Part of the debate – Senedd Cymru am 8:27 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Byddaf i'n siarad am welliant 47 yn gyntaf. Yng Nghyfnod 2, cafodd gwelliant nad oedd yn un gan y Llywodraeth ei gyflwyno yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau
'wneud trefniadau i ddarparu gwasanaeth ymchwil a chyngor i'w aelodau'.
Nid oeddwn i'n gallu cefnogi'r gwelliant hwn, gan fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 eisoes yn darparu bod swyddogaethau pennaeth y gwasanaethau democrataidd yn cynnwys darparu cyngor a chymorth i aelodau, a'r bwriad yw iddo gynnwys gwasanaeth ymchwil. O dan Fesur 2011, mae'n ofynnol i brif gyngor ddarparu staff, llety ac adnoddau eraill i'w bennaeth gwasanaethau democrataidd a fydd, ym marn y cyngor yn caniatáu i'r pennaeth gyflawni ei swyddogaethau. Yn ystod trafodion pwyllgorau, ymrwymais i archwilio potensial cyhoeddi canllawiau ynghylch y mater hwn, ac rwyf i wedi cyflwyno gwelliant 47 mewn ymateb i'r ymrwymiad hwnnw.
Bydd y gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyhoeddi o ran darparu adnoddau i'w pennaeth gwasanaethau democrataidd. Rwy'n rhagweld y gallai'r canllawiau hyn fanylu ar fanteision gwasanaeth ymchwil sydd wedi'i gyllido'n dda ar gyfer aelodau, a nodi y dylai cynghorau ystyried sut y gallen nhw ddyrannu adnoddau er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth o'r fath.
Mae gwelliant 45 yn welliant technegol i ddarparu ar gyfer diffiniad 'dogfen' yn adran 158, a dileu diffiniad diangen 'gwybodaeth'. Mae hyn yn unol â diwygiadau technegol eraill mewn grwpiau blaenorol.
Mae gwelliant 46 hefyd yn welliant technegol sy'n ymwneud ag adran 158 o'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth o ran rhannu gwybodaeth rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a rheoleiddwyr. Mae'r diwygiad yn mewnosod adran newydd sy'n sicrhau nad yw'r gwaharddiad ar ddatgelu gwybodaeth yn adran 54 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn atal yr archwilydd cyffredinol rhag datgelu gwybodaeth y mae wedi'i chael o dan adran 158 o'r Bil at y dibenion y mae wedi gofyn amdani, neu ddatgelu gwybodaeth i reoleiddwyr eraill os oes cais wedi'i wneud o dan adran 158.
Ac yn olaf, mae gwelliant 54 yn ganlyniadol i welliant 46, ac mae'n darparu bod y darpariaethau a fewnosodir gan y gwelliant hwnnw yn dod i rym yn unol â chychwyn adran 158. Diolch.