3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:34, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i achub ar y cyfle i groesawu eich cyhoeddiad chi, a'r holl waith a wnaethoch fel Gweinidog Addysg hefyd? Ers imi gael fy ethol gyntaf yn 2016 rwyf wedi eistedd yma droeon yn rhyfeddu at y gwaith a wnaethoch, ac rydym yn falch iawn o'ch cael chi yn rhan o'r Siambr hon.

O ran y penderfyniad hwn, a gaf i bwyso arnoch ryw ychydig bach ynglŷn â'r hyn a ofynnodd David Rees? Ac efallai y gwnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y broses gymedroli a sut fydd y cymedroli'n digwydd mewn ffordd a fydd yn ennyn hyder ymysg y boblogaeth addysg. Ac un peth arall ar ben hynny, onid oes modd cyflwyno proses o adolygu gan gymheiriaid ar lefel leol ymhlith clystyrau o ysgolion er mwyn ychwanegu haen ychwanegol o drylwyredd? Rwy'n deall efallai y byddai hynny'n reit uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond onid yw hon yn ffordd o ailgodi'n gryfach efallai yn y dyfodol hefyd?