Part of the debate – Senedd Cymru am 8:36 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch. Mae gwelliant 142 yn dileu adran 164, 'Awdurdodau tân ac achub cyfunol: ymchwiliadau'. Mae adran 164 o'r Bil yn ymdrin ag ymchwiliadau i drefniadau cyllid a llywodraethu ar gyfer awdurdodau tân ac achub. Mae'r rhain wedi'u sefydlu drwy Orchmynion cyfunol o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae adran 164 yn diwygio Deddf 2004 i ddileu'r gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad wrth amrywio Gorchymyn cyfunol awdurdod, ac eithrio pan fo'r amrywiad yn newid yr ardal a wasanaethir gan yr awdurdod tân ac achub, neu y byddai'n dirymu'r Gorchymyn cyfunol gyda'r bwriad o greu trefn cwbl wahanol o awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth unfrydol gan awdurdodau tân ac achub Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynglŷn â'r ddarpariaeth hon. Nododd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru eu pryderon difrifol, gan esbonio bod y ddarpariaeth wedi'i rhoi ar waith am reswm, sef sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei roi i ddiogelwch diffoddwyr tân neu'r gymuned cyn i newidiadau gael eu gweithredu a allai gael effaith andwyol ar y rhain. Pwysleisiodd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru fod y newid hwn yn gam sy'n peri pryder mawr, gan y gallai arwain at wneud newidiadau anaddas neu ddifeddwl i rai o'r meysydd allweddol wedi'u nodi heb ddigon o ymchwil, dadl, craffu na her.
Mynegodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ei bryderon yn gryf hefyd, gan nodi bod y syniad na fyddai newid, er enghraifft, trefniadau llywodraethu neu gyllido awdurdodau tân ac achub sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch y cyhoedd na diffoddwyr tân yn ddiffygiol. Byddai'n awgrymu, medden nhw, y byddai rhoi blaenoriaeth i gyfleustra ar draul y diogelu sydd wedi'i gynnig gan yr angen i gynnal ymchwiliad yng Nghymru yn ymddangos yn gam yn ôl, nid heb rywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân. A dywedodd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod diffygion amlwg yn y cynigion a bod ymchwiliadau o'r fath yn gwella ac yn hwyluso penderfyniadau da, gan ychwanegu, os yw cynigion yn anymarferol neu'n ddifeddwl neu'n afresymol, y byddai ymchwiliad yn gweithredu fel brêc neu hidlydd agored ac effeithlon ar unrhyw gynigion o'r fath ac, o ganlyniad, ei fod wir er budd y cyhoedd.
Felly, fel y dywedodd adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, roedd awdurdodau tân ac achub de Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru yn glir wrth ofyn bod y ddarpariaeth yn adran 164 yn cael ei dileu o'r Bil. Yn ystod Cyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog y bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses rhy gymhleth ac eang. Fodd bynnag, nid yw datganiad o'r fath yn ymateb i bryderon y gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau sydd wedi siarad yn wybodus ac awdurdodol yn erbyn bwriadau presennol Llywodraeth Cymru o ran ymchwiliadau cyhoeddus. Nid symleiddio yw hyn; dileu cadw cydbwysedd o fewn y system yw hyn, ac mae hynny'n gam peryglus iawn i'w gymryd.