– Senedd Cymru am 4:06 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau'n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol. Gwelliant 84 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.
Pnawn da. Nod gwelliannau 84, 85 a 103 yw dileu'r ddarpariaeth bresennol sy'n ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ar gyfer pob dinesydd tramor, waeth beth fo'i ddinasyddiaeth. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd a chenhedloedd sy'n caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio, ofyniad preswylio sylfaenol. Er enghraifft, er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio yn Seland Newydd, mae'n rhaid i'r person fod wedi byw'n barhaus yn y wlad am 12 mis, ac i bleidleisio mewn etholiadau rhanbarthol a threfol yn Nenmarc, er enghraifft, mae'n rhaid i berson fod wedi preswylio'n barhaol yn y wlad am dair blynedd cyn dyddiad yr etholiad. Fodd bynnag, os bydd y gwelliannau hyn yn methu, adlewyrchir ein cred y dylai hawliau pleidleisio fod ynghlwm wrth ddinasyddiaeth person yng ngwelliant 104 o'n heiddo ni, sy'n welliant cyfaddawd i gyflwyno gofyniad preswylio sylfaenol o dair blynedd, gan adlewyrchu'r hyn sy'n eithaf cyffredin ledled y byd, i ganiatáu i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.
Fel y dywedais yn y ddadl yn ystod Cyfnod 1, gall dinasyddion Iwerddon a'r Gymanwlad ar hyn o bryd, a dinasyddion perthnasol yr UE bleidleisio mewn llywodraeth leol ac etholiadau datganoledig, ond byddai'r Bil hwn yn galluogi pob dinesydd tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae cytundeb cyfatebol hirsefydlog rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon o ganlyniad i'r berthynas hanesyddol rhwng y ddwy wlad, ac mae gallu dinasyddion y Gymanwlad i bleidleisio yn etholiadau'r DU yn etifeddiaeth o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Fodd bynnag, credwn fod y Bil hwn yn cynnig cam yn rhy bell. Mae gan o leiaf y rhan fwyaf o'r ychydig wledydd sy'n caniatáu i ddinasyddion tramor bleidleisio ofyniad preswylio sylfaenol, ond mae hyd yn oed hynny ar goll yma. Fel y dywedodd David Melding wrth graffu ar ddarpariaethau tebyg yn y Bil Senedd ac etholiadau:
dylai eu dinasyddiaeth benderfynu ble maen nhw'n pleidleisio'n bennaf, ac os ydyn nhw'n dewis peidio â cheisio am ddinasyddiaeth yma, yna eu dewis nhw yw peidio â bod â hawliau gwleidyddol i'r graddau y gellir pleidleisio yn ein hetholiadau.
Mae gwelliannau 86 ac 87 yn gosod dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed ac i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ynglŷn â hyrwyddo ymwybyddiaeth o addysg wleidyddol. Mae'r gwelliannau hyn yn ymateb i argymhelliad 2 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a oedd yn dadlau y dylid diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth benodol a fydd yn ychwanegu rhyw lefel ddigonol o addysg ynglŷn â gwleidyddiaeth a democratiaeth ym mhob ysgol yng Nghymru.
Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, neu yr ERS fel y'i gelwir hi, yn argymell y dylid diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth benodol i gyflwyno lefel ddigonol o addysg ar wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru ym mhob ysgol. Yn benodol, dywedant, dylai pobl ifanc o 14 a 15 oed gael yr addysg hon i'w paratoi ar gyfer pleidleisio yn 16 oed. Dylai'r rhaglen hon o ymwybyddiaeth wleidyddol gyd-fynd â chynlluniau gwersi clir, maen nhw'n dweud, i rymuso athrawon i gyflwyno'r gwersi.
Yn ystod Cyfnod 2 y Bil hwn, dadleuodd y Gweinidog yn erbyn y gwelliant hwn, gan ddweud y bydd Cwricwlwm newydd Cymru yn caniatáu i athrawon benderfynu sut i ddarparu addysg wedi'i theilwra i anghenion penodol eu disgyblion. Mae hyn yn cynnwys addysg wleidyddol, a fydd yn dod o dan y diben craidd o gefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan dynnu sylw at gyfleoedd i archwilio gwleidyddiaeth o fewn y cwricwlwm drwy fagloriaeth Cymru yn rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang. Fel y dywed y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, fodd bynnag, y gwir amdani yw, ar hyn o bryd a hyd yn oed yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd, athrawon fydd yn dysgu addysg wleidyddol, a hynny beth bynnag fo'r adnoddau sydd ar gael. Yn y dyfodol, fel yn awr, bydd disgyblion felly â gwahanol haenau o ddealltwriaeth o sut y gwneir penderfyniadau yng Nghymru, a bydd y rheini ar yr haen isaf yn ei chael hi'n anodd gwybod yn well sut y gallan nhw leisio eu barn yn eu cymdeithas. Fel y dywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol wrthyf dim ond 11 diwrnod yn ôl, 'Rydym yn poeni am beidio â chynnwys gofyniad pendant y dysgir gwleidyddiaeth i bob disgybl yn rhan o'r cwricwlwm. Ar ôl darllen a gwrando ar Lywodraeth Cymru ar y mater,' medden nhw, 'maen nhw'n rhoi pwyslais mawr y bydd adnoddau o'r radd flaenaf ar gael ond, unwaith eto, ni fyddai sicrwydd, mewn cwricwlwm yn seiliedig ar fwriad, y caent eu defnyddio.' Mae ein gwelliant, felly, yn ceisio sicrhau cysondeb o ran addysg wleidyddol ac ymwybyddiaeth ledled Cymru. Mae'r mater hwn yn rhy bwysig i'w wneud fel arall mewn cenedl sydd eisoes yn cael trafferth gyda diffyg democrataidd.
Mae gwelliant 99 yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhanddeiliaid yn llawn cyn gwneud rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau lleol yng Nghymru. Yn ei adroddiad Cyfnod 1, awgrymodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phrif gynghorau a chymunedau cyn diwygio'r trefniadau etholiadol. Mae ein gwelliant yn ceisio mynd ymhellach nag awgrym y pwyllgor drwy ei gwneud hi'n ofynnol cynnwys prif gynghorau a chynghorau cymuned yn ogystal â chymunedau lleol i sicrhau y caiff unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol eu cyd-gynhyrchu gan y cymunedau y maen nhw yn effeithio arnynt, yn hytrach na chael eu gorfodi arnynt. Byddai ein gwelliant hefyd yn sicrhau bod y Bil hwn yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio y mae hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu harddel er mwyn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a anwybyddir yn rhy aml yn ymarferol.
Fel y dadleuais yn nadl pwyllgor Cyfnod 1, mae'n destun pryder mawr felly i'r Gweinidog wrthod argymhelliad y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn ystod trafodion Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Gweinidogion Cymru ymgynghori â'r rhai y tybiant ei bod hi'n briodol ymgynghori â nhw, a byddai hyn yn cynnwys y rhai a restrir yn y gwelliant hwn wrth ddatblygu'r rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd ein gwelliant yn sicrhau y caiff rhanddeiliaid eu cynnwys yn llawn yn y gwaith o gyd-gynhyrchu rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, drwy eu cynnwys ar wyneb y Bil, gan droi rhethreg yn realiti ynghylch grymuso cymunedau lleol.
Mae gwelliannau 101, 102 a 147 yn ceisio diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru heb wneud cais i sicrhau y caiff unigolion sydd wedi'u cofrestru eu rhoi ar y gofrestr etholiadol lawn gaeedig yn hytrach na'r gofrestr lawn agored—dylwn ddweud y 'gofrestr gaeedig' yn hytrach na'r 'gofrestr lawn agored'. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio ymateb i bryderon am y ddarpariaeth bresennol sydd wedi'i chynnwys yn y Bil sy'n golygu y caiff pobl sydd wedi'u cofrestru heb iddyn nhw wneud cais am hynny eu rhoi ar y gofrestr agored yn ddiofyn. Mae'r Academyddion Toby James a Paul Bernal o Brifysgol East Anglia yn dadlau bod y gofrestr a olygwyd ar gael yn rhwydd i gwmnïau a thrydydd partïon ei phrynu heb unrhyw gyfyngiadau ar ei defnyddio. Nid yw'n ateb unrhyw ddiben o ran cynnal yr etholiad. Mae'n debygol na fydd dinasyddion yn gwybod fawr ddim bod eu data'n cael ei ddefnyddio fel hyn. Felly, byddai gwybodaeth am etholwyr Cymru ar werth heb eu caniatâd penodol.
Cynigiwn felly y caiff y Bil ei ddiwygio fel na chaiff dinasyddion sydd wedi'u cofrestru'n awtomatig eu hychwanegu yn ddiofyn at y gofrestr a olygwyd. Dywedodd Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, nad yw'r gofyniad presennol i ysgrifennu at unigolion yn rhoi gwybod iddyn nhw am gofrestru awtomatig yn ddigonol, gan nad yw llawer o bobl mewn rhai amgylchiadau yn ymateb i ohebiaeth swyddogol. At hynny, cododd Cytûn bryder penodol am y ddarpariaeth gofrestru bresennol. Dywedant, drwy roi pobl ar y gofrestr agored, y gallai hyn effeithio ar rai unigolion sydd wedi dewis peidio â chofrestru'n bwrpasol rhag ofn iddyn nhw gael eu hadnabod gan gyn-bartner treisgar neu eraill a allai ddymuno eu niweidio. Felly, mae ein gwelliant yn rhoi'r dewis i bobl gael eu rhoi ar y gofrestr agored, yn hytrach na chael eu rhoi'n ddiofyn ar y gofrestr agored.
Yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu:
Rwy'n credu y dylid rhoi dewis i bleidleiswyr ynglŷn â sut y defnyddir eu gwybodaeth.... O'r herwydd, bydd y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn caniatáu i berson hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol o'i ddymuniad.
Fodd bynnag, nid dyma ddiben ein gwelliant. Mae ein gwelliant yn ceisio sicrhau y caiff pobl a roddir ar y gofrestr etholiadol heb gais eu rhoi ar y gofrestr gaeedig yn awtomatig ac yn cael y dewis i'w cynnwys ar y gofrestr agored, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. Diben hyn yw sicrhau bod pobl nad ydyn nhw wedi dewis bod ar y gofrestr etholiadol yn fwriadol yn parhau i gael eu diogelu, gan gyflawni nod y Bil o gynyddu faint o bobl sy'n cofrestru i bleidleisio.
Mae gwelliant 105 yn ceisio ehangu'r diffiniad o swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol nad yw eu deiliaid yn gymwys i fod yn aelod o awdurdod lleol. Mae'r diwygiad yn addasu'r diffiniad o swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol yn adran 2 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 drwy gynnwys unrhyw un sy'n gyflogedig gan gyngor ac sy'n rhoi cyngor a chymorth yn rheolaidd i aelod etholedig neu aelodau etholedig o'r awdurdod. Mae hyn yn ehangu cwmpas presennol y ddarpariaeth, sy'n cyfeirio at roi cyngor yn rheolaidd i unrhyw aelod o'r weithrediaeth sydd hefyd yn aelod o'r awdurdod. Bydd y Bil fel y'i drafftiwyd yn caniatáu i staff y cyngor sefyll dros eu cyngor eu hunain heb orfod ymddiswyddo'n gyntaf. Rydym yn cefnogi hyn. Fodd bynnag, mae ein gwelliant yn egluro ac yn sicrhau nad yw unrhyw swyddog sy'n dod i gysylltiad rheolaidd ag aelodau etholedig ac yn rhoi cyngor iddynt, ac a allai fod â gwrthdaro buddiannau sylweddol pe baent yn sefyll dros y cyngor y maent yn gyflogedig ganddo, yn cael sefyll mewn etholiad heb ymddiswyddo'n gyntaf.
Yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog na fyddai'n derbyn ein gwelliant, fel y dywedodd:
Hoffwn i fwy o bobl sefyll i gael eu hethol i gynghorau yng Nghymru, felly ni allwn i heb reswm da gefnogi darpariaeth a oedd yn ceisio gwahardd mwy o bobl rhag sefyll mewn etholiad.
Nid ein bwriad yw lleihau nifer y bobl sy'n sefyll mewn etholiad. Byddai ein darpariaeth yn dal i ganiatáu i fwy o bobl sefyll mewn etholiad. Ac er ein bod yn cytuno y dylai'r rhan fwyaf o staff y cyngor gael sefyll dros eu cyngor eu hunain heb orfod ymddiswyddo'n gyntaf, diben ein gwelliant yw ehangu'r diffiniad o swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol, sydd wedi'i ddiffinio'n gul iawn ar hyn o bryd, gan adlewyrchu'r ffaith nad yw pŵer wedi'i wahanu'n ffurfiol rhwng y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa o fewn prif gyngor, ac mai'r un swyddogion cyngor, felly, sy'n cefnogi'r cabinet a'r meinciau cefn, yn wahanol i'r rhaniad rhwng y staff sy'n cefnogi seneddau a'r gweision sifil sy'n cefnogi'r Llywodraeth yn y fan yma ac mewn mannau eraill. Mewn geiriau eraill, rydym ni yn ceisio osgoi gwrthdaro buddiannau anochel a fyddai'n codi fel arall.
Mae gwelliant 106 yn ceisio dod â'r rheoliadau ar gyfer hysbysebion gwleidyddol ar-lein y telir amdanynt—
Mark Isherwood, os gaf i dorri ar eich traws am eiliad, mae gennych chi 10 munud i gyflwyno'ch gwelliannau, ac rydych ni nawr ar 12 munud. Bydd gennych chi amser i gau'r grŵp hwn hefyd, felly a wnewch chi orffen eich sylwadau agoriadol? Byddaf yn eich galw ar ddiwedd y grŵp eto i ddychwelyd at unrhyw faterion y mae angen i chi ymdrin â nhw.
Iawn. Wel, fe ddof i ben gyda'r sylw yna, felly, a chrybwyll, fel y dywedwch chi, y pwyntiau sy'n weddill yn fy nghasgliad. Diolch.
