– Senedd Cymru am 8:03 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 11 ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â pherffomiad a llywodraethu prif gynghorau—136 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r prif welliant a'r grŵp. Mark Isherwood.
Diolch. Diolch. Mae gwelliant 136 yn cyflwyno darpariaeth newydd i ganiatáu gwahodd cynghorau tref a chynghorau cymuned lleol i fod yn rhan o asesiad perfformiad panel. Mae'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor benodi panel o leiaf unwaith yn ystod pob cylch etholiadol i asesu ei berfformiad. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd Un Llais Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau tref a chynghorau cymuned, y bydden nhw'n croesawu rhagor o drafodaethau ar y swyddogaeth y gallai cynghorau cymuned a chynghorau tref fod yn ei chyflawni o ran aelodaeth o broses asesu'r panel. Ychwanegodd ei fod o blaid y potensial i gynghorau cymuned a chynghorau tref gefnogi ymdrechion craffu prif gynghorau.
Gan fod prif gynghorau a chynghorau tref a chynghorau cymuned yn aml yn cydweithio ar faterion, bydd hyn yn caniatáu i gynghorau tref a chynghorau cymuned roi adborth ar eu profiadau o weithio gyda'r prif gyngor, yn ogystal â darparu argymhellion i wella cyfranogiad lleol yn y broses o wneud penderfyniadau. Byddai hyn felly yn cryfhau'r holl bartïon dan sylw.
Yn ystod trafodion Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog, er y bydd y darpariaethau yn y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn gysylltiedig â phenodi aelodau'r panel, mai eu bwriad mewn gwirionedd yw ymdrin â hyn drwy ganllawiau yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, nid yw darpariaeth o'r fath yn gwarantu y bydd pob prif gyngor yn gwahodd eu cynghorau tref a chynghorau cymuned lleol i asesiad panel, ac mae'n bwysig ar gyfer ymgysylltu gwirioneddol a llywodraethu da fod pob corff cyhoeddus lleol yn cael cyfleoedd i gyflwyno eu safbwynt yn ffurfiol ar berfformiad prif gyngor, gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned, sy'n cynrychioli'r cymunedau y maent yn cael eu hethol i'w cynrychioli. Rwy'n gobeithio y caiff yr egwyddor y tu ôl i hyn ei chydnabod, felly, a'r cyfle i gefnogi hyn i gryfhau'r Bil hwn.
Os caf i ddechrau drwy ymateb i welliant 136, mae adran 93 eisoes yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud o ran penodi paneli, a gall y rheoliadau hyn gynnwys darpariaethau ynghylch penodi aelodau panel. Bydd unrhyw reoliadau o'r fath, wrth gwrs, yn amodol ar ymgynghoriad yn unol ag arfer safonol Llywodraeth Cymru ac yn amodol ar graffu ar weithdrefn gadarnhaol y Senedd. Dim ond un categori penodol o aelodau y mae'r gwelliant hwn yn darparu ar eu cyfer. Cyn pennu aelodaeth benodol o baneli mewn deddfwriaeth, byddai'n bwysig ystyried pwrpas rhan yr holl aelodau penodedig. Mae'n bwysig nodi, er y bydd y darpariaethau yn y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o ran penodi aelodau'r panel, ein bwriad yw ymdrin â hyn drwy ganllawiau i ddechrau. Ar y sail hon, rwy'n gwrthod gwelliant 136 ac rwy'n gofyn i'r Aelodau ei wrthod hefyd.
Gan droi at y gwelliannau sy'n weddill, mae gwelliannau 33 a 34 yn disodli adrannau 97 a 98 o'r Bil yn eu cyfanrwydd. Rydym ni wedi defnyddio'r dull hwn o weithredu yn hytrach na gwneud cyfres o ddiwygiadau unigol i'r darpariaethau. Nid yw'r diwygiadau'n addasu sylwedd pwerau mynediad ac arolygu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn sylweddol. Yn hytrach, mae gwelliant 33 yn nodi pwerau'r Archwilydd mewn ffordd ddarllenadwy, sy'n gyson â drafftio'r adran a gafodd ei mewnosod gan welliant 34. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn rhoi pŵer ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gadw dogfennau a archwiliwyd ganddo neu sydd wedi cael eu darparu iddo o dan yr adran hon. Fodd bynnag, dim ond am gyhyd ag sy'n angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad arbennig y mae modd cadw'r dogfennau hyn. Mae gwelliant 34 yn mewnosod darpariaeth fanylach ynghylch yr amodau a'r cyfyngiadau sy'n gymwys i arfer pwerau mynediad ac arolygu Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn pennu gofynion gwahanol ar gyfer y gwahanol bwerau a'r bobl y ceir arfer y pwerau yn eu herbyn. Mae gwelliannau 35 a 36 yn welliannau technegol sy'n ganlyniadol i welliant 33.
Gan droi yna at welliant 37, mae hwn yn welliant technegol tebyg i welliannau yn y grŵp blaenorol sy'n newid y gwaith o ddrafftio diffiniad 'dogfen' ynghylch pennod 1 o Ran 6. Mae hyn yn sicrhau cysondeb â darpariaethau eraill yn y Bil ac nid yw'n newid effaith y diffiniad. Mae gwelliant 38 yn gysylltiedig â gwelliant 37 ac mae'n dileu'r diffiniad o 'wybodaeth' ynghylch pennod 1 o Ran 6 o'r Bil. Nid oes angen hyn, gan fod 'gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf' eisoes wedi'i chynnwys yn niffiniad 'dogfen'.
Mân ddiwygiadau technegol yw gwelliannau 81 ac 82 sy'n mireinio'r cyfarwyddiadau sy'n nodi lle o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio y dylai gwelliannau sydd wedi'u darparu ar eu cyfer gan y darpariaethau hyn gael eu mewnosod. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn sydd wedi'u cyflawni yn fy enw i. Diolch.
Mark Isherwood i ymateb.
Diolch. Wel, byddwn ni'n cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru i hyn, ond yn siomedig o glywed unwaith eto fethiant efallai i ddeall yn llawn yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud, bod didwylledd, atebolrwydd, tryloywder ac ymgysylltu yn arwain at berthnasoedd cryfach, gwell sefydliadau gweithredu, pobl hapusach, mwy brwdfrydig a chymunedau mwy ymroddedig, nid oherwydd fy mod i'n dweud hynny, ond oherwydd bod y dystiolaeth—tystiolaeth amlwg, helaeth—allan yno yn gwneud hyn yn glir. Mae hyn yn ceisio sicrhau ein bod ni'n cyflwyno ffordd arall o gryfhau'r Bil hwn er mwyn gallu cyflawni'r nod hwnnw, ac mae'n siomedig ein bod ni unwaith eto'n colli cyfle i wella materion i bob parti sy'n ymwneud â'r ffordd hon er budd y ddwy ochr. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 136? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 136. Cau'r bleidlais. O blaid 10, chwech yn ymatal, 35 yn erbyn—gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 33 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Ydy e'n cael ei gyflwyno? Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 33? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 33. Cau'r bleidlais. O blaid 43, pedwar yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 33 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 34 yn enw'r Gweinidog.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 34? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 34. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 34 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 35, Gweinidog.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 35? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 35. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 35 yn cael ei dderbyn.
Gwelliant 36, Gweinidog.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 36? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 36. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 36 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 37 yn enw'r Gweinidog.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 37. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 37 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 38, Gweinidog.
Cynigiwyd.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 38? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 38. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 38 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 81, Gweinidog.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 81? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 81. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 81 yn cael ei gymeradwyo.
Gwelliant 82, Gweinidog.
Cynnig.
Oes gwrthwynebiad i welliant 82? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 82. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 82 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 168 yn enw Delyth Jewell.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Os derbynnir gwelliant 168, bydd gwelliant 137 yn methu. Agor y bleidlais ar welliant 168. Cau'r bleidlais. O blaid 10, tri yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 168 wedi ei wrthod.
Gwelliant 137 yn enw Mark Isherwood.
Cynnig.
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 137. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae gwelliant 137 wedi'i wrthod.