Part of the debate – Senedd Cymru am 7:30 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ddegawd newydd wawrio yng Nghymru, roedd ein GIG unwaith eto'n cael trafferth gyda phwysau'r gaeaf. Nid oedd Ionawr 2020 yn anarferol. Bob gaeaf dros y blynyddoedd diwethaf, llusgodd ein GIG i stop wrth iddo gael trafferth i ymdopi â thymor anwyd a ffliw. Cafodd triniaethau nad oeddent yn rhai brys eu torri wrth i'r GIG redeg allan o welyau unwaith eto. Gwelodd adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru eu hamseroedd aros gwaethaf erioed. Dim ond 72 y cant o gleifion a dreuliodd lai na phedair awr mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn aros i gael eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, o gymharu â'r targed o 95 y cant. Roedd y ffigurau hyn yn sylweddol waeth na blynyddoedd blaenorol. Roedd mwy o gleifion nag erioed wedi aros dros 12 awr—ymhell dros 6,500—er bod y targed yn datgan na ddylai neb aros cyhyd â hynny. Methodd y gwasanaeth ambiwlans gyrraedd ei darged ar gyfer ymateb ar unwaith i alwadau sy'n bygwth bywyd am yr eildro ers cyflwyno'r targed hwnnw. Felly, er gwaethaf gaeaf ysgafn, cafodd ein GIG ei wthio bron i'r pen unwaith eto.
Yna, daeth syndrom anadlol difrifol acíwt newydd i'r amlwg yn un o daleithiau dwyreiniol Tsieina. Nid oedd yn hir cyn i feirws SARS-CoV-2 ledaenu o gwmpas y byd, a dechreuodd pobl yng Nghymru ddal COVID-19—y clefyd anadlol a fasgwlaidd acíwt a achosir gan y feirws. Wrth i nifer yr achosion gynyddu ac wrth i'n hysbytai ddechrau llenwi ag achosion o'r coronafeirws, cafodd yr holl driniaethau nad ydynt yn rhai brys eu hatal unwaith eto. Yr hyn oedd yn wahanol y tro hwn oedd bod gwasanaethau sgrinio wedi cael eu hatal hefyd. Ac fel rwyf wedi dweud yn y Siambr hon droeon, mae sgrinio'n achub bywydau, ac mae'n un o'r gwasanaethau pwysicaf a gynigir gan y GIG. Mae'r ffaith mai dim ond nawr y mae'r gwasanaethau hyn wedi ailgychwyn yn anffodus iawn. Fel goroeswr canser, gwn yn rhy dda mai diagnosis cynnar yw'r allwedd i oroesi, a heb y gwasanaethau sgrinio, faint o ganserau sydd bellach wedi mynd heb eu canfod? Mae rhai amcangyfrifon yn rhoi nifer y bobl â chanserau na wnaed diagnosis ohonynt yng Nghymru mor uchel â 3,000. Dywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf fod atgyfeiriadau canser wedi dychwelyd i lefelau arferol bron, ond faint o bobl sydd wedi cael eu gobaith o oroesi yn lleihau o ganlyniad i'r misoedd ers hynny? Yn ôl cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser Cymru, yr Athro Tom Crosby, gallai cynifer â 2,000 o bobl farw oherwydd oedi'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru. Yr wythnos hon, tynnodd y BBC sylw at achos un o athletwyr anabl Cymru a gafodd sgan MRI am diwmor ar yr ymennydd wedi'i ohirio am ddau fis, ac yn anffodus ni ellir rhoi llawdriniaeth i dynnu tiwmor yr unigolyn hwnnw bellach. Pe bai wedi cael y sgan mewn pryd, efallai y gellid bod wedi trin ei ganser sy'n tyfu'n gyflym. Mae'r achos dinistriol hwn ymhell o fod yn unigryw, ac mae fy mag post wedi bod yn llawn o lythyrau gan etholwyr y gohiriwyd eu triniaeth tra bo'r gwasanaeth iechyd yn ymladd y pandemig.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe wedi bod yn olrhain cofnodion iechyd dienw poblogaeth gyfan Cymru yn ystod y pandemig. Mae eu canfyddiadau'n dangos bod lefel y llawdriniaethau ledled Cymru, ym mis Ebrill, wedi gostwng i lai na chwarter yr allbwn arferol.