Part of the debate – Senedd Cymru am 8:46 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Mae gwelliant 143 yn sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu awdurdodau lleol am unrhyw gostau a ysgwyddir o ganlyniad i ddarpariaethau yn y Bil. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y bydd cyfanswm cost y Bil tua £17.17 miliwn, gan gynnwys costau trosiannol o tua £2.95 miliwn i lywodraeth leol. O ystyried y pwysau ar gyllid llywodraeth leol, ac yn enwedig yng ngoleuni pandemig COVID-19, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn darparu'r adnoddau angenrheidiol i ddeddfu'r Bil y mae'n ei basio ac i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ei nodau yn y pen draw. Felly, mae ein gwelliant yn adlewyrchu sylwadau a wnaed gan randdeiliaid yn ystod trafodion Cyfnod 1, gan gynnwys sylwadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddywedodd:
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ariannu unrhyw fentrau cenedlaethol newydd yn llawn, neu oblygiadau unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol ar awdurdodau lleol.
Fodd bynnag, dadleuodd y Gweinidog yn erbyn sylwadau o'r fath yn ystod Cyfnod 2. Dywedodd:
Mae prif gynghorau yn cael arian gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad llywodraeth leol, tra bo cynghorau:
hefyd yn derbyn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £500,000 wedi ei ddarparu i gynghorau mewn cymorth paratoadol, gan gynnwys cefnogi democratiaeth ddigidol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan ei bod yn aros am fanylion ynghylch sut y byddai hyn yn cael ei ddosbarthu. At hynny, mae'r cyllid hwn yn sylweddol is na'r £2.95 miliwn o gostau trosiannol i lywodraeth leol a amlinellwyd yn y memorandwm esboniadol. Fel y nodwyd, ac mae ei holl aelodau yn gwybod a dylai pob un ohonyn nhw dderbyn, mai bwriad y setliad llywodraeth leol a gafodd prif gynghorau gan Lywodraeth Cymru yw ariannu'r gwasanaethau statudol y maen nhw'n eu darparu, nid costau gorfodol ychwanegol a orfodwyd gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn codi pryder ers blynyddoedd lawer am y baich costau cosbol o orfod ysgwyddo canlyniadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw wedi eu hariannu neu nad ydyn nhw wedi eu hariannu'n ddigonol.
Fel y nodwyd, dywedodd y Gweinidog fod cynghorau:
hefyd yn derbyn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol.
Gan adlewyrchu pryderon y cynghorau, dyma yn union beth y mae ein gwelliant yn ceisio ei sicrhau yn yr achos hwn.