Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Wel, onid yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gweld nad yw'n debygol o gael ymateb ffafriol i hyn gan Lywodraeth y DU os yw'n parhau â'i wrthwynebiad sylfaenol i sicrhau Brexit go iawn, yn enwedig drwy gefnogi galwad eithriadol yr UE y dylai eu sefydliadau deddfwriaethol a'u llys yn Lwcsembwrg barhau i ddeddfu a dehongli'r ddeddfwriaeth honno er anfantais Prydain? Ni allai'r un Lywodraeth annibynnol fyth dderbyn gwarchodaeth o'r fath, a dyna yw hanfod y Bil marchnad fewnol. Felly, os yw eisiau cydweithrediad gan Lywodraeth y DU ac ennill consesiynau, nid yw'n debygol o gael hynny drwy barhau â'r awyrgylch o ystumio gwleidyddol a glywsom ganddo y prynhawn yma yn ei atebion i nifer o gwestiynau.