Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:36, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach, Lywydd. Bydd y cwestiwn ar y papur trefn yn dangos yn gwbl glir yn rhinwedd pa swyddogaeth rwy'n ateb y cwestiynau heddiw, a chyfeiriaf yr Aelod at sylwadau'r Prif Weinidog mewn perthynas â hyn yn y pwyllgor y gwnaethom ein dau fynychu yn ddiweddar iawn.

Ond y pwynt y mae'n ei wneud, mewn perthynas â'r ddogfen ei hun—rwy'n credu bod y ddogfen yn amlinellu rhai o'r risgiau sylweddol y mae economi Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i COVID ac mae'n rhagweld y bydd nifer sylweddol o swyddi'n cael eu colli, yn enwedig ymhlith carfannau penodol o bobl yng Nghymru. A dyna'n union pam fod un o'r blaenoriaethau a nodwyd ynddi'n ymwneud â sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pobl yn aros mewn gwaith lle mae ganddynt waith, neu yn y sefyllfa orau i gael gwaith newydd, os mai dyna'r llwybr sydd ar gael iddynt. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â buddsoddiad sylweddol mewn swyddi a chyflogadwyedd o'r math y mae Gweinidog yr economi eisoes wedi'i gyhoeddi. Mae rhywfaint ohono'n ymwneud ag ysgogi'r economi drwy fentrau sydd â chanlyniadau cadarnhaol eraill yng nghyd-destun COVID. Felly, bydd rhai o'r ymyriadau sy'n ymwneud â thai gwyrdd ac adeiladu tai yn digwydd yn y fan honno. Ac mae'r edefyn hwnnw, rwy'n credu, yn rhedeg drwy'r ddogfen i gyd mewn ffordd sy'n dangos, rwy'n credu, fod effaith COVID ar ein cymdeithas yn amlweddog iawn, yn anffodus.