Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Wel, rydym ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle dylai ymateb Llywodraeth y DU gael ei liwio gan ystyriaethau gwleidyddol—50 diwrnod cyn diwedd y cyfnod pontio—ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i gydweithio â Llywodraeth y DU i baratoi Cymru gystal ag y gallwn ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond nid wyf am esgus am eiliad fod gennym farn wahanol iawn ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae hynny'n gwbl glir, ac rydym yn credu bod angen i Lywodraeth y DU newid trywydd ar pwynt hwn a blaenoriaethu swyddi a bywoliaeth pobl. Rwyf am wrthsefyll y gwahoddiad yng nghwestiwn yr Aelod i fynd i'r afael â'r pwynt am rôl yr Undeb Ewropeaidd yn y gyfres hon o negodiadau. Mae gan ddinasyddion y DU hawl i ddisgwyl i Lywodraeth y DU ddiogelu eu buddiannau. Fe wnaeth Llywodraeth y DU adfer ei rheolaeth. Llywodraeth y DU sy'n rheoli, ac os nad yw'r cytundeb hwn yn digwydd, neu os yw'n digwydd ar sail wan, hwy fydd yn gyfrifol.