Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Wel, rŷch chi'n gwybod, fel mae Dai Lloyd yn gwybod, rŷn ni wedi gosod gwelliannau, ac mae'r Arglwyddi wedi cymryd yr awenau ar gyflwyno rhai o'r gwelliannau hynny, ond rwy'n credu, ar y cyfan, fod pob un wedi cael ei gyflwyno mewn rhyw ffordd. Mae'r memorandwm rŷn ni wedi gosod o flaen y Senedd ynglŷn â'r cydsyniad yn disgrifio yn fanwl, rwy'n credu, ein gofidiau ni yng nghyd-destun y Bil. Rŷn ni'n disgwyl i bob un o'r rheini gael eu delio â nhw. Os na ddigwyddith hynny, bydd dim newid ar y cyngor rŷn ni'n ei roi i'r Senedd i wrthod cydsyniad i'r Bil fel mae e wedi'i gyflwyno, ac rwy'n gobeithio, ac yn disgwyl, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddim yn parhau gyda'r Bil yn wyneb gwrthwynebiad y Seneddau.