Part of the debate – Senedd Cymru am 8:29 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Mae gwelliant 47 Llywodraeth Cymru, fel yr ydym ni wedi'i glywed, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau wedi'i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru, a gall canllawiau gael eu cynhyrchu ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i ddarparu i'w bennaeth gwasanaethau democrataidd unrhyw staff, llety ac adnoddau eraill y mae'r awdurdod lleol o'r farn eu bod yn ddigonol i ganiatáu i swyddogaethau pennaeth y gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni. Mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi mai un o ddyletswyddau pennaeth y gwasanaethau democrataidd yw rhoi cymorth a chyngor digonol i gynghorwyr y tu allan i'r weithrediaeth. Mae'r gwelliant hwn yn cyflwyno pŵer i wneud canllawiau i sicrhau bod y cyfle i fanteisio ar gyngor a chymorth yn gyson ledled awdurdodau lleol a bod cynghorwyr yn gallu cael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw. Wrth gwrs, gwyddom ni, fel Aelodau'r Senedd neu Senedd Cymru, ein bod ni'n dibynnu ar y cyngor annibynnol a gaiff ei ddarparu gan y Gwasanaeth Ymchwil yn Senedd Cymru ac na fyddem ni'n ceisio cyngor annibynnol gan weision sifil Llywodraeth Cymru oherwydd y gwrthdaro buddiannau anochel a fyddai'n codi lle mae pŵer yn cael ei wahanu'n ffurfiol rhwng y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa. Felly, mae'n hanfodol bod cynghorwyr o bob plaid y tu allan i'r weithrediaeth, yn ogystal ag i mewn, yn gallu cael cyngor a chymorth annibynnol. Felly, yr ydym ni'n cefnogi bwriadau'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, os ydy'r gwelliant hwn yn cael ei dderbyn, yn ôl y disgwyl, dylai Llywodraeth Cymru roi'r adnoddau angenrheidiol i gynghorau lleol i'w galluogi i sefydlu gwasanaeth ymchwil aelodau, gan sicrhau nad oes rhaid i gynghorau ddefnyddio eu hadnoddau presennol sydd eisoes dan bwysau i sefydlu gwasanaethau o'r fath. At hynny, dylai mesurau gael eu rhoi ar waith i sicrhau bod unrhyw wasanaeth ymchwil yn hygyrch i bob Aelod etholedig a'i fod yn rhydd o unrhyw duedd wleidyddol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth dderbyn ein cefnogaeth, hefyd yn cydnabod y materion yr wyf i wedi tynnu sylw atyn nhw.