Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Felly, nid oes yna Weinidog adfer COVID ar hyn o bryd, Weinidog? Nid oeddwn yn ymwybodol fod eich cyfrifoldebau adfer COVID wedi dod i ben. Ond mae'n ddefnyddiol iawn cael o leiaf ryw fath o gadarnhad o hynny i Aelodau'r Senedd hon. Byddwn wedi meddwl y dylem fod wedi cael gwybod hynny ymhell cyn i chi ymddangos ger ein bron heddiw.
Mewn perthynas â'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych, felly, a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gafwyd gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn ag effaith COVID-19 ar ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig? Yn amlwg, rwyf wedi bod yn bryderus iawn, ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, o weld bod lefel diweithdra yng Nghymru wedi bod yn codi, a hynny'n gyflymach nag y gwnaeth mewn rhannau eraill o'r DU. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i benderfynu a oes cysylltiad rhwng hynny a hyd a llymder y cyfyngiadau lleol, ar y cyd â'r cyfnod atal rydym newydd fod drwyddo gyda'r cyfyngiadau cenedlaethol ledled Cymru?