– Senedd Cymru am 8:35 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Grŵp 14 yw'r grŵp nesaf ar awdurdodau tân ac achub. Gwelliant 142 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant hwnnw a'r gwelliannau yn y grŵp. Mark Isherwood.
Diolch. Mae gwelliant 142 yn dileu adran 164, 'Awdurdodau tân ac achub cyfunol: ymchwiliadau'. Mae adran 164 o'r Bil yn ymdrin ag ymchwiliadau i drefniadau cyllid a llywodraethu ar gyfer awdurdodau tân ac achub. Mae'r rhain wedi'u sefydlu drwy Orchmynion cyfunol o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae adran 164 yn diwygio Deddf 2004 i ddileu'r gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad wrth amrywio Gorchymyn cyfunol awdurdod, ac eithrio pan fo'r amrywiad yn newid yr ardal a wasanaethir gan yr awdurdod tân ac achub, neu y byddai'n dirymu'r Gorchymyn cyfunol gyda'r bwriad o greu trefn cwbl wahanol o awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth unfrydol gan awdurdodau tân ac achub Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynglŷn â'r ddarpariaeth hon. Nododd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru eu pryderon difrifol, gan esbonio bod y ddarpariaeth wedi'i rhoi ar waith am reswm, sef sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei roi i ddiogelwch diffoddwyr tân neu'r gymuned cyn i newidiadau gael eu gweithredu a allai gael effaith andwyol ar y rhain. Pwysleisiodd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru fod y newid hwn yn gam sy'n peri pryder mawr, gan y gallai arwain at wneud newidiadau anaddas neu ddifeddwl i rai o'r meysydd allweddol wedi'u nodi heb ddigon o ymchwil, dadl, craffu na her.
Mynegodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ei bryderon yn gryf hefyd, gan nodi bod y syniad na fyddai newid, er enghraifft, trefniadau llywodraethu neu gyllido awdurdodau tân ac achub sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch y cyhoedd na diffoddwyr tân yn ddiffygiol. Byddai'n awgrymu, medden nhw, y byddai rhoi blaenoriaeth i gyfleustra ar draul y diogelu sydd wedi'i gynnig gan yr angen i gynnal ymchwiliad yng Nghymru yn ymddangos yn gam yn ôl, nid heb rywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân. A dywedodd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod diffygion amlwg yn y cynigion a bod ymchwiliadau o'r fath yn gwella ac yn hwyluso penderfyniadau da, gan ychwanegu, os yw cynigion yn anymarferol neu'n ddifeddwl neu'n afresymol, y byddai ymchwiliad yn gweithredu fel brêc neu hidlydd agored ac effeithlon ar unrhyw gynigion o'r fath ac, o ganlyniad, ei fod wir er budd y cyhoedd.
Felly, fel y dywedodd adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, roedd awdurdodau tân ac achub de Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru yn glir wrth ofyn bod y ddarpariaeth yn adran 164 yn cael ei dileu o'r Bil. Yn ystod Cyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog y bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses rhy gymhleth ac eang. Fodd bynnag, nid yw datganiad o'r fath yn ymateb i bryderon y gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau sydd wedi siarad yn wybodus ac awdurdodol yn erbyn bwriadau presennol Llywodraeth Cymru o ran ymchwiliadau cyhoeddus. Nid symleiddio yw hyn; dileu cadw cydbwysedd o fewn y system yw hyn, ac mae hynny'n gam peryglus iawn i'w gymryd.
Mae arnaf i ofn fy mod yn gwrthod gwelliant 142 ac yn galw ar yr Aelodau i wneud yr un peth. Mae cyfansoddiad Awdurdodau Tân ac Achub a threfniadau llywodraethu eraill wedi'u nodi yn eu Gorchmynion cyfunol. Ar y cyfan, mae'r Gorchmynion hyn yn ymdrin â materion yn ymwneud â strwythur a gweithdrefn fewnol. Nid oes ganddyn nhw unrhyw beth i'w wneud â diffodd tân na gweithrediadau rheng flaen eraill. Yn wir, byddai modd cymhwyso eu telerau bron air am air i gorff nad oedd yn darparu gwasanaethau tân ac achub o gwbl.
Er ei bod yn bosibl diwygio'r Gorchmynion cyfunol i wella trefniadau llywodraethu a chyllidol, rydym ni wedi cytuno â'r awdurdodau tân ac achub na fyddwn ni'n mynd ar drywydd y materion hyn yn ystod tymor hwn y Senedd. Er hynny, nid oes rheswm dros gynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol i gynigion i ddiwygio Gorchmynion cyfunol lle'r oedd hynny'n ddymunol er budd llywodraethu da. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae'r Gorchmynion yn ei gwneud yn ofynnol i gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub ddal swydd am flwyddyn yn unig. Gallai rhai ddweud bod hynny'n gyfnod rhy fyr a'i fod yn arwain at arweinyddiaeth ansefydlog. Byddai caniatáu i gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub wasanaethu am ddwy flynedd, dyweder, yn gam bach yn amlwg na fyddai'n haeddu ymchwiliad cyhoeddus, ac eto dyna fyddai effaith y gyfraith fel y mae hi.
Mae diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn yn aml yn isel iawn, ond bydd y gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori'n llawn ar newidiadau arfaethedig i Orchmynion cyfunol yn parhau, yn ogystal â'r gofyniad i osod diwygiadau i'r Gorchmynion hynny gerbron y Senedd. Bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses sy'n rhy gymhleth a chostus. Nid oes gan unrhyw gorff cyhoeddus arall y pŵer i gydsynio i newidiadau yn eu trefniadau llywodraethu eu hunain, na gorfodi ymchwiliad os nad yw hwnnw ganddo. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi y dylai Awdurdodau Tân ac Achub fod yn achos arbennig.
Mae Awdurdodau Tân ac Achub wedi dadlau bod darpariaethau presennol yr ymchwiliad cyhoeddus ar waith at ddibenion diogelwch y cyhoedd; nid wyf i'n cytuno. Diben Gorchymyn cyfunol, fel y dywedais i, yw ymdrin â materion strwythur a llywodraethu, nid darparu gwasanaethau. Yr unig eithriad posibl fyddai newidiadau i ffiniau Awdurdodau Tân ac Achub. Fodd bynnag, bydd y gofyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus yn parhau lle byddai newidiadau arfaethedig i'r Gorchmynion cyfunol yn effeithio ar ffiniau Awdurdodau Tân ac Achub. Nid oes gennym ni unrhyw ddiddordeb mewn cynigion o'r fath ar hyn o bryd, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig cynnal y diogelu. Dyna oedd pwrpas y gofyniad erioed. Mae'n pennu dull ar gyfer sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Nid oedd yn rhoi pŵer i Awdurdodau Tân ac Achub rwystro newidiadau i'w trefniadau llywodraethu eu hunain.
Mae gwelliant 48 yn ddiwygiad technegol i dynnu awdurdodau tân ac achub yng Nghymru o adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 93 o Ddeddf 2003 yn rhoi pŵer i awdurdodau perthnasol godi tâl am wasanaethau dewisol. Mae gan awdurdodau tân ac achub bŵer eisoes i godi tâl ar berson am unrhyw gamau wedi'u cymryd heblaw am at ddiben masnachol, o dan adran 18A o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac felly nid oes angen y pŵer arnyn nhw o dan adran 93.
Mân welliant technegol yw gwelliant 49 a fydd yn hwyluso diddymu Mesur llywodraeth leol 2009 ac nid yw'n newid effaith berthnasol adran 166. Mae gwelliant 57 yn ganlyniadol i welliant 48 ac mae'n pennu bod y darpariaethau a fewnosodir gan y gwelliant hwnnw yn dod i rym ddeufis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol. Diolch.
Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. A ydych yn dymuno gwneud hynny?
Diolch, Llywydd. Ailadroddodd y Gweinidog y datganiad a wnaed yng Nghyfnod 2, a ddarllenais i, y bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses sy'n rhy gymhleth a chostus, er i bob awdurdod tân ac achub yng Nghymru ddatgan i'r gwrthwyneb—na fyddai hyn heb risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân, bod diffygion amlwg yn y cynigion, a bod ymchwiliad fel brêc neu hidlydd i unrhyw gynnig o'r fath er budd y cyhoedd i raddau helaeth. Mae'n sefyllfa druenus iawn pan fydd unrhyw Lywodraeth yn credu ei bod yn gwybod yn well na llais unfrydol gwasanaeth brys rheng flaen yng Nghymru. Mae llywodraethu da yn golygu eich bod yn gwrando, rydych yn dysgu; nid ydych yn esgus eich bod yn gwybod yn well.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 142? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 142. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pump yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Mae gwelliant 48 yn enw'r Gweinidog yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i welliant 48? [Gwrthwynebiad.] Oes, gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 48. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, gwelliant 48 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 49, Gweinidog.
Mae wedi cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i 49? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 49. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae gwelliant 49 yn cael ei gymeradwyo.