Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Llywydd, diolchaf i Delyth Jewell am y cwestiwn yna. Ni fu cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddemocratiaeth yng Nghymru, a ledled y byd, erioed yn bwysicach. Rwyf i wedi ysgrifennu heddiw at y darpar Arlywydd Biden i'w longyfarch ar ei fuddugoliaeth yn etholiadau yr wythnos diwethaf yn yr Unol Daleithiau. Mae'r broses gwneud penderfyniadau yn y Senedd hon yn ystod argyfwng coronafeirws wedi dangos arwyddocâd gwleidyddiaeth ym mywydau pawb mewn ffordd ddigynsail.