3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:13, 10 Tachwedd 2020

Dwi yn croesawu'r newyddion yma. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwneud yr achos dros ddileu arholiadau'r haf ers misoedd bellach. Mi fydd y cyhoeddiad yma yn rhyddhad i bobl ifanc, i rieni ac i ysgolion ledled Cymru. Mi fyddai hi wedi bod yn amhosib cynnal arholiadau allanol mewn modd fyddai'n rhoi tegwch i ddisgyblion dan yr amgylchiadau presennol. Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd trefniadau amgen yn eu lle ac na fydd angen gwneud newidiadau disymwth funud olaf, fel y digwyddodd yr haf diwethaf, ac mae hynny i'w groesawu yn fawr iawn. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth roi ei phobl ifanc dan bwysau sylweddol diangen, fel y gwnaethpwyd yr haf diwethaf. Byth eto roi cymhwyster cyn llesiant. Byth eto greu cymaint o bryder i filoedd o bobl ifanc Cymru.

Felly, dwi yn croesawu'r newyddion, ond mae gen i bryderon a llawer iawn o gwestiynau am y trefniadau amgen sydd i'w rhoi ar waith. Rydych chi newydd gyhoeddi gwybodaeth am gymwysterau galwedigaethol, ac y bydd yna arholiadau diwedd blwyddyn i'r cohort yma o fyfyrwyr. Ac unwaith eto, mae'r myfyrwyr yma—y bobl ifanc yma—yn cael eu gadael i lawr, achos maen nhw'n cael eu heffeithio yn union yr un peth â disgyblion eraill Cymru, ac mi fyddwn i yn eich annog chi yn gryf i gadw hyn dan adolygiad manwl a chadw golwg barcud ar y sefyllfa.

A gaf i droi at y trefniadau asesu newydd—y profion a'r asesiadau allanol—ar gyfer TGAU, AS a lefel A? Pam wnaethoch chi benderfynu bod yn rhaid cael asesiadau allanol, sef asesiadau sydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol? Dwi wedi cael etholwr prynhawn yma yn cysylltu ac yn gofyn hyn: beth ydy'r gwahaniaeth rhwng asesiadau dan amodau arholiad sydd wedi eu cynllunio gan fwrdd arholi o'i gymharu â sefyll arholiadau o dan yr hen drefn? Mae'r etholwr yma yn dweud bod y gair 'canslo' yn rhoi camargraff llwyr, ac mai arholiadau drwy'r drws cefn fydd yn digwydd efo'r asesiadau allanol yma, felly hoffwn i gael eich barn chi am hynny. Pam ddim gosod y tasgau'n fewnol a'u safoni yn allanol? Oni fyddai hynny yn ffordd decach ymlaen, o gofio bod addysg ein pobl ifanc ni yn cael ei amharu arni yn waeth mewn rhai mannau lle mae'r haint yn uchel, a bod y bwlch digidol hefyd yn creu sefyllfa anghydradd, sef yr un dadleuon, mewn gwirionedd, dros ganslo arholiadau? Onid ydy'r rheini yn berthnasol i brofion allanol hefyd?

Fe fydd pobl eisiau gwybod faint o brofion fydd yna a faint fydd gwerth y profion tuag at y cymhwyster terfynol, ac mi fydd yna gwestiynau hefyd ynglŷn ag aseiniadau—yr aseiniad lle mae disgybl yn cael y cwestiwn ymlaen llaw ac arholiad ar ddiwedd y dydd. Ai hynny fydd yn digwydd efo aseiniadau? A fydd yna aseiniad ym mhob pwnc ac a fyddan nhw'n seiliedig ar y fanyleb gyfan ym mhob pwnc? Nifer o gwestiynau, a dwi'n gwybod eich bod chi'n nodi bod grŵp wedi cael ei sefydlu i bennu y manylder yma ynglŷn â'r trefniadau asesu amgen. Mae yna lawer iawn o waith i'w wneud a thrafodaethau manwl a thechnegol i'w cael, ac mae hi yn bwysig bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud o safbwynt faint o'r trefniadau sy'n digwydd yn fewnol, yn yr ysgolion, a faint o rôl fydd gan CBAC neu eraill. Mi fyddai'n dda cael gwybod prynhawn yma beth ydy union amserlen y grŵp yma.

Rydym ni'n disgwyl penderfyniadau erbyn diwedd y flwyddyn. Gobeithio na fydd yna ddim llusgo traed. Mae'n rhaid caniatáu i ysgolion roi'r trefniadau priodol yn eu lle ac i ddisgyblion gael deall sut y byddan nhw'n cael eu hasesu, achos tra bo ansicrwydd yn parhau mi fydd athrawon a disgyblion yn parhau i fod yn bryderus. Llawer o fanylion i'w trafod, felly, a'u cytuno, ac mi fyddaf i'n parhau i gyfrannu'n adeiladol at y trafodaethau, ac mi fyddaf i, bob tro, yn mynnu mai lles plant a phobl ifanc fydd canolbwynt pob penderfyniad gan y Llywodraeth hon.