2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi masnach y DU fel y mae'n ymwneud â Chymru? OQ55823
Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda Gweinidog Gwladol y DU dros fasnach, Greg Hands. Rwy'n bwriadu parhau i adeiladu ar y patrwm o ymgysylltu a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd a byddaf yn cynnal trafodaethau dwyochrog rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys bod yn rhan o'r fforwm gweinidogol ar gyfer masnach.
Diolch am eich ateb, ond ceir pryderon penodol. Y mis diwethaf, gwrthododd Llywodraeth y DU y gwelliannau i’r Bil Amaethyddiaeth a osodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gytundebau masnach fodloni safonau diogelwch bwyd a safonau lles anifeiliaid y DU o leiaf. Rwyf wedi cael cryn dipyn o sylwadau gan ffermwyr a'u grwpiau, yn ogystal â diwydiannau fel y sector lletygarwch, sy'n wirioneddol bryderus am yr hyn y gallai hynny ei olygu i safonau bwyd y DU, a chystadleuaeth annheg hefyd. Y pryder yw, os gwneir cytundebau masnach â gwledydd a chanddynt safonau cynhyrchu bwyd is o lawer nag sydd gennym ni ar hyn o bryd—yr hyn y gallai hynny ei olygu iddynt hwy. Felly, rwy'n falch eich bod wedi dweud eich bod yn cael cyfarfodydd, ond pa asesiad a wnaethoch o’r posibilrwydd y bydd y bwyd is-safonol hwnnw'n llifo i’r DU, ac i Gymru'n benodol, gan effeithio ar ein marchnad a chynhyrchiant ein bwyd, a'r effaith, y sgil effaith, ar gynhyrchwyr bwyd yma, yn enwedig yn fy etholaeth i?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol ac am ei chefnogaeth barhaus i gynhyrchwyr bwyd yn ei rhanbarth. Rydym wedi dadlau’r achos yn gyson i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau masnach rhyngwladol o ran pa mor bwysig yw cynnal safonau bwyd er mwyn amddiffyn ein cynhyrchwyr bwyd yma yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig, mewn gwirionedd, nid yn unig o'r sicrwydd a roddwn i ddefnyddwyr yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ond hefyd o frand Cymru yn rhyngwladol, wrth inni geisio manteisio ar gyfleoedd pellach i allforio yn y dyfodol. Felly, rydym yn bryderus iawn ynghylch unrhyw bosibilrwydd o ostwng safonau a'r tandorri prisiau y gallai hynny ei olygu o bosibl. Mae'n rhaid inni beidio â rhoi ein cynhyrchwyr mewn sefyllfa lle maent yn wynebu cystadleuaeth annheg. Felly, rwy'n rhoi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i ddadlau’r achos hwnnw i Weinidogion Llywodraeth y DU. Fe fydd hi hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y bygythiad o safonau is, yn anuniongyrchol o bosibl o ganlyniad i fewnforion o rannau eraill o'r byd, yn un o'r rhesymau pam ein bod wedi bod mor bryderus ynghylch cynigion Llywodraeth y DU yn y Bil marchnad fewnol, sydd, fel y gŵyr, wedi’i gynllunio i raddau helaeth i sicrhau mai'r safonau isaf a fydd i'w gweld ar draws unrhyw ran o'r DU. Gwn y bydd yn rhannu ein pryderon difrifol ynglŷn ag effaith y Bil hwnnw a'n gwrthwynebiad i'w ddarpariaethau.
Gwnsler Cyffredinol, mae'n ymddangos eich bod wedi dweud yn eich ateb i Joyce Watson mai Llywodraeth y DU a ddylai fod yn arwain ar negodiadau masnach gyda pha barti bynnag sy'n cymryd rhan. Yn y gorffennol, rydych wedi cwyno nad yw Cymru'n gallu cyflwyno ei rheolau a'i rheoliadau gwahanol i rai'r DU yn gyffredinol. Onid ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y DU yn dangos safbwynt unedig yn y negodiadau hyn, yn enwedig gyda'r rheolau a'r rheoliadau mewn perthynas â mewnforio ac allforio nwyddau, a gwasanaethau yn wir? Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer o achosion wedi bod o gynhyrchion bwyd gwael iawn yn dod o'r UE dros y blynyddoedd.
Wel, rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi'i chael hi'n anodd ymatal rhag gwneud y sylw diwethaf hwnnw. Ond rwyf eisiau bod yn glir gyda'r Aelod fod ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â safbwynt negodi Llywodraeth y DU â thrydydd gwledydd, h.y. y tu hwnt i'r UE, wedi bod yn gadarnhaol. Ac fel y soniais yn fy ateb i Joyce Watson, mae yna batrwm o ymgysylltiad rydym wedi bod yn manteisio arno. A'r rheswm pam fod hwnnw mor bwysig yw oherwydd ei fod yn ein galluogi ni fel Llywodraeth, ar ran cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd Cymru, i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros y mathau o safonau rwyf newydd fod yn sôn amdanynt yn fy atebion blaenorol.
O ran y pwynt y mae'n ei wneud am safbwynt unedig yn y DU—cytunaf yn llwyr ag ef fod hynny'n well, os gellir ei gyflawni, mewn trafodaethau rhyngwladol. Rwy'n gresynu, fodd bynnag, nad yw'r ffordd y cynhaliwyd y negodiadau gyda'r UE wedi ceisio cyflawni'r safbwynt DU gyfan hwnnw. A chredaf, yn y pen draw, y bydd hwnnw'n gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU.