3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:55, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mewn rhai ysgolion a cholegau, mae COVID-19 wedi ei gwneud hi'n ofynnol i ddisgyblion hunanynysu am wythnosau ar y tro. Mae rhai ysgolion, ar adegau, wedi gorfod cau dros dro hyd yn oed. Mae ysgolion a cholegau eraill wedi bod yn llawer mwy ffodus hyd yn hyn, ond ni allwn ni, ni allaf i, fod yn hyderus ynghylch yr hyn wnaiff ddigwydd yn ystod gweddill y flwyddyn ysgol. A'r ansicrwydd parhaus hwn yn ogystal â sicrhau tegwch, cyfiawnder a lles i ddysgwyr sy'n llywio fy meddylfryd i o ran cymwysterau ar gyfer 2021.

Fy ystyriaeth allweddol arall i yw'r angen i neilltuo amser ar gyfer profiadau addysgu a dysgu o ansawdd da yn ystod y flwyddyn hon, i sicrhau bod yr wybodaeth gan y dysgwyr, ynghyd â'r sgiliau a'r hyder, i symud ymlaen i'w cam nesaf nhw. Rwy'n awyddus i ddysgwyr mewn ysgol neu goleg fod yn mwynhau profiadau addysgol cadarnhaol, nid dim ond yn paratoi ar gyfer asesiadau a hynny'n unig. Ar y sail hon, ac yn unol ag argymhelliad Cymwysterau Cymru a'r adolygiad annibynnol, rwy'n bwriadu dweud wrth Cymwysterau Cymru na ddylid cael arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer cymwysterau TGAU na Lefel AS ar gyfer 2021. Rwy'n gallu cadarnhau hefyd mai fy mwriad i yw na fydd yna unrhyw arholiadau terfynol ar gyfer disgyblion Lefel A, a fydd yn dilyn proses debyg i'r hyn a geir ar gyfer cymwysterau TGAU a Lefel AS. Rwyf wedi nodi pryderon na allwn ni ragweld beth fydd y sefyllfa o ran y feirws yn ystod yr haf ac, felly, fe allai fod yn anodd cynnal arholiadau yn ffisegol, ac mae'n wir y gallai hynny fod yn heriol. Eto i gyd, mae'n rhaid imi ailadrodd mai prif ddiben fy mholisi i yw sicrhau tegwch, ac fe fydd y cyfnodau o amser a dreulir gan ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau wedi amrywio yn aruthrol. Mae'n annheg i gredu y gellid cynnal yr arholiadau ar unrhyw sail a fyddai'n cynrychioli tegwch i bawb.

Rwyf wedi ymgynghori â phrifysgolion, sydd wedi tynnu sylw at y ffaith mai eu blaenoriaeth nhw yw i fyfyrwyr fod wedi ymdrin ag agweddau hanfodol ar eu cyrsiau nhw. Maen nhw wedi cadarnhau eu bod yn gyfarwydd â derbyn llawer o wahanol fathau o gymwysterau. Maen nhw'n disgwyl dull tryloyw a chadarn sy'n dangos tystiolaeth o wybodaeth a gallu dysgwr. Ac mae fy null arfaethedig i o weithredu yn gwneud yn union hynny, gan iddo gael ei gynllunio i wneud yn fawr o'r amser ar gyfer addysgu a dysgu. Yn hytrach nag arholiadau ar ddiwedd blwyddyn, rydym ni'n bwriadu gweithio gydag athrawon a darlithwyr i ddatblygu asesiadau a reolir gan athrawon. Fe ddylai'r rhain gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol, ond a gynhelir yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth o dan oruchwyliaeth athrawon. Fe fydd gan athrawon hyblygrwydd o ran yr amser mwyaf addas i ymgymryd â nhw, yng nghyd-destun amserlenni'r canlyniadau. Fy nisgwyliad i yw y bydd y rhain yn sail i ganlyniadau sy'n cael eu cynnal mewn canolfannau, yn gysylltiedig â dull cenedlaethol cyffredin, gan sicrhau cysondeb ledled Cymru. Fy mwriad i yw i hyn fod yn berthnasol i gymwysterau TGAU, Lefel AS a Lefel A a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru. Fe fydd y dull arfaethedig o ymdrin â hyn yn cael ei ddatblygu gan arweinwyr ysgolion a cholegau, ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gyfarwyddo gan Cymwysterau Cymru a CBAC. Wrth ddatblygu'r cynnig ynglŷn â chanlyniadau wedi eu seilio ar ganolfan, rydym ni'n bwriadu dysgu o brofiadau 2020 ac fe gaiff ei lywio gan ail gam gwaith yr adolygiad annibynnol hefyd. Fy mwriad i o ran polisi yw y bydd dull cyffredin o weithredu ledled Cymru drwy gyfrwng CBAC, gan ddarparu tryloywder a thrylwyredd i sicrhau prifysgolion a cholegau o'n dull ni o weithredu.

Gan droi at gymwysterau galwedigaethol, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r tirlun cymwysterau galwedigaethol yn wahanol. Fe gaiff swm sylweddol o ddysgu galwedigaethol ei gyflwyno ar sail mewn ac allan, gyda dysgwyr yn dechrau arni gydol y flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol a gymerir gan ddysgwyr yng Nghymru ar gael yng ngwledydd eraill y DU hefyd. Ar gyfer sicrhau cysondeb, rwyf i wedi gofyn i Cymwysterau Cymru weithio'n agos gyda rheoleiddwyr eraill i sicrhau dull pragmatig sy'n gweithio er budd dysgwyr ac sy'n rhoi eglurder iddyn nhw ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Fe gyhoeddwyd canllawiau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol fis diwethaf, sy'n nodi'r egwyddorion y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu cymhwyso wrth wneud addasiadau mewn ymateb i effaith COVID-19. Mae hyn yn golygu y bydd archwiliadau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ar gyfer cyfres yr haf yn parhau er mwyn cynnal dull cyson ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Serch hynny, fe fydd fy swyddogion i a Cymwysterau Cymru yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rheoleiddwyr cymwysterau eraill yng ngoleuni'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd.

Heddiw, rwyf hefyd yn sefydlu grŵp cynghori dylunio a darparu o blith arweinwyr ysgolion a cholegau, y rheoleiddiwr a'r corff dyfarnu. Geraint Rees fydd cadeirydd y grŵp hwn ac fe'i cefnogir gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Ni fydd y grŵp yn ymhél ag atebolrwydd sefydliadau unigol, atebolrwydd yr ysgolion, y rheoleiddiwr na'r corff dyfarnu, ond fe fydd yn datblygu cynigion polisi ar gyfer ein dull gweithredu ni, gan gynnwys cynigion manwl ar gyfer yr ystod o brosesau asesu ac apelio. Fe fydd rheoleiddiwr a chorff dyfarnu Cymru yn cynnig arbenigedd i'r grŵp ynglŷn ag asesu, ac rwy'n disgwyl gallu ystyried a chadarnhau cyfeiriad ein polisi erbyn diwedd mis Rhagfyr ar gyfer rhoi amser i'w weithredu o fis Ionawr ymlaen. Fe fydd y grŵp wedyn, yn ystod y flwyddyn, yn fy nghynghori i ar gyflawni'r pecyn gwaith hwn ac rwy'n disgwyl gweld ein blaenoriaethau cydraddoldeb ni wrth galon y cyfan.

Dirprwy Lywydd, mae hon yn parhau i fod yn flwyddyn heriol iawn. Rwyf wedi pennu llwybr heddiw sy'n tynnu'r pwysau oddi ar ddysgwyr ac yn rhoi amser clir i addysgu a dysgu. Rwy'n gofyn i'n hysgolion ni, ein colegau ni, ein cyrff cymwysterau ni a'r sector addysg yn fwy eang weithio ar y cyd ac yn gydweithredol drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein dysgwyr a'u galluogi nhw i fwrw ymlaen yn hyderus. Diolch yn fawr.