3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:18, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Siân Gwenllian, am y cwestiynau yna. Fe ddechreuodd drwy ddweud ei bod hi'n credu y dylid bod wedi diddymu'r arholiadau cyn hyn. Wel, polisi Plaid Cymru yw cael gwared ar arholiadau, ac mae hwnnw'n bolisi cwbl ddilys i'w gael. Nid yw'n bolisi yr wyf i'n cytuno ag ef; rwyf i o'r farn fod arholiadau yn rhan bwysig o'n system addysg ni. Pe bawn i'n credu bod modd cynnal arholiadau mewn ffordd deg a chyfartal, fe fyddwn i wedi eu cynnal nhw eleni. Nid penderfyniad hawdd i ni heddiw oedd eu diddymu nhw.

Felly, nid wyf i o'r un farn gyffredinol â hi ynglŷn ag arholiadau, ond mae'n amlwg i mi, o dan ein hamgylchiadau presennol, a chyda'r ansicrwydd parhaus ynghylch beth allai'r sefyllfa fod o ran iechyd y cyhoedd dros y gaeaf, na ellir cyflwyno arholiadau mewn ffordd deg a chyfartal, ac rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn cyn gynted ag yr oeddwn i'n gallu gwneud felly. Mae'n gwbl bosibl y bydd rhai yn fy meirniadu i gan ddweud y dylwn i ddal fy ngafael ac aros i weld sut aeaf fydd hwn, ond, pe byddwn i wedi gwneud hynny, fe fyddai hynny wedi arwain at ragor—nid o ddryswch, ond rhagor o ofid wrth i fyfyrwyr ac athrawon geisio marchogaeth dau geffyl, gydag un ceffyl yn credu bod arholiad am ddigwydd ac felly'n dysgu'r holl ffeithiau ac yn paratoi am arholiad, a'r ceffyl arall yn asesu a phrofi'n barhaus, heb wybod o un wers i'r llall pa ddarn o waith fyddai'r darn o waith i'w ystyried gan arholwr allanol o bosibl. Dyna sy'n rhoi straen ar ein plant a'n hathrawon ni, ac rydym wedi gwneud penderfyniad heddiw i roi eglurder llwyr, fel y gall ein holl amser a'n sylw ni droi nawr at brofiadau addysgu a dysgu gwirioneddol gadarnhaol.

O ran cymwysterau galwedigaethol, rwy'n deall bod y sefyllfa yn un anodd a gwahanol ar gyfer y myfyrwyr hynny, ond, fel yr oeddwn i'n egluro i Suzy Davies, nid wyf i mewn sefyllfa i roi cyfarwyddiadau i wahanol reoleiddiwr, ac felly—. Ond fe allaf i roi'r sicrwydd y byddwn ni'n cadw, fel gyda Cymwysterau Cymru, mewn cysylltiad agos gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau i sicrhau nad yw'r myfyrwyr hynny o dan anfantais.

O ran yr hyn a ddisgrifiodd yr Aelod yn 'brofion', nid profion yw'r rhain ac rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus iawn gyda'r derminoleg yn hyn o beth. Asesiadau yw'r rhain a ddarperir ar gyfer ysgolion gan CBAC. A pham hynny? Wel, mae yna ddau reswm pwysig iawn. Rydym newydd glywed gan Suzy Davies am bwysau gwaith ar athrawon. Mewn gwirionedd, mae cael corff allanol sy'n dod â'r capasiti a'r adnodd ychwanegol hwnnw i mewn i'r system yn golygu nad oes yn rhaid iddyn nhw gynllunio'r asesiadau hyn. Fe fydd rhywun arall yn gwneud y gwaith hwnnw drostyn nhw. Ac mae honno'n un ffordd o dynnu'r baich oddi ar y proffesiwn addysgu. Yr ail reswm yw bod cysondeb cenedlaethol ar gael wedyn sy'n ein galluogi ni i gymedroli, oherwydd fe ofynnir i bob plentyn gwblhau tasg gymharol yn yr un modd yn y stafell ddosbarth honno.

Felly, o ystyried cymedroli a sicrhau bod sgôr o A yn Llandudno yn gwbl gyfystyr â sgôr A yng Nghaerdydd, yna fe ellir gwneud hynny ar sail yr un dasg yn union sy'n cael ei chyflawni o fewn y dosbarth, gan sicrhau'r cysondeb cenedlaethol hwnnw. Ac yn ail hefyd sicrhau bod—. Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi darllen yn fanwl trwy'r dadansoddiad o waith ynglŷn â chymwysterau o ran effeithiau graddau a asesir mewn canolfannau ar gydraddoldeb, sef pen ein taith ni'r haf diwethaf. Roedden nhw'n codi rhai materion difrifol iawn ynglŷn â materion cydraddoldeb, ac felly mae cael rhywfaint o unffurfiaeth yn y system hon yn sicrhau bod y bobl hynny sydd â phryderon am ragfarn anymwybodol ac ati—fe ellir mynd i'r afael â'r pryderon hynny. Hefyd, mae hyn yn caniatáu inni gael llwybr i'r system arholi ar gyfer ein harholwyr annibynnol ni.

Yn gynharach, fe ofynnodd Suzy Davies imi am ddatganiad—o, mae'n ddrwg gen i, Mike Hedges oedd yn gofyn am ddatganiad—am blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref. Nawr, y llynedd, roedd hi'n anodd iawn gallu ymateb i ymgeiswyr annibynnol. Ar ôl cytuno'n genedlaethol ar dasgau a gynlluniwyd gan ein bwrdd arholi ni i blant eu cyflawni, mae hynny'n cynnig llwybr inni ar gyfer rhai o'r ymgeiswyr annibynnol hynny i allu ennill gradd eleni mewn ffordd nad oedd yn bosibl iddyn nhw heb fod yn rhan o ganolfan asesu ffurfiol. Felly, mae hyn yn gyfle inni fynd i'r afael ag anghenion y myfyrwyr hynny hefyd, ac rydym yn ceisio gwneud cyfiawnder â phob dysgwr sydd gennym yn ein system ar hyn o bryd.

O ran eu nifer a'u natur nhw, mater i'r grŵp fydd hynny. Fe allem ni weld—. Fe allen nhw fy nghynghori i y bydd nifer y tasgau yn amrywio yn ôl natur y cwrs a astudir. Wrth siarad â phrifysgolion, er enghraifft, roedden nhw'n pryderu llawer am fathemateg a myfyrwyr a oedd yn awyddus i fynd ymlaen i astudio am radd sy'n gysylltiedig â mathemateg—ac am sicrhau bod yr holl sail sylfaenol yn cael ei gosod i ganiatáu iddyn nhw allu llwyddo yng ngham nesaf eu gyrfaoedd nhw. Felly, efallai y bydd y grŵp yn argymell dulliau ychydig yn wahanol, yn ôl y pynciau, ond mater iddyn nhw yw hynny, ac mae'n bwysig iawn cydnabod y bydd penaethiaid a darlithwyr ac arweinwyr colegau sydd ar y rheng flaen yn mynd i'r afael â'r materion hynny ac fe fydd y ffordd orau o wneud hynny mewn ffordd deg yn hysbys iddyn nhw. Rwy'n disgwyl y bydd y gwaith hwnnw, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr, ac felly fe allwn ni ddechrau cyflwyno'r rhaglen waith hon ym mis Ionawr.