Part of the debate – Senedd Cymru am 8:48 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Er fy mod i'n deall pam y mae'r Aelod wedi cyflwyno gwelliant 143, ni allaf ei gefnogi a galwaf ar yr Aelodau i'w wrthod. Mae'r gwelliant yn cynnig gosod gofyniad mewn deddfwriaeth i ad-dalu costau heb unrhyw gydnabyddiaeth o'r buddion, ariannol neu fel arall. Nid yw'n gwahaniaethu rhwng costau sefydlu a'r costau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ffordd newydd ond parhaus o weithio. Mae hefyd yn awgrymu y byddai'n rhaid i gynghorau a Llywodraeth Cymru nodi'r costau hynny sy'n uniongyrchol berthnasol i'r ddeddfwriaeth hon byth a beunydd, ni waeth pa mor fach nac amhendant y gallen nhw fod, gan greu angen felly am system newydd a biwrocrataidd i gofnodi ac olrhain costau drwy sefydlu trefn ariannu benodol wedi'i neilltuo. Nid wyf i'n credu mai dyna yw bwriad yr Aelod, ond byddai'n ganlyniad anochel i osod darpariaeth o'r fath yn y ddeddfwriaeth.
Fodd bynnag, gadewch i mi fod yn glir ein bod ni yn cydnabod y bydd angen buddsoddi mewn gweithredu rhai agweddau ar y Bil hwn. Er enghraifft, rydym ni eisoes wedi darparu cyllid ychwanegol i gydnabod effeithiau diwygio etholiadol sydd â chyfanswm o tua £2.2 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. Byddwn yn parhau i drafod gyda llywodraeth leol drwy CLlLC pa gymorth ychwanegol sydd ei angen i weithredu newidiadau eraill.
Mae egwyddor bwysig yma hefyd ynglŷn ag ariannu llywodraeth leol na ddylem ei cholli. Nid yw'r rhan fwyaf o'n cyllid ar gyfer llywodraeth leol wedi'i neilltuo. Yn wahanol i grantiau, lle gallwn ni ac yn aml yr ydym ni, yn ei gwneud yn ofynnol i rai gweithgareddau gael eu blaenoriaethu a'u gwneud mewn ffordd benodol, mae cyllid drwy'r setliad llywodraeth leol yno i gynghorau wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cyflawni dyletswyddau statudol a darparu gwasanaethau anstatudol. Mae gennym ni drefniant y cytunwyd arno eisoes ac wedi ei brofi, gyda llywodraeth leol, sy'n ystyried pob agwedd ar gyllid prif gyngor yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn cynnwys nodi ac ystyried unrhyw gostau parhaus newydd sylweddol a wynebir gan brif gynghorau, boed hynny yn sgil chwyddiant cyflogau neu sy'n deillio o ddeddfwriaeth. Mae is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth yn bodoli i sicrhau yr ystyrir yn briodol y materion hyn, ac felly ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch, Llywydd.