Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:41, 11 Tachwedd 2020

Diolch am hynna, Gweinidog. Nawr, i droi at faterion a heriau diwedd y cyfnod pontio, ac, wrth gwrs, rydyn ni gyd wedi darllen yr ymateb rydych chi wedi ei gyflwyno heddiw yn y 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020'—. Nawr, yn benodol ynghylch Brexit a phorthladdoedd Cymru, mae porthladd Dulyn wedi buddsoddi €30 miliwn i ddatblygu adnoddau tollau yno. Mewn cymhariaeth, bychan iawn ydy'r datblygiadau angenrheidiol yng Nghaergybi ac Abergwaun. Felly, pam fod trefniadau Brexit porthladdoedd Cymru gymaint ar ei hôl hi o gymharu efo'n cefndryd Gwyddelig?