Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog a Mrs von der Leyen wedi cytuno i gadarnhau ymdrechion ar y cytundeb masnach ar ôl Brexit. Yn wir, mae'r cytundeb partneriaeth economaidd cynhwysfawr rhwng y DU a Japan bellach wedi'i lofnodi, gan roi hwb i frandiau'r DU gydag amddiffyniadau ar gyfer cynnyrch amaethyddol mwy eiconig y DU, o saith yn unig o dan delerau cytundeb yr UE-Japan i dros 70, gan gynnwys cig oen Cymru. Ac fel y dywedoch chi yn y datganiad ysgrifenedig ar 3 Tachwedd 2020, mae Llywodraeth y DU bellach wedi llofnodi 21 o gytundebau parhad hyd yma ac mae negodiadau'n mynd rhagddynt ar oddeutu 17 o rai eraill. Fodd bynnag, rydych wedi nodi yn y gorffennol fod llawer o'r gwledydd hyn yn fach ac nad oes ganddynt fawr o fasnach â Chymru. Nawr, mae gweinyddiaethau datganoledig yn ymgysylltu'n ystyrlon â Llywodraeth y DU, megis drwy'r fforwm gweinidogol ar gyfer masnach. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i hybu allforion, yn enwedig cynnyrch amaethyddol i wledydd y mae gennym gytundeb â hwy hyd yma ond ychydig iawn o fasnach? Diolch.