Gwrthwynebaf roi hawliau i bleidleisio ar sail bod yn dramorwr yn y wlad hon nad yw'n barod i gymryd y cam terfynol o drefnu dinasyddiaeth. Yn y cyfnod canoloesol, roedd hawliau pob dinesydd yn deillio yn y pen draw o'r cysyniad o deyrngarwch i'r goron. Wel, rydym ni wedi symud ymlaen, mewn termau democrataidd, o hynny, ond, yn y pen draw, mae hyn i gyd yn ymwneud â theyrngarwch i'ch gwlad. Ac mae'n gwneud niwed sylfaenol, yn fy marn i, i'r cysyniad hwnnw o gydlyniant cenedlaethol y mae hynny'n ei gynrychioli.
Wedi'r cyfan, yr hawl i bleidleisio yw un o'r pwysicaf o hawliau dinasyddiaeth, a chredaf fod yn rhaid i chi gael ymrwymiad hirdymor i'r wlad hon er mwyn bod yn deilwng o hynny. Os mai dim ond am gyfnod cymharol fyr yr ydych chi'n preswylio yn y wlad hon ac nad oes gennych chi unrhyw fwriad, o bosib, i fyw yn y wlad hon yn barhaol, nid wyf fi, yn bersonol, yn gweld pam y dylech chi gael yr hawl i benderfynu ar fuddiannau hirdymor y wlad.
Mae hon yn ddarpariaeth anarferol yn rhyngwladol hefyd. Nid yw'r rhan fwyaf o wledydd yr UE yn rhoi hawliau fel y gofynnir i ni eu rhoi y prynhawn yma. Yn sicr, nid yw'r gwledydd mwy—Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Pwyl—yr un ohonyn nhw yn rhoi'r hawl i dramorwyr bleidleisio yn eu hetholiadau. Credaf ei fod yn dibrisio dinasyddiaeth yn sylfaenol ac, yn wir, y cysyniad o gymhathu, sydd, wrth gwrs, yn newid yr amgylchiadau cyfreithiol y mae rhywun yn byw ynddynt.
Credaf fod hyn i gyd, yn y pen draw, yn ymwneud â'ch ymrwymiad i'r wlad yr ydych yn byw ynddi; nid dim ond rhywbeth a gewch chi yn gyfnewid am dalu trethi. Wedi'r cyfan, mae pob math o bobl yn talu trethi dim ond drwy'r ffaith eu bod yn prynu rhywbeth mewn siop ac yn talu treth ar werth arno, ond ni ddylai hynny, ynddo'i hun, fod yn gyfiawnhad dros roi pleidlais iddynt. Credaf fod hwn yn fater dwys iawn, yr ydym ni yn ei drin mewn ffordd gymharol ddibwys.
Wrth gwrs, fe wyddom ni i gyd pam y gwneir hyn, oherwydd, o ganlyniad i'r sioc a roddodd Brexit i'r pwysigion dinesig, dyma un o'r pethau y penderfynasant ei wneud er mwyn, efallai, gwneud i ail refferendwm sicrhau canlyniad gwahanol. Mae hyn yn waddol o ddwy flynedd yn ôl, pan gafodd ei ddatblygu yn rhan o bolisi'r Blaid Lafur. Credaf fod hynny'n rheswm gresynus dros wneud newid o'r math hwn, sydd â goblygiadau eang iawn yn wir. Ond bu'n rhaid cynnal sylfaen pleidleiswyr Llafur, wrth gwrs, mewn gwahanol ffyrdd wrth i hwnnw edwino. Hyrwyddwyd mudo torfol o dan Lywodraeth Blair bron yn benodol er mwyn, fel yr ysgrifennodd Andrew Neather, a oedd yn gynghorydd i Lywodraeth Blair, mewn eiliad o ddidwylledd mewn erthygl, yn yr Evening Standard, rwy'n credu—dywedodd mai bwriad mudo torfol, hyd yn oed os nad dyna oedd ei brif ddiben, oedd i:
ddilorni'r asgell dde ag amrywiaeth a gwneud i'w dadleuon ymddangos yn rhai hen.
Credaf fod y syniad hwn o ymestyn hawliau pleidleisio i'r rheini nad oes ganddyn nhw deyrngarwch i'n gwlad yn y bôn yn rhan o'r agenda honno. Y nod yw cryfhau'r posibilrwydd i'r rheini y mae'r Blaid Lafur yn credu sy'n mynd i'w dewis nhw, neu bleidiau eraill o'r chwith, yn hytrach na phleidiau o'r dde. Felly, yn y bôn, credaf fod hyn yn ergyd i hanfod democratiaeth Prydain. Am y rheswm hwnnw, gobeithiaf y caiff ei drechu. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ystyried gwelliannau i Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) heddiw. Gan droi at y gwelliannau, mae arnaf ofn fy mod yn gwrthod gwelliannau 84 ac 85 ac yn galw ar Aelodau i wneud yr un peth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir iawn dros y pedair blynedd diwethaf y dylai'r etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig gynnwys y rhai sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Credwn y dylai unrhyw un sy'n cyfrannu at ein bywyd cymdeithasol neu economaidd gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig ar y materion sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.
Y llynedd, pleidleisiodd y Senedd i ymestyn yr etholfraint ar gyfer ei hetholiadau i ddinasyddion tramor cymwys, a chredaf y dylid ailadrodd hyn ar gyfer llywodraeth leol. Byddai dwy etholfraint wahanol ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru yn annheg â phleidleiswyr, ffaith y mae Aelodau wedi'i chrybwyll o'r blaen yn y Siambr hon. Ni chredaf fod unrhyw reswm pam na ddylai rhywun sy'n pleidleisio mewn etholiad yn y Senedd allu pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol. Dylai'r rhai y mae penderfyniadau llywodraeth leol yn effeithio arnyn nhw gael ethol eu cynrychiolwyr. Yn ogystal, pan ymgynghorwyd ar y mater hwn yn 2017, cytunodd 73 y cant o'r ymatebwyr y dylai pawb sy'n byw yng Nghymru gael pleidleisio, ni waeth ble y cawsant eu geni.
Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliant 103. Dylai ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymwys ymestyn i'r dinasyddion hynny sy'n gallu sefyll ar gyfer etholiad. Rydym yn cydnabod bod angen i rywun fod â chysylltiad cryf ac ymrwymiad i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu os hoffai sefyll etholiad. Mae cysylltiad o'r fath yn rhan annatod o'r cymhwyster i sefyll etholiad fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972. Hefyd, mae'n rhaid i unrhyw ddinesydd tramor cymwys sy'n ymgeisio mewn etholiad llywodraeth leol naill ai fod mewn sefyllfa lle nad yw'n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i neu i aros yn y DU, neu ei fod wedi cael caniatâd i ddod neu aros fel y nodir yn Neddf Mewnfudo 1971, neu y cânt eu trin felly yn ôl y gyfraith.
Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliant 104. Nid oes unrhyw ofynion wedi'u gosod ar unrhyw gategori arall o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru o ran preswylio yn y DU. Ni chredaf ei bod hi'n briodol ei gwneud hi'n ofynnol i ddinesydd tramor cymwys fodloni gofynion ychwanegol pan fydd dinesydd o'r Gymanwlad, er enghraifft, ar yr amod ei fod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yn ymgeisio ni waeth pa mor hir y bu yn y DU.
Mae adran 22 o'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, yn ailddatgan y ddarpariaeth bresennol mewn cysylltiad â gwariant gan swyddogion canlyniadau mewn etholiadau lleol yng Nghymru, gan gymhwyso'r ddarpariaeth yn benodol i Gymru drwy fewnosod adran newydd 36C yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Gan fod y ddarpariaeth hon yn ailddatgan y ddeddfwriaeth bresennol, mae'n fwy priodol ei chynnwys mewn Atodlen, ac felly mae gwelliant 62 yn symud y ddarpariaeth hon i Atodlen 2 o'r Bil, tra bo gwelliant 2 yn dileu adran 22. Mae hyn yn gyson â darpariaethau eraill yn y Bil. Mae gwelliant 79 yn ganlyniad i'r gwelliannau hyn ac yn dileu'r darpariaethau presennol mewn cysylltiad â gweithredu adran 22.
Rwy'n galw hefyd ar Aelodau i wrthod gwelliant 86. Mae helpu pobl ifanc i ddatblygu dealltwriaeth dda o brosesau democrataidd yn rhan hanfodol o ymestyn yr etholfraint, ac mae'r Bil hwn eisoes yn gwneud darpariaethau i'r perwyl yma, gan osod dyletswydd ar brif gynghorau i hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc berthnasol ynghylch trefniadau cofrestru a phleidleisio a'u cynorthwyo yn hynny o beth. Wrth gyflwyno'r gwelliant hwn, nid yw'r Aelod wedi ystyried y trefniadau newydd a nodir yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Nid yw gwelliant 87 ychwaith yn ystyried y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan ei fod yn cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol, tra bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio, ei fabwysiadu a'i weithredu ar lefel ysgol, nid ar lefel awdurdod lleol. Buom yn glir yn ein bwriad y bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i athrawon benderfynu sut i ddarparu addysg wedi'i theilwra i anghenion penodol eu disgyblion. Un o bedwar diben y cwricwlwm newydd yw cefnogi dysgwyr i ddod yn
'ddinasyddion moesegol gwybodus o Gymru a’r byd'.
Byddai addysg dda ar wleidyddiaeth a democratiaeth yn rhan hanfodol o'r gwaith o gyflawni'r diben craidd hwn. Mae paratoi pobl ifanc ar gyfer ymgysylltu o ddifrif â chymdeithas yn agwedd bwysig ar ein system addysg, ac rydym ni eisiau gweld ein holl bobl ifanc yn datblygu yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd. Bydd pobl ifanc, wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith ddemocrataidd, yn dysgu drwy faes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, lle bydd gan ddysgwyr rhwng tair ac 16 oed ddealltwriaeth o'r gwahanol strwythurau a systemau llywodraethu sy'n bodoli yng Nghymru, eu hawliau a'u cyfrifoldebau democrataidd, gan gynnwys eu hawliau pleidleisio, yn ogystal â dysgu am bynciau hanesyddol, daearyddol, economaidd a chymdeithasol yn y maes hwn.
Er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg wleidyddol, nid yn unig mewn ysgolion ond hefyd mewn lleoliadau fel clybiau ieuenctid ac ati, mae pecyn adnoddau, Vote2Voice, ar gael ar Hwb. Bwriedir hefyd i gynllunio adnoddau pellach ar gyfer cymorth dysgu proffesiynol a bagloriaeth Cymru o fis Ebrill nesaf ymlaen. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda chonsortia addysg rhanbarthol i ddarparu cymorth proffesiynol i athrawon, gan gynnwys canllawiau i'w galluogi i ymdrin yn hyderus â sefyllfaoedd a allai godi mewn gwersi, megis sut i ymdrin â materion gwleidyddol dadleuol. Felly, nid wyf o'r farn bod gwelliant 86 a gwelliant 87 yn briodol nac yn angenrheidiol a gofynnaf i Aelodau eu gwrthod.
Er fy mod yn deall yr egwyddorion cyffredinol sy'n sail i welliant 99, rwyf yn ei wrthod, gan nad wyf yn ei ystyried yn briodol nac yn angenrheidiol. Mae'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unigolion priodol cyn gwneud rheolau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau lleol. Byddwn i'n rhagweld ymgynghoriad o'r fath yn cynnwys aelodau'r Comisiwn Etholiadol, gweinyddwyr etholiadol, swyddogion canlyniadau, aelodau awdurdodau lleol a grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y newidiadau sy'n cael eu gwneud, fel y bo'n briodol. Hefyd, mae'r gwelliant fel y'i drafftiwyd yn cyfeirio at 'gynnwys', ac er fy mod yn deall yn llwyr yr hyn y mae'r Aelod yn bwriadu ei gyflawni, nid yw 'cynnwys' yn gyson â'r termau a ddefnyddir mewn mannau eraill yn neddfwriaeth Cymru, ac ni chredaf ei fod yn briodol yma. Credaf fod y ddarpariaeth fel y'i drafftiwyd eisoes yn cyflawni'r hyn y mae gwelliant 99 yn ceisio'i gyflawni.
Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliannau 102 a 147, ac yn sgil hynny, gwelliant 101. Credaf y dylid rhoi dewis i bleidleiswyr ynglŷn â sut y defnyddir eu gwybodaeth. Efallai y bydd rhai eisiau i'w manylion gael eu heithrio o'r gofrestr a olygwyd a bydd y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn caniatáu i unigolyn wneud ei ddymuniadau yn hysbys i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Byddai gwelliannau 101, 102 a 147 yn golygu y gellid gwrthod cynnwys rhywun ar y gofrestr a olygwyd, hyd yn oed pe bai'n rhoi caniatâd, gan ddileu dewis yr unigolyn. Dylid nodi y caiff darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais eu gweithredu drwy Orchymyn yn y dyfodol. Cyn dod â'r darpariaethau hyn i rym, byddwn yn gweithio gyda gweinyddwyr etholiadol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau eu bod nhw a phleidleiswyr yn deall y newidiadau ac yn ymwybodol o'r mesurau diogelu yn y ddarpariaeth.
Gan droi at welliant 105, rwyf eisiau mwy o bobl i sefyll mewn etholiadau cynghorau yng Nghymru felly ni allwn, heb reswm da, gefnogi darpariaeth sy'n ceisio gwahardd mwy o bobl rhag sefyll mewn etholiad. Trafodwyd y gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, fel y cydnabu Mark Isherwood, ac, yn fy marn i, ni roddwyd rheswm da pam fod ei angen.
Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 eisoes yn glir iawn o ran cynnwys llawer mwy na dim ond y swyddogion hynny sy'n rhoi cyngor yn rheolaidd i'r weithrediaeth, neu i unrhyw aelod o'r weithrediaeth. Yn ogystal â'r swyddogion hynny, mae'n rhaid cynnwys unrhyw swyddog sy'n rhoi cyngor yn rheolaidd i'r cyngor llawn, i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor y cyngor, neu i unrhyw gyd-bwyllgor o'r cyngor, yn y rhestr hefyd. Mae'n annhebygol iawn y bydd galw ar unrhyw swyddog cyngor i roi cyngor yn rheolaidd i gynghorydd unigol y tu allan i fecanweithiau cyfarfodydd llawn y cyngor neu'r pwyllgor. Felly, gwrthodaf welliant 105 gan nad wyf o'r farn y byddai'n cyflawni unrhyw beth ac rwy'n ofni na fyddai ond yn creu mwy o fiwrocratiaeth.
Er fy mod yn deall yr egwyddor y tu ôl i welliant 106, nid wyf yn cytuno â'r gwelliant ei hun. Rydym ni wedi ymrwymo i wella ansawdd yr wybodaeth a gyflwynir i bleidleiswyr ac i egluro pwy sy'n gyfrifol am yr wybodaeth a ddarperir. Fodd bynnag, gan fod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi'u lleoli ledled y byd, a chan fod hysbysebion cyfryngau cymdeithasol yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â hyn yw ar sail y DU gyfan, er nad ydym ni wedi ein cyfyngu gan gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cyfundrefn gyson ar draws yr holl weinyddiaethau sy'n rhoi gwybodaeth glir i bleidleiswyr am darddiad negeseuon gwleidyddol.
Mae gwelliant 66 yn rhoi'r hawl i ymgeiswyr yn etholiadau prif gynghorau a chynghorau cymuned, a rhai pobl sydd wedi eu hethol i swyddogaethau gyda llywodraeth leol, weld yr wybodaeth sydd ar gadw ynglŷn â phobl ifanc. Mae hyn yn ymwneud â manylion penodedig etholwyr a disgyblion o dan 16 oed, fel sydd wedi'u cynnwys ar gofrestr etholiadol llywodraeth leol. Mae'r gwelliant hefyd yn ymestyn pŵer i wneud rheoliadau yn adran 26 o Ddeddf y Senedd, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach ynghylch pwy sydd â hawl i weld yr wybodaeth hon mewn cysylltiad ag etholiadau llywodraeth leol a refferenda.
Mae gwelliant 56 yn darparu ar gyfer gweithredu'r darpariaethau a fewnosodwyd gan welliant 66, tra bo gwelliannau 1, 64, 65 a 67 yn ganlyniad i welliant 66 ac yn gwneud mân ddiwygiadau technegol i'r Bil. Mae gwelliannau 58 i 61 i gyd yn welliannau technegol sy'n sicrhau cysondeb ac eglurder ar draws y Bil o ran y cyfeiriadau at ddogfennau ac at wybodaeth.
Mae'r diwygiadau hyn yn mireinio'r ddarpariaeth bresennol fel y gall Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad ag arolwg cychwynnol a gynhelir o dan Atodlen 1, gyfarwyddo prif gynghorau i ddarparu dogfennau neu wybodaeth i'r comisiwn ffiniau, neu gyfarwyddo'r comisiwn i ddarparu dogfennau neu wybodaeth. Diolch.
Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Ymateb siomedig ond rhagweladwy, mae'n debyg. Rwy'n credu i'r Gweinidog ddechrau drwy gyfeirio at arolwg yn 2017 a chanran yr ymatebwyr. Roedd y rheini'n samplau anghynrychioliadol ac mae'n gwybod cystal â mi fod ein gwelliannau'n ceisio adlewyrchu, drwy farn y cyhoedd ar y mater hwn, yr holl sbectrwm gwleidyddol, lle mae pleidleisio a dinasyddiaeth yn faterion pwysig. Maen nhw'n rhan o ddefod newid byd, ymrwymiad newydd, hunaniaeth newydd, ac yn rhywbeth a gydnabyddir yn fyd-eang mewn democratiaethau rhyddfrydol gorllewinol fel rhywbeth na ddylid ei roi'n ddiofyn. Nid yw ein cynigion yn radical, dim ond ceisio gweithredu'r arfer da cenedlaethol y maen nhw drwy gael cyfnod preswylio gofynnol fel cyfaddawd.
O ran addysg ar wleidyddiaeth, mae'n amlwg na fyddech chi'n ystyried diwygiadau i'r cwricwlwm a bod y Bil eisoes yn darparu ar gyfer crybwyll y pryder hwnnw. Na, nid yw'n gwneud hynny. Ac, ydym, rydym ni eisoes wedi ystyried diwygiadau i'r cwricwlwm. Mae fy ngwelliannau'n adlewyrchu, fel y dywedais, pryderon a amlygwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, oherwydd wrth ddrafftio'r Bil ac fel y mae'r Gweinidog yn ymddangos yn benderfynol o'i grybwyll o hyd, bydd hyn yn golygu bod rhai pobl ifanc yng Nghymru yn wybodus iawn, ond y bydd yn broses haenog, gyda llawer o rai eraill heb ddeall cystal ag y dylent sut y mae'r system yn eu cenedl yn gweithredu.
Clywn lawer o rethreg am rymuso dinasyddion, llais cymunedol ac ymgysylltu â'r gymuned, ond eto, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dileu gwelliannau a fyddai mewn gwirionedd yn rhoi dannedd i gysyniadau o'r fath ac yn eu troi'n realiti byw yn ein cymunedau. Mae'r gair 'cynnwys' yn air allweddol o fewn sector rhyngwladol enfawr sy'n gweithio ar rymuso cymunedol, ymgysylltu â chymunedau a'r hyn y cyfeirir ato'n gyffredin fel 'cyd-gynhyrchu'. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i'r lleiaf—[Anhyglyw.] —geiriau sy'n golygu pethau eraill, megis 'ymgynghori' neu 'gydweithio'. Ystyr 'cynnwys' yw llais cyfartal. Mae'n golygu parch at eich gilydd. Mae'n golygu gorfod gwneud pethau gyda'ch gilydd er lles cyffredin a chyda gwir ymrwymiad.
Unwaith eto, methodd y sylwadau ynglŷn â'r gofrestr etholiadol gydnabod yr angen i amddiffyn rhai pobl agored i niwed a fydd, o dan y cynigion, yn dal i fod yn hysbys pan fyddant wedi dewis peidio â bod.
Bydd ein cynigion yn dal i alluogi llawer mwy o swyddogion llywodraeth leol i sefyll mewn etholiad. Gwn fod y Gweinidog wedi cael gyrfa helaeth mewn llywodraeth leol ac yn gwybod llawer mwy na mi ynghylch sut y mae'r agweddau ymarferol yn gweithio, ond gwn, fel rhywun a oedd yn briod â chynghorydd sir ac sy'n adnabod dwsinau o gynghorwyr sir yn bersonol ar draws yr holl bleidiau, bob dydd yn ddi-ffael mae cynghorydd effeithiol yn gweithio'n agos gyda swyddogion, gan geisio cyngor a chymorth. Nid pob swyddog, drwy'r dydd yw hyn, ac felly mae'n garfan fach yr ydym yn sôn amdani, ond byddai'r bobl hynny'n cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd iawn, felly hefyd y cynghorwyr, yn y ffordd y mae'r Bil wedi ei gynnig ar hyn o bryd.
Yn olaf, hoffwn gefnogi ein cynnig i sicrhau bod cysondeb rhwng rheoliadau ar gyfer hysbysebion gwleidyddol y telir amdanynt ar-lein a hysbysebion gwleidyddol wedi'u hargraffu y telir amdanynt. Dylai hyn fod yn hollol amlwg. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i lenyddiaeth brintiedig, megis taflenni, gynnwys argraffnod o wybodaeth am bwy a dalodd am hyrwyddo'r deunydd. Dywedodd y Comisiwn Etholiadol y byddai argraffnodau ar ddeunydd etholiad digidol yn eu helpu i orfodi'r rheolau gwario, i gael darlun cliriach o bwy sydd angen iddyn nhw eu cofrestru er mwyn cyflwyno cynllun gwariant wedyn. Yn ddiweddar mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud argraffnodau digidol yn ofynnol ar gyfer etholiadau seneddol a lleol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wrthi'n cyflwyno deddfwriaeth gynhwysfawr ar gyfer argraffnodau digidol. Dywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 2 ei bod yn cydymdeimlo â'r egwyddor hon, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cyfundrefn gyson ar draws yr awdurdodaeth. Fel arfer, byddwn yn cefnogi'r dull cydgysylltiedig hwnnw'n gryf. Rydym yn deall ei barn, ond credwn y dylai Cymru arwain y ffordd, gan wella atebolrwydd a thryloywder mewn hysbysebu gwleidyddol digidol ac y dylai ddefnyddio ei phwerau i wella safonau hysbysebu gwleidyddol er mwyn gwella democratiaeth Cymru.
Er mwyn gwella democratiaeth Cymru, byddaf yn cynnig yr holl welliannau hyn, gan apelio ar Aelodau i ystyried yr hyn sydd y tu ôl iddyn nhw mewn gwirionedd, yn hytrach na rhywfaint o'r rhethreg wleidyddol bleidiol yr ydym ni wedi'i chlywed.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 84? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, gan fod yna wrthwynebiad, dwi'n atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais ar y gwelliannau cyntaf. Felly, atal y cyfarfod dros dro.
Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 84 yn enw Mark Isherwood. Dwi'n galw am bleidlais ar y gwelliant hynny yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn.
Gwelliant 85 yw'r gwelliant nesaf.
Mark Isherwood, a yw wedi ei gynnig?
Cynigiwyd.
Ocê. Y bleidlais nesaf, felly, ar welliant 85. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Y bleidlais nesaf yw gwelliant 1.
Julie James, a yw wedi ei gynnig?
Cynigiwyd.
Pleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i gario.
Mark Isherwood, a yw gwelliant 86 wedi'i gynnig? Mark Isherwood, a yw gwelliant 86 wedi'i gynnig?
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 86? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]
Mae gwrthwynebiad.
Felly, symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, dau yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 86 wedi'i wrthod.
Gwelliant 87. A yw wedi ei gynnig, Mark Isherwood?
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 87? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Galwaf bleidlais ar welliant 87. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
A dyna ni'r cyfnod pleidleisio ar y grŵp cyntaf.