyflawni o ran aelodaeth o broses asesu'r panel. Ychwanegodd ei fod o blaid y potensial i gynghorau cymuned a chynghorau tref gefnogi ymdrechion craffu prif gynghorau.
Gan fod prif gynghorau a chynghorau tref a chynghorau cymuned yn aml yn cydweithio ar faterion, bydd hyn yn caniatáu i gynghorau tref a chynghorau cymuned roi adborth ar eu profiadau o weithio gyda'r prif gyngor, yn ogystal â darparu argymhellion i wella cyfranogiad lleol yn y broses o wneud penderfyniadau. Byddai hyn felly yn cryfhau'r holl bartïon dan sylw.
Yn ystod trafodion Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog, er y bydd y darpariaethau yn y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn gysylltiedig â phenodi aelodau'r panel, mai eu bwriad mewn gwirionedd yw ymdrin â hyn drwy ganllawiau yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, nid yw darpariaeth o'r fath yn gwarantu y bydd pob prif gyngor yn gwahodd eu cynghorau tref a chynghorau cymuned lleol i asesiad panel, ac mae'n bwysig ar gyfer ymgysylltu gwirioneddol a llywodraethu da fod pob corff cyhoeddus lleol yn cael cyfleoedd i gyflwyno eu safbwynt yn ffurfiol ar berfformiad prif gyngor, gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned, sy'n cynrychioli'r cymunedau y maent yn cael eu hethol i'w cynrychioli. Rwy'n gobeithio y caiff yr egwyddor y tu ôl i hyn ei chydnabod, felly, a'r cyfle i gefnogi hyn i gryfhau'r Bil hwn.