2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
9. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y mae penderfyniadau a wneir yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn ei chael ar bobl Cymru? OQ55829
Mae prif bynciau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r DU) yn cynnwys negodiadau, parodrwydd, fframweithiau a'r farchnad fewnol—mae pob un ohonynt yn feysydd sy'n effeithio'n fawr ar bobl Cymru. Yn anffodus, mae ymrwymiad annigonol Llywodraeth y DU i gydweithio yn y meysydd hyn wedi tanseilio cyfraniad y Llywodraethau datganoledig ym mhob agwedd ar baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Wel, onid yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gweld nad yw'n debygol o gael ymateb ffafriol i hyn gan Lywodraeth y DU os yw'n parhau â'i wrthwynebiad sylfaenol i sicrhau Brexit go iawn, yn enwedig drwy gefnogi galwad eithriadol yr UE y dylai eu sefydliadau deddfwriaethol a'u llys yn Lwcsembwrg barhau i ddeddfu a dehongli'r ddeddfwriaeth honno er anfantais Prydain? Ni allai'r un Lywodraeth annibynnol fyth dderbyn gwarchodaeth o'r fath, a dyna yw hanfod y Bil marchnad fewnol. Felly, os yw eisiau cydweithrediad gan Lywodraeth y DU ac ennill consesiynau, nid yw'n debygol o gael hynny drwy barhau â'r awyrgylch o ystumio gwleidyddol a glywsom ganddo y prynhawn yma yn ei atebion i nifer o gwestiynau.
Wel, rydym ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle dylai ymateb Llywodraeth y DU gael ei liwio gan ystyriaethau gwleidyddol—50 diwrnod cyn diwedd y cyfnod pontio—ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i gydweithio â Llywodraeth y DU i baratoi Cymru gystal ag y gallwn ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond nid wyf am esgus am eiliad fod gennym farn wahanol iawn ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae hynny'n gwbl glir, ac rydym yn credu bod angen i Lywodraeth y DU newid trywydd ar pwynt hwn a blaenoriaethu swyddi a bywoliaeth pobl. Rwyf am wrthsefyll y gwahoddiad yng nghwestiwn yr Aelod i fynd i'r afael â'r pwynt am rôl yr Undeb Ewropeaidd yn y gyfres hon o negodiadau. Mae gan ddinasyddion y DU hawl i ddisgwyl i Lywodraeth y DU ddiogelu eu buddiannau. Fe wnaeth Llywodraeth y DU adfer ei rheolaeth. Llywodraeth y DU sy'n rheoli, ac os nad yw'r cytundeb hwn yn digwydd, neu os yw'n digwydd ar sail wan, hwy fydd yn gyfrifol.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